Wedi’i weithredu bron yn gyfan gwbl gan aelodau’r gymuned TRhA (traws, rhyngrywiol ac anneuaidd), mae’r Queer Emporium yn gartref i ryweddau lleiafrifol ac yn ymdrechu i greu man diogel cadarnhaol gyda digwyddiadau a gweithdai ar gyfer y gymuned.
Mae’r Queer Emporium yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau, gan gynnwys gigs yn yr Arcêd Frenhinol sy’n cynnwys sioeau comedi, drag a mwy, a digwyddiadau cymunedol, fel Cyfeillio Cyflym, clybiau crefft, boreau rhieni a mwy.
Yn ogystal â’n gwerthwyr a’n digwyddiadau gwych, rydym hefyd yn gwerthu coffi, diodydd ysgafn, alcohol, cacennau a phryd bwyd mwyaf hoyw y dydd, brecinio. Galwch heibio a rhowch gynnig ar ein cynigion enwog fel y BisexualiTea (sy’n newid lliw), a’r ‘Tahini Whipped Peas’ ar fara surdoes!
Gallwch gael mynediad i’r Queer Emporium trwy’r fynedfa ffrynt lle mae’r siop, sy’n cynnwys gris, neu drwy ein mynedfa ochr, sy’n wastad â’r ddaear. Mae toiled i bobl anabl ar y safle hefyd.
CYFARWYDDIADAU
Ffôn
07496 571806
Cyfeiriad
The Queer Emporium, 2-4 Arcêd Frenhinol, Caerdydd, CF10 1AE