Ffurfiwyd Principality Parking i helpu pobol ffeindio llefydd parcio a’u bwcio ymlaen llaw. Rydym wedi bod yn gwasanaethu ymwelwyr i Gaerdydd ers Ffeinal y Pencampwyr ym 2017.
Rydym yn cyd-weithio gyda chlybiau chwaraeon cymunedol lleol ac ysgolion fel eu bod nhw’n gallu codi arian o’u llefydd parcio wrth gynnig atebion i’r ymwelwyr sy’n awyddus i yrru i ddiddigwyddiad yn lle mentro ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn dewis safleoedd sydd o fewn pellter cerdded rhesymol i ganol y ddinas fel bod gyrwyr yn gallu osgoi tagfeydd canol y ddinas ar ddyddiau digwyddiadau
Gyda hwn mewn golwg rydym wedi ffurfio cysylltiadau gyda Chanolfan Bêl-droed Gôl ac Ysgol Pwll Coch ac eraill. Rydym yn cynnig ateb parcio i’r sawl hoffai bwcio a thalu am eu llefydd parcio ymlaen llaw ac ar-lein fel eu bod nhw’n gallu treulio llai o amser yn poeni am lefydd i barcio a mwy o amser yn edrych ymlaen at y digwyddiad.
Mae ein holl leoliadau parcio o fewn dro 30 munud i’r stadiwm ac rydym yn actif iawn wrth chwilio am leoliadau newydd yn ôl y galw.
Yn ogystal â llefydd parcio mae nifer helaeth o’n lleoliadau yn cynnig tai bach i chi eu defnyddio ar ôl eich siwrne ac yn aml iawn cyfle am fwyd a diod cyn mynd i ganol y ddinas.
Rydym hefyd yn ddyfeisgar wrth chwilio am ffyrdd i wella profiadau cwsmeriaid gan ddarparu, yn dibynnu ar y digwyddiad a’r lleoliad, bwsys gwennol i leihau hyd y daith gerdded a marsial ar gyfer tywys pobol nol i’w ceir.
Wrth gwrs mae ein meysydd parcio yn cael eu monitro gan TCC.