Dewch i brofi cyfleustra, cysur ac ansawdd adeilad 21 llawr Gwesty’r Radisson Blu, Caerdydd, y tro nesaf i chi ddod i ymweld â phrifddinas Cymru. Wedi’i leoli yng nghalon y ddinas, mae’r gwesty o fewn pellter cerdded o Orsaf Caerdydd Canolog ac ond yn 24 cilomedr o Faes Awyr Caerdydd
Gallwch brofi’r cyrchfannau busnes, atyniadau diwylliannol, siopa, bwytai a bywyd nos gerllaw’r gwesty. Dewiswch o blith 215 o ystafelloedd gwely a swîts, pob un ohonynt â mwynderau 4 seren megis defnydd o ryngrwyd diwifr cyflym iawn am ddim, ffenestri sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd a chyfleusterau paratoi te a choffi.
Rhowch gynnig ar gymysgedd ffres o fwyd Prydeinig ag elfen o’r Cyfandir yn ein Bwyty Collage, ac ymlaciwch â diod cyn mynd i’r gwely, ym Mar a Lolfa Collage.
Mae’r gwesty’n cynnig chwe ystafell gyfarfod amlbwrpas yn ogystal â chanolfan fusnes a dewisiadau arlwyo. Mae’r gwesty’n cynnig hyn a hyn o lefydd parcio ar y safle am £25 y noson, a gallwch ddod o hyd i lefydd parcio cyfleus gerllaw hefyd ym meysydd parcio John Lewis, Canolfan Siopa Dewi Sant II a’r NCP yn Pellet Street.