TREETOP ADVENTURE GOLF

Mae gan Treetop Adventure Golf ddau gwrs golff mini 18 twll. Taclwch y Cwrs Trofannol a Chwrs yr Henfyd cyn i chi herio’r 19eg twll i ennill rownd am ddim!

GWEFAN

ORIAU AGOR:

Sul - Mer

10:00 - 21:00

Iau - Sad

10:00 - 22:00

Treetops Adventure Golf Treetops Adventure Golf Treetops Adventure Golf

Chwilio am antur epig? Ewch am dro drwy fforest drofannol wyrddaf Caerdydd, lle mae’r taranau’n taranu, hen ysbrydion yn aflonyddu a golff mini’n teyrnasu.

Taclwch y Cwrs Trofannol neu Gwrs yr Henfyd, ein cyrsiau dan do 18-twll. Yna mwynhewch goffi, coctels trofannol a pizza cartref yn y Tŷ Clwb.

Yn deuluoedd, criw o ffrindiau, cyplau cariadus neu feistri profiadol… mae rhywbeth i bawb gennym yn ein byd trofannol. Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos a does dim angen cadw lle – dim ond cyrraedd a bant â chi!

CWRS TROFANNOL

Bant â chi ar antur 18-twll drwy’r jwngl.

Crwydrwch drwy ganopi’r goedwig, sgwrsiwch â thwcan direidus, pasiwch y Coed Campus, a gwyliwch rhag y mellt a tharanau wrth i chi fynd. O, ac a allwch chi glywed y brogaod bach yn harmoneiddio yn y gors dywyll?

Ydych chi’n barod am her drofannol?

CWRS YR HENFYD

Darganfyddwch 18 twll o hud a lledrith.

Cewch groeso cynnes i Deyrnas y Cymylau gan y Mwgwd Sanctaidd a’r Pennaeth Llwfr – ond peidiwch â’u hypsetio, da chi! Pytiwch drwy Goeden Enfawr i ddeffro eneidiau hynafol y niwl, ond cadwch lygad ar dduwiau’r taranau wrth i chi basio’r Afon Hudol.

Allwch chi oresgyn teyrnas yr henfyd?

Y 19eg TWLL

Draw â chi i’r twll ychwanegol!

Mae Bob yn rhoi’r cyfle i bob chwaraewr brofi ei sgiliau ac ennill rownd am ddim. Ond cofiwch, os na fyddwch yn cyrraedd y nod bydd yn rhaid i chi ddioddef ychydig o dynnu coes enwog Bob.

Oes gennych chi’r gallu i drechu’r 19eg?

GWYBODAETH I YMWELWYR:

18 twll (1 cwrs)

  • Anturwyr – £11.50
  • Uwch feistri (60+) – £10.50
  • Young’uns (dan 5 oed) – £5.25
  • Myfyrwyr* – £9.75
  • Teulu o 4** – £36.70

36 twll (2 gwrs)

  • Anturwyr – £13.50
  • Uwch feistri (60+) – £10.50
  • Young’uns (dan 5 oed) – £6.50
  • Myfyrwyr* (+ Cwrw potel, seidr, gwin 125ml neu ddiod feddal AM DDIM) – £10.50
  • Teulu o 4** – £39
  • Teulu o 5** – £49

* Sul 5pm – Gwe 5pm gydag ID llun myfyriwr dilys
** Rhaid bod gan deulu un plentyn 12 oed neu’n iau

Hongian allan a mwynhewch coffi a choctels egsotig yn ein Clwb wedi ailwampio, neu wledda ar bitsas crefftus blasus o Pizza Pronto.

Mae’r jyngl Treetop yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn a phramiau. Gall pawb ddod i fwynhau gêm.

I’r golffwyr bach sydd eisiau gêm dawelach, mae’r fforest law yn ddistawach ar yr ail ddydd Sul o bob mis.

Dim sŵn yn y cefndir na goleuadau strôb, ac mae hyd yn oed y Masg Cysegredig yn sibrwd.