Mae Canolfan Dewi Sant ar agor
Yn ystod y cyfnod anarferol hwn, mae llawer o’r siopau’n gweithredu oriau gwahanol i’r arfer, ac mae gan rai gyfyngiadau ar waith. Cliciwch yma i ddysgu mwy.
Wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru, mae Dewi Sant Caerdydd yn gyrchfan siopa pennaf Cymru.
Gyda thros 40 miliwn o siopwyr yn heidio trwy’r drysau bob blwyddyn, mae Dewi Sant wedi sicrhau bod canol dinas Caerdydd bendant ar y map fel un o’r mannau gorau ar gyfer manwerthu yn y DU.
Gyda thros 180 o siopau, caffis a bwytai i’w fforio, Dewi Sant yw’r cyrchfan delfrydol am ddiwrnod allan, p’un ai a ydych yn bwriadu adlonni’r teulu, cael cinio amheuthun gyda ffrindiau neu ddod o hyd i’r eitem berffaith honno ar gyfer eich wardrob.
MWY O WYBODAETH
Mae ei gymysgedd o frandiau dylunwyr a’r gorau o’r Stryd Fawr yn golygu mai Dewi Sant yw’r lle perffaith i fodloni angerdd am ffasiwn, heb sôn am fanwerthwyr teuluol, addurno mewnol, harddwch a phampro.
Mae Dewi Sant wedi dod â llawer o enwau cyffrous newydd i Gymru am y tro cyntaf erioed – gan ddyrchafu Caerdydd i un o’r lleoedd gorau i siopa y tu allan i Lundain. Agorodd Michael Kors a Victoria’s Secret eu drysau i siopau blaenllaw yng Nghymru.
Mae digon o frandiau eraill sydd wedi ymddangos am y tro cyntaf yng Nghymru yn Dewi Sant, gan gynnwys John Lewis, Lego, Jo Malone, White Company, Apple, Pandora ac All Saints. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i’r H&M fwyaf yn y DU.
Hefyd mae gan Dewi Sant y cynnig ffasiwn stryd fawr gorau sydd i’w gael, gydag enwau fel River Island, New Look, Debenhams ac M&S. Gyda chymaint o siopau o dan un to, byddwch yn sicr o ddod o hyd i’r wedd berffaith!
Yn ogystal â bod yn brifddinas siopa Cymru – mae gan Dewi Sant hefyd rai o’r lleoedd mwyaf bywiog i fwyta ac i yfed yn y ddinas, gan gynnwys bwytai a fydd yn plesio rhai o’r selogion bwyd mwyaf brwd.
Yn llawn dop gyda bwytai sy’n addas i bob chwaeth, o TGI Fridays ar gyfer gwledd i’r teulu, i Nandos – uchafbwynt bwyta’n gymdeithasol, bydd digon o ddewis ar ôl diwrnod o therapi siopa. Mae ardal Yr Aes yn llawn lleoliadau blasus, gan gynnwys Wahaca, Jamie’s Italian a’r Cosy Club.
Mae Dewi Sant yng nghanol canol dinas Caerdydd, ac yn lle perffaith i gael mynediad at yr atyniadau gorau i dwristiaid gan gynnwys Castell Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol a mannau gwyrdd trawiadol y ddinas.
I gael diwrnod allan hwyliog, mae’r ganolfan yn gartref i Treetop Adventure Golf. Gyda dau gwrs golff bach gyda 18 twll, gall teuluoedd a ffrindiau fynd i’r afael â’r Tropical Trail neu’r Ancient Explorer, a hyd yn oed mentro’r 19eg twll bonws i ennill rownd am ddim.
Drwy gydol y flwyddyn, mae gan Ganolfan Dewi Sant galendr sy’n byrlymu gyda digwyddiadau cyffrous. O ddigwyddiad siopa myfyrwyr mwyaf y DU i ganolfannau hunluniau Nadoligaidd, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Parcio
Yn eistedd uwchben St Davids Dewi Sant mae cyfleuster parcio ceir cyfoes 24 awr 2,000 awr, a fydd ar gyfer siopwyr yn un o'r lleoedd gorau i barcio yng nghanol y ddinas.
Ar Fws
Yr arosfannau bysiau agosaf yw Canal Street (JF) neu Hayes Bridge Road (JH), mae'r ddau o fewn pellter cerdded byr.
Ar y Trên
Mae St David's Dewi Sant yn daith gerdded fer o orsafoedd trên Caerdydd Canolog a Chaerdydd Stryd y Frenhines.
Ffôn
029 2036 7600
Cyfeiriad
St David’s Dewi Sant, Cardiff, CF10 1AH