Dyna pam mae pob pizzeria PizzaExpress yn llawn pizzazz a dim ond y cynhwysion mwyaf ffres a perffaith sy’n dderbyniol. Dyna pam mae pob pryd yn cael ei greu gyda gofal – a dawn. Oherwydd yn PizzaExpress, dyw pizza ddim yn golygu amser cinio yn unig, mae’n golygu amser sioe.
Ar y fwydlen fe welwch eiconau rydych chi’n eu hadnabod ac yn eu caru fel y peli toes a’r pizzas ‘American Hot’ a ‘Sloppy Giuseppe’, yn ogystal ag opsiynau figan neu heb glwten, a seigiau ysgafnach fel y ‘Leggera’. Heb sôn am y fwydlen ‘Piccolo’ i blant, coctels arbennig a phwdinau na ellir eu colli.
Fe ddewch chi o hyd i ni y tu fewn i ddatblygiad modern Dewi Sant, wrth ymyl llu o opsiynau siopa ac adloniant. Ar draws y ffordd, mae Arena’r Utilita – sy’n enwog am groesawu rhai o’r enwau amlycaf ym myd cerddoriaeth a chomedi – a dim ond ychydig funudau i ffwrdd ar droed mae Castell Caerdydd. Rydyn ni reit yng nghanol popeth, felly beth am gymryd hoe fach o’ch diwrnod prysur gyda thamaid blasus i fwyta?
Felly gadewch i PizzaExpress droi’ch prif gwrs yn brif ddigwyddiad pan fyddwch chi’n bwyta allan, yn cael tecawê neu’n archebu danfoniad. Ac os ydych chi’n ymuno â’r PizzaExpress Club, gallwch ennill danteithion am ddim bob tro i chi fwyta, o bryd o fwyd am ddim i blentyn a mwy ar lefel Aur i beli toes ar lefel Efydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn pizzaexpress.com/club.
DIRECTIONS
CONTACT
Ffôn
029 2023 3091