Ewch i Rondda Cynon Taf a cherdded ar hyd ein cymoedd a’n bryniau enwog a darganfod diwrnodau unigryw allan ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol, Taith Pyllau Glo Cymru a Lido Cenedlaethol Cymru. Mwynhewch daith flasu yn nistyllfa wisgi fyd-enwog Penderyn neu ymlacio a blasu’r bwyd penigamp yn ein bwytai a’n caffis niferus. O’r rheini sy’n ceisio cyffro i’r sawl sy’n dwlu ar siopa – mae rhywbeth at ddant pawb yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Rhondda Cynon Taf, sydd â rhai o olygfeydd gorau’r DU, 20 munud o Gaerdydd, prifddinas Cymru, mewn car. Mae’n hawdd ei gyrraedd o’r M4 ac mae’n cynnig atyniadau grŵp unigryw, penigamp gan gynnwys Taith Pyllau Glo Cymru, Profiad y Bathdy Brenhinol, sesiynau blasu wisgi a gwin a chrochendy hanesyddol.
SUT I DREULIO DIWRNOD YN Y RHONDDA
Dim byd ond cyffro. Profiad anhygoel yn ngodre Bannau Brycheiniog.
Dechreuwch eich diwrnod mewn steil, gyda phrofiad unwaith mewn oes yn Zip World Tower.
Dyma’r unig brofiad Zip World y tu allan i atyniadau Gogledd Cymru. Hedfanwch o ben mynydd y Rhigos ar Phoenix, weiren wib gyflymaf y byd, a reidio Tower Coaster ar gyflymder o hyd at 25mya!
Mae’r profiad yn para tua dwy awr.
Mae gan Cegin Glo yn Zip World Tower fwyd anhygoel – a golygfeydd gwell fyth! Sbwyliwch eich hun i ginio a diod a chofiwch edrych ar y memorabilia cloddio yn y caffi. Mae yno i ddathlu hanes diwydiannol pwysig safle Zip World Tower, Glofa’r Tŵr ar un adeg – y pwll glo y gweithiwyd ynddo’n barhaus am y cyfnod hiraf yn y DU ac o bosib y byd.
Beth am gael hufen iâ i bwdin tra’n mwynhau’r golygfeydd? Mae fan boblogaidd wrth olygfan y Rhigos sydd wedi bod yno ers degawdau. Gallwch fwynhau hufen iâ blasus a golygfa anhygoel.
Llai na hanner awr mewn car o Zip World Tower mae Distyllfa Wisgi Penderyn.
‘O Gymru i’r Byd…’
Mae Distyllfa Penderyn yn cynhyrchu wisgi brag sengl a gwirodydd penigamp yn nhroedfryniau’r Bannau godidog yn Ne Cymru.
Yn ystod y daith byddwch yn dysgu am sefydlu Penderyn, sut mae’r wisgi penigamp yn cael ei wneud a’r hyn sy’n ei wneud mor unigryw. Byddwch yn gweld y felin, y gerwyn frag, distyllbeiriau pair copr sengl arloesol Penderyn, a’r ychwanegiad diweddaraf – y pâr o ddistyllbeiriau.
Ar ddiwedd eich taith byddwch yn gallu blasu rhai o gynhyrchion y Ddistyllfa yn y Bar Blasu. Cofiwch fynd i’r siop i brynu potel neu ddwy i’w mwynhau gartref.
Mae’r teithiau a’r sesiynau blasu’n para tua awr.
Rhondda Cynon Taf
CYSYLLTWCH Â'R TÎM TWRISTIAETH YN RHONDDA CYNON TAF
E-bost
tourismenquiry@rctcbc.gov.uk