VOCO ST DAVID'S

Mae Gwesty voco Dewi Sant Caerdydd wedi’i leoli mewn man anhygoel ym Mae Caerdydd, gyda golygfeydd gwych o’r bae a Marina Penarth.

Mae Gwesty Dewi Sant Caerdydd wedi’i leoli mewn man anhygoel ym Mae Caerdydd, gyda golygfeydd gwych o’r bae a Marina Penarth. Mae’n westy penigamp 5 seren (yr unig un yng Nghaerdydd) AA yng Nghaerdydd ac mae’n safle moethus iawn ar gyfer naill ai seibiant byr, cynhadledd, priodas, dathliad neu gyfnod o ymlacio.

Profwch y gwahaniaeth yn yr ystafelloedd Principal Deluxe ar eu newydd wedd, gyda ffenestri mawr sydd â golygfeydd panoramig o Fae Caerdydd. Perffaith i fusnes neu bleser.

Mae’r gwesty o fewn cyrraedd hawdd y prif rwydweithiau trafnidiaeth a dim ond 2 awr o Lundain. P’un ai a ydych yn cynnal derbyniad mawr, dathliad preifat neu noswaith â thema, Gwesty Dewi Sant Caerdydd yw’r lleoliad perffaith yng Nghaerdydd i’ch digwyddiad arbennig.

Mae lleoliad blaen dŵr y gwesty’n cynnig opsiynau cyffrous gan gynnwys tripiau cychod cyflym, cyrsiau hwylio a gwylio natur yn y warchodfa natur wrth y gwesty. Mae rafftio dŵr gwyn, golff a gweithgareddau eraill ar gael gerllaw.