Mae Canolfan Breswyl Caerdydd yn cynnig cyfle i brofi atyniadau prifddinas Cymru tra’n aros yng Nghanolfan Mileniwm Cymru unigryw, un o brif leoliadau celfyddydol y byd.
Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell bâr ddwbl, 1 ystafell driphlyg, 3 ystafell ar gyfer grŵp o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae’r holl ystafelloedd yn cynnwys cyfleusterau en-suite.
Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa, sydd â bwrdd pŵl a pheiriannau bwyd a diod, a pheiriant coffi.
DIRECTIONS
CONTACT
Ffôn
029 2063 5678
E-bost
caerdydd@urdd.org