Agorwyd y Senedd gan y Frenhines Elizabeth II a’r Arglwydd Richard Rogers, y pensaer enwog ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006. Mae’r adeilad wedi’i leoli mewn safle delfrydol ar y glannau, ochr yn ochr â’r Pierhead, sydd hefyd yn rhan o’r ystâd.
Mae’r Senedd yn cynnwys y Siambr (y siambr drafod) a sawl Ystafell Bwyllgora, ac mae gan bob un o’r ystafelloedd hyn oriel gyhoeddus lle gall aelodau’r cyhoedd wylio’r trafodaethau sy’n dylanwadu ar eu bywydau, yn ogystal â mwynhau arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf drwy gydol y flwyddyn. Ceir mynediad at yr orielau hyn yn rhad ac am ddim.
Mae’r adeilad hwn yn un o’r Seneddau mwyaf ecogyfeillgar yn y byd. Defnyddiwyd deunyddiau lleol o Gymru i’w adeiladu, gan gynnwys llechi o Lan Ffestiniog, pren derw o Sir Benfro a dur o Bort Talbot. Yn ogystal, defnyddir system gwresogi geothermol i gadw’r adeilad yn gynnes yn y misoedd oer.
Mae’r Senedd yn hollol dryloyw ar y lefelau cyhoeddus. Ar y lefel uchaf, mae caffi a siop lle gall y cyhoedd, unwaith y maent wedi cael gwiriad diogelwch, fwynhau paned o de a phicau ar y maen wrth bori dros y llyfrau a’r crefftwaith sydd ar gael o bob cwr o Gymru.
Dylech alw draw i gael sgwrs â staff cyfeillgar y dderbynfa, a all ddarparu cymorth mewn perthynas â’ch ymweliad a’ch ymholiadau cyffredinol.
GWYBODAETH I YWELWYR:
Mae mynediad a phob taith yn rhad ac am ddim, gellir trefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau grŵp tywysedig o hyd at 40 o bobl, yn amodol ar argaeledd.
Mae caffi ar y safle ar gael yn yr Oriel gyda dewis o ddiodydd poeth ac oer a byrbrydau ysgafn.
Mae lifftiau a grisiau yn hygyrch i bob rhan gyhoeddus o’r adeilad, mae nifer o gadeiriau olwyn ar gael ar gais. Darperir seddi cyhoeddus yn y Neueadd ac yn yr Oriel.
CYRRAEDD Y SENEDD
Yn y Car
Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Bae Caerdydd, ar gyfer sat-nav defnyddiwch god post Cf10 4PZ.
Parcio
Y maes parcio agosaf yw Maes Parcio Cei'r Fôr-Forwyn (CF10 5BS) neu Q-Park Bae Caerdydd (CF10 4PH).
Ar y Trên
Yr orsaf agosaf yw Bae Caerdydd, mae trenau'n rhedeg tua. bob 12 munud o Caerdydd Stryd y Frenhines.
Ar Fws
Y safle bws agosaf yw Canolfan y Mileniwm.
Get in touch with The Senedd
Ffôn
030 0200 6565
E-bost
contact@assembly.wales
Cyfeiriad
Stryd y Lanfa, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA