Neidio i'r prif gynnwys

Mae Y Plasty, Caerdydd yn adeilad rhestredig gradd II godidog, sydd mewn lleoliad ysblennydd a moethus ac mae modd ei logi ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arbennig.

Yn ei diroedd preifat ei hun, funudau yn unig o ganol y ddinas, codwyd yr adeilad rhestredig Gradd II hwn yn wreiddiol yng nghanol y 1890au ar gyfer James Howell, sefydlydd y siop adrannol enwog yng nghanol y ddinas. Fel cyn breswylfa hefyd i Arglwydd Faer Caerdydd, mae’r Plasty’n parhau i gynnal nifer o achlysuron dinesig.

Bellach mae cyfle i ymwelwyr â’r ddinas fwynhau Te Prynhawn traddodiadol swmpus, sy’n cynnwys taith dywys o’r tŷ Fictoraidd arbennig hwn. Mae’r tu mewn wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol, yn benodol y defnydd helaeth o waith pren wedi ei gerfio a gwaith pren brith ar y grisiau cain, y lle tân a’r ffenestri lliw hardd.

Ar y llawr cyntaf mae fflat breifat yr Arglwydd Faer a phedair ystafell wely ag ystafell ymolchi breifat sydd wedi croesawu ymwelwyr enwog gan gynnwys y cyn brif weinidogion, David Lloyd George a Winston Churchill, y gantores opera Adelina Patti a hyd yn oed y Brenin Siôr V. Daeth y pâr o Hollywood, Michael Douglas a Catherine Zeta-Jones, hefyd ar ymweliad byr â’r Plasty.

Ffoniwch neu edrychwch ar y wefan i weld y dyddiadau sydd ar gael ar gyfer Te Prynhawn (mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw). Gellir llogi’r Plasty hefyd ar gyfer priodasau, cyfarfodydd, partïon preifat a gwleddoedd, a gall hyn gynnwys aros dros nos.

LLOGI’R PLASTY

Te Prynhawn

Mwynhewch de prynhawn yn hafan mwyaf moethus canol dinas Caerdydd ac yna daith dywys o amgylch yr adeilad rhestredig hyfryd Gradd II hwn.

£20 y person (o leiaf 2 berson)

Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol, ffoniwch am fanylion.

Te Prynhawn Nadoligaidd

Ymunwch â ni fis Rhagfyr eleni, pan fyddwn yn cynnal wythnos o De Prynhawn Nadoligaidd, yma yn encilfa dinas mwyaf mawreddog Caerdydd.

Cewch eich trin i win cynnes wrth i chi gyrraedd a the prynhawn blasus, ac yna taith o amgylch yr adeilad rhestredig Gradd II godidog hwn.

Mae’n costio dim ond £25 y person (o leiaf 2 o bobl ar gyfer pob archeb).

Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol.

Pecyn Priodasau

Mae’r Plasty cain hwn yn lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod pwysicaf eich bywyd. Gallwch logi’r lleoliad unigryw hwn ar eich cyfer chi a’ch gwesteion yn unig ar gyfer diwrnod bythgofiadwy. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Ffoniwch i gael rhagor o fanylion.

Mansion House Mansion House Mansion House Mansion House Mansion House Mansion House
Mansion House
Chwarae Chwarae

Archebwch eich te aprynhawn yn Y Plasty - mae’n brofiad hynod arbennig.

Ffôn

029 2087 1736

E-bost

mansionhouse@cardiff.gov.uk

Cyfeiriad

Heol Richmond, Caerdydd CF24 3UN