Mae’r Pierhead yn lleoliad unigryw i ymwelwyr, digwyddiadau a chynadledda i bobl Cymru; lle i fynegi barn a rhoi llais i faterion sy’n bwysig.
Yn adeilad rhestredig Gradd Un hanesyddol, roedd y Pierhead ar un adeg yn ganolbwynt masnach yng Nghymru. Mae’r adeilad mawreddog hwn wedi sefyll yn falch dros 113 mlynedd o hanes unigryw ac amrywiol Bae Caerdydd.
Beth yw’r adeilad?
Helpodd y Pierhead Gymru i greu ei hunaniaeth trwy ddŵr a thân ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ei nod heddiw yw hysbysu, cynnwys ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i greu Cymru ar gyfer y dyfodol.
Mae’n lleoliad digwyddiadau a chynadleddau i ategu gwaith y Cynulliad. Mae hefyd yn arddangosfa gyffwrdd ysgafn i lywio, cynnwys ac ysbrydoli ymwelwyr i’r Pierhead.
Ar gyfer beth y defnyddiwyd y Pierhead yn wreiddiol?
Adeiladwyd y Pierhead fel swyddfeydd i Gwmni Dociau Bute, a ailenwyd yn Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897. Cymerodd bron i dair blynedd i’w adeiladu. Roedd ei arddull gothig yn nodweddiadol iawn ac yn boblogaidd ar y pryd.
GWYBODAETH I YMWELWYR
Mae modd defnyddio’r lifftiau yn yr adeilad ac mae seddi ar gael yn yr holl fannau gyhoeddus.