Dydy hi ddim yng Nghaerdydd fel y cyfryw ond bum milltir oddi ar yr arfordir; mae Ynys Echni drawiadol mewn byd arall ac mae yno gyfoeth o hanes a bywyd gwyllt. Cewch eich synnu gan faint sydd i’w ddarganfod…
Ers yr Oesoedd Tywyll, bu Ynys Echni yn encil i fynachod ac yn noddfa i’r Llychlynwyr, yr Eingl-Sacsoniaid, cloddwyr arian a smyglwyr. Codwyd amddiffynfa yn Oes Fictoria ac eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond efallai ei bod fwyaf enwog am dderbyn y neges radio gyntaf erioed dros ddŵr gan Guglielmo Marconi ym 1897.
Os ewch ar daith yn ystod y dydd ar gwch, cewch rhwng tair a chwe awr ar yr ynys lle cewch brynu pecyn taith hunan-dywys neu fynd ar daith dywys am ddim ar ddyddiadau penodol. Cewch ymlacio a mwynhau awyrgylch tawel yr ynys a’i golygfeydd godidog a hefyd cewch fwynhau peint yn y Gull and Leek, tafarn fwyaf deheuol Cymru. Bydd cyfle hefyd i ymweld â’r siop anrhegion lle cewch brynu cardiau post, byrbrydau Masnach Deg ac ystod o gofroddion i gofio’ch profiad ar yr ynys.
Os hoffech ymestyn eich ymweliad ag Ynys Echni, mae modd trefnu aros dros nos.
CYRRAEDD YNYS ECHNI
Mewn Cwch
Ar gyfer tripiau i’r ynys, cysylltwch â bayislandvoyages.co.uk neu cardiffcruises.co.uk am fwy o wybodaeth. Mae ffi lanio o £5 i oedolion a £2.50 i blant a gesglir gan y warden pan gyrhaeddwch yr ynys.
Ffôn
029 2087 7900
E-bost
flatholmproject@cardiff.gov.uk
Cyfeiriad
Awdurdod Harbwr Caerdydd, Tŷ’r Frenhines Alexandra, Cargo Road, CF10 4LY