Neidio i'r prif gynnwys

Mae Croeso Caerdydd wedi llunio canllaw o bethau cyffrous i’w gwneud a’u mwynhau fel teulu.   Sgroliwch i weld atyniadau a digwyddiadau, hwyl a gweithgareddau am ddim ym Mae Caerdydd, Canol y Ddinas a’r tu hwnt.  Gwestai i deuluoedd rhag ofn y byddwch am ymestyn eich arhosiad ychydig yn hirach, a chyngor ymarferol y gallai fod angen i chi ei wybod.

Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r atyniadau a’r digwyddiadau teuluol niferus yn y ddinas yw hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalennau Gweld a Gwneud a Digwyddiadau i weld mwy.

Edrychwch ar ein canllaw hwyl i’r teulu yng Nghaerdydd isod

BAE CAERDYDD

 

Gyda’r tywydd yn brafio a’r dyddiau’n hirach, mae’n bryd mynd am y Bae, p’un a ydych chi eisiau hwyl llawn antur neu rwyfaint o awyr iach.

YMWELD Â CHEI’R FÔR-FORWYN

Am ddim i ymwel / Cei’r Fôr-Forwyn

Mae Cei’r Fôr-Forwyn yn gyrchfan fywiog sy’n berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu.  Gyda’i amrywiaeth o siopau, bwytai ac opsiynau adloniant, mae’n cynnig rhywbeth i bawb. Gall teuluoedd fynd am dro hamddenol ar hyd y glannau, mwynhau prydau blasus mewn gwahanol fwytai, a galw heibio’r siopau unigryw am gofroddion ac anrhegion.  Gall plant fwynhau’r meysydd chwarae awyr agored neu fynd ar daith cwch o amgylch y bae, tra gall rhieni ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog.  Mae Cei’r Fôr-Forwyn yn lleoliad gwych i’r teulu sy’n addo diwrnod allan cofiadwy yng Nghaerdydd.

MORDAITH DEULUOL BRAF

2 oedolyn + hyd at 3 phlentyn £19 / Cwch Caerdydd

Camwch ymlaen ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Bute (yn agos at Gastell Caerdydd) i fynd ar daith hanner awr un ffordd. Yna ar ôl bod ar dir sych, ewch yn ôl ymlaen i fynd yn ôl. Mae sylwebaeth ddiddorol yn adrodd hanes yr ardal a’r golygfeydd ar hyd y ffordd.  Mae toiled ar gael i deithwyr. Mae’n ffordd wych o weld y ddinas o safbwynt gwahanol.

SESIYNAU GWYDDONIAETH YN TECHNIQUEST

Prisiau’n amrywio / Techniquest

Mae Techniquest yn amgueddfa wyddoniaeth ryngweithiol sy’n addo profiad llawn hwyl ac addysgol i deuluoedd. Gydag arddangosion ymarferol ac arddangosiadau diddorol, mae’n cynnig cyfle unigryw i blant ac oedolion fel ei gilydd archwilio rhyfeddodau gwyddoniaeth mewn ffordd chwareus.  Gall teuluoedd gymryd rhan mewn arbrofion cyffrous, dysgu am gysyniadau gwyddonol amrywiol, a hyd yn oed gwylio sioeau gwyddoniaeth byw sy’n ddifyr ac yn addysgiadol.

DIWRNOD ALLAN I’R TEULU YNG NGHANOLFAN Y DDRAIG GOCH

Prisiau’n amrywio / Canolfan y Ddraig Goch

Mae Canolfan y Ddraig Goch yn hyb o adloniant a gweithgareddau hamdden sy’n berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu.  Mae ganddi amrywiaeth o opsiynau bwyta, gan gynnwys bwytai a chaffis poblogaidd, ac yn cynnig rhywbeth i bob chwaeth.  Gall teuluoedd wylio’r ffilmiau diweddaraf yn y sinema, mwynhau gêm fowlio, neu brofi eu sgiliau yn yr arcêd.  Gyda’i hawyrgylch fywiog a digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, mae Canolfan y Ddraig Goch yn cynnig lleoliad deinamig a chyffrous i deuluoedd greu atgofion parhaol gyda’i gilydd.

YMWELD Â MORGLAWDD BAE CAERDYDD

AM DDIM / Morglawdd Bae Caerdydd

Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn addo hwyl diddiwedd i deuluoedd.  O fwynhau golygfeydd godidog y bae i archwilio’r gampfa awyr agored, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.  Gall plant adael i’w dychymyg redeg yn wyllt yn yr ardal chwarae tywod, tra gall y rheiny sy’n hoffi gwefr ddangos eu sgiliau yn y parc sglefrio. A pheidiwch â cholli’r cyfle i dynnu llun gyda’r fainc crocodeil enfawr wedi’i hysbrydoli gan straeon poblogaidd Roald Dahl. P’un a ydych chi eisiau gwneud ymarfer corff, chwarae yn y tywod, defnyddio’r parc sglefrio, neu ymlacio ar y fainc crocodeil, mae Morglawdd Bae Caerdydd yn gyrchfan fywiog a difyr a fydd yn siŵr o roi diwrnod llawn hwyl i’r teulu.

DRINGO A CHWARAE YN Y PENCADLYS HWYL

Prisiau’n amrywio / Pencadlys Hwyl

I’r rheiny ohono sy’n hoffi cyffro, byddwch yn barod!  Mae Pencadlys Hwyl Caerdydd yn cynnig antur i’r teulu gyda dros 30 o heriau dringo i rai 4 oed a hŷn.  Rhowch gynnig ar y ‘Stairway to Heaven’ neu goncro’r ‘Astroball’, gyda waliau hyd at 7.5 metr o uchder. Bydd anturiaethwyr ifanc (12 ac iau) yn hapus braf yn y Parth Chwarae, ardal chwarae meddal 17,000 troedfedd sgwâr dros 3 lefel.

CANOLFAN DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Prisiau’n amrywio / Dwfr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cynnig cymysgedd addas i’r teulu o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu, Tiwbio, Padlfyrddio ar eich Sefyll, cwrs rhaffau uchel Antur Awyr, Tonnau Dan Do, Cerdded Ceunentydd, Caiacio, a Wal Ddringo. O’r dyfroedd gwyllt llawn adrenalin i badlfyrddio hamddenol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Gydag ystod mor amrywiol o opsiynau, mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn siŵr o roi diwrnod o gyffro ac anturiaethau i deuluoedd yng Nghaerdydd.

DEWCH I SGLEFRIO!

£10 (£2.70 Llogi Sgidiau Sglefrio), Plant Dan 5: £5 (yn cynnwys Llogi Sgidiau Sglefrio) / Arena Vindico

Mae Sglefrio Iâ Arena Vindico yn cynnig profiad gwych sy’n addas i’r teulu gyda’i sesiynau sglefrio iâ cyffrous.  P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n sglefriwr profiadol, mae’r llawr sglefrio yn cynnig amgylchedd difyr ar gyfer unrhyw lefel sgiliau. Gall teuluoedd lithro ar hyd yr iâ gyda’i gilydd, gan fwynhau’r wefr o sglefrio mewn awyrgylch bywiog.

CANOL Y DDINAS

Wrth wraidd y cyfan, mae canol dinas Caerdydd bob amser yn cynnig diwrnod allan llawn hwyl i deuluoedd, ac rydym wedi dod o hyd i’r gweithgareddau gorau i’r teulu ym mhrifddinas Cymru.

STRAEON Y TŴR DU YNG NGHASTELL CAERDYDD

Mynediad Cyffredinol (Oedolyn £10, Plentyn £5.50) Uwchraddio Teithiau (Oedolyn £4, Plentyn £3) / Castell Caerdydd

Dewch â’ch teulu ynghyd am antur bythgofiadwy yn Straeon y Tŵr Du Castell Caerdydd, lle mae hanes hudolus Llywelyn Bren, arwr chwedlonol o Gymru, yn dod yn fyw. Perffaith i deuluoedd sy’n chwilio am gymysgedd o addysg a chyffro, bydd y profiad adrodd straeon ymdrochol hwn yn eich cludo chi i gyd yn ôl i ddrama gwrthryfel o’r 14eg ganrif. Am ddiwrnod allan i’r teulu yn llawn dirgelwch a hanes, cadwch eich lle drwy alw heibio swyddfa docynnau’r Castell a chamu i esgidiau’r arwr ar daith drwy amser.

YMWELD Â CHANOLFAN SIOPA DEWI SANT

AM DDIM / Canolfan Dewi Sant 

Prif gyrchfan siopa i’r teulu yng Nghaerdydd lle mae hwyl a ffasiwn yn dod at ei gilydd.   Gyda dros 150 o siopau, mae’r rhan fywiog hon o’r ddinas yn cynnig rhywbeth i bob aelod o’r teulu— gydag ystod amrywiol o siopau yn cynnig teganau, dillad, a theclynnau. Mwynhewch antur bwyta yn yr ardal fwyd sy’n cynnig gwledd i’r synhwyrau gyda bwydlenni sy’n addas i blant a byrddau a seddi wedi’u cynllunio er hwylustod i’r teulu. Mae eu calendr digwyddiadau rheolaidd yn llawn adloniant sy’n addas i bawb o bob oedran, gan sicrhau nad taith siopa yn unig yw pob ymweliad, ond diwrnod difyr i’r teulu.

GOLFF ANTUR

Prisiau’n amrywio / Treetop Golf, St David’s Dewi Sant

Byddwch yn barod am antur fach yn Treetop Adventure Golf yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, lle gwahoddir teuluoedd i bytio drwy gyrsiau egsotig a mwynhau’r awyrgylch llawn hwyl. Mae’r baradwys drofannol hon yn cynnig dau gwrs golff dan do 18 twll, gan gynnig her gyffrous i’r hen a’r ifanc.  Rhwng rowndiau, gall teuluoedd ymgynnull yn y caffi ar gyfer byrbrydau a lluniaeth blasus, neu ddathlu twll-mewn-un gyda diodydd egsotig o’r bar thema.

TAITH STADIWM O’R RADD FLAENAF

Defnyddiwch y cod ‘VISITCARDIFF’ – i gael gostyngiad o 20% / Stadiwm Principality

Mae modd cau ac agor to’r Stadiwm pen-i-gamp, sy’n ei roi ymhlith arenas dan do gorau’r byd.  Bydd tywysydd profiadol yn rhannu ffeithiau am hanes y stadiwm gan gynnwys Gemau Rygbi Rhyngwladol, Digwyddiadau Olympaidd 2012, Bocsio o’r safon uchaf, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017 ac ymweliadau gan gewri’r byd roc a rol. Mae’r teithiau’n cynnwys Ystafelloedd Gwisgo’r Tîm Cartref a’r Ymwelwyr, Ystafell Cynadleddau’r Wasg, Twnnel y Chwaraewyr a’r Blwch Lletygarwch – felly digon o gyfleoedd i dynnu lluniau ar hyd y ffordd.

TAITH DYWYS MEWN STIWDIO DELEDU

£13 / BBC Cymru Wales

Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol i ddifyrru’r plant?  Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios mwyaf newydd a mwyaf datblygedig y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.  Ymunwch â staff tywys cyfeillgar ar daith unigryw y tu ôl i lenni stiwdios teledu a radio gyda thechnoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, realiti rhithwir a chamerâu robotig.

CAFFI GEMAU BWRDD

Prisiau’n amrywio / Chance & Counters

Ewch i’r Caffi Gemau Bwrdd gwych hwn, Chance & Counters, sydd â chasgliad o fwy na 650 o gemau i’w mwynhau ochr yn ochr â’n dewis o fwyd a diodydd o safon. Mae’r tîm cyfeillgar wrth law i argymell ac esbonio ein gemau, tra’n gweini bwyd i bob deiet ochr yn ochr â chymysgedd o ysgytlaethau moethus.

BACH YN BELLACH DRAW…

 

Mae llawer yn digwydd yng Nghaerdydd, ond rydych chi’n colli allan os na fentrwch allan i’r rhanbarth, lle byddwch yn dod o hyd i fwy nag y byddech chi’n ei ddisgwyl.

GALWCH HEIBIO AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN

Mynediad am Ddim / Sain Fagan

Dewch â’r teulu ynghyd am ddiwrnod o ddarganfod a hwyl yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.  Bydd plant ac oedolion yn cael eu cyfareddu wrth gerdded trwy amser ymhlith dros ddeugain o adeiladau sydd wedi’u cludo a’u hadfer yn ofalus, o ffermdai bach i weithdai prysur. Gwyliwch hanes yn dod yn fyw gyda chrefftwyr yn dangos hen sgiliau, a pheidiwch â cholli’r cyfle i flasu bwyd traddodiadol Cymreig.

YMWELD Â’R DEINOSORIAID

Cynnig Arbennig – pob tocyn £7 yn unig / Castell Ffwl-y-mwn, Bro Morgannwg

Ewch ar antur gyfareddol yng Nghastell Ffwl-y-mwn! Mae llwybr stori newydd yn eich aros, gan addo taith hyfryd i ymwelwyr o bob oed.  I’r rhai sy’n chwilio am elfen ychwanegol o hwyl, cymerwch ran yn y Llwybr Stamp wrth i chi grwydro tiroedd y castell. Casglwch stampiau ar wahanol bwyntiau o ddiddordeb a gwnewch yn siŵr nad ydych yn anghofio’r Llwybr Deinosor cyffrous.

EWCH AR Y RHAFFAU UCHEL

Prisiau Amrywiol / Go Ape

Neidiwch dros rwystrau bach a mawr, a hedfanwch drwy’r awyr ar sipiau 180m i gael profiad gwefreiddiol go iawn.  Maen nhw’n dweud taw roler coster yn y coed yw hwn.  Felly sipiwch draw i Barc Gwledig Margam i ddechrau’ch antur nesaf!

Dyma’r unig Go Ape sydd â golygfeydd o’r môr, a chyda dros 1,000 erw o barcdir a’r fuches ceirw fwyaf yng Nghymru, mae’n antur a hanner.

BETH AM AROS? EDRYCHWCH AR YR YSTAFELLOEDD TEULUOL ISOD

 

Peidiwch â chyfyngu’r hwyl i ymweliad diwrnod, dewch o hyd i rywle i orffwys am y noson, a gwneud y gorau o’r hwyl.

WALES COTTAGE HOLIDAYS

Mae Wales Cottage Holidays yn cynnig dewis gwych o fythynnod gwyliau o ansawdd yng Nghaerdydd a Chymru. Porwch drwy amrywiaeth o fythynnod gwyliau addas i’r teulu a dewch o hyd i’ch dihangfa hanner tymor berffaith ar gyfer mis Chwefror yng Nghymru.

FUTURE INN

Bae Caerdydd

Rhywle i ymlacio a theimlo’n gartrefol. Mae’r Ystafelloedd Dau Wely yn fawr ac yn helaeth, gyda dau wely maint Brenhines, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd o hyd at bedwar gwestai.

Mae manteision yn cynnwys parcio am ddim ac offer gwefru ceir trydan, Wi-Fi am ddim, a gwasanaethau’r cartref megis ein hystafell golchi dillad gwesteion.  Archebwch yn uniongyrchol i fod yn sicr o gael y cyfraddau gorau, gyda phrisiau ystafelloedd yn dechrau o £67 y noson. Hefyd, bydd plant dan 12 yn aros am ddim.

PONTCANNA INN

Heol y Gadeirlan, Pontcanna

11 o ystafelloedd moethus ar gyrion y ddinas i chi a’r teulu fwynhau popeth sydd ar gael yn y ddinas a gorffwys heb fod yn y canol.  Taith fer i ganol y ddinas a Chastell Caerdydd gerllaw, gyda digon o barciau i’w mwynhau, neu gallech ddal cwch i’r bae am y diwrnod!  Yn ystod eich arhosiad, mwynhewch y bar a’r bwyty sydd ag ardal y tu allan.

MARRIOTT

Lôn y Felin

Mwynhewch ryfeddodau Caerdydd gyda’ch teulu, yna ar ôl diwrnod o weld y golygfeydd, gallwch ymlacio yn ein hystafelloedd eang a manteisio ar ein cyfleusterau meddylgar a gynlluniwyd i ddiddanu’r plant. Dechreuwch y diwrnod gyda brecwast ym Mwyty Browns ac i ddiddanu’r rhai bach mae pecyn plant a dewis o ddiod meddal, a chwci / siocled yn yr ardal bachu a mynd y gallwch eu cael ar ôl cyrraedd.

GWESTY’R CLAYTON

Heol Eglwys Fair

Mae ystafelloedd teulu eang y gwesty hwn yn cynnwys un gwely dwbl ac un gwely sengl, gyda gwelyau ychwanegol neu gotiau babanod ar gael os oes angen.  Mae ystafelloedd cyfagos hefyd ar gael, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant hŷn, gan gynnig heddwch a phreifatrwydd ychwanegol.  Gan ganiatáu i bawb fwynhau’r gwyliau a chael digon o le i bawb

THE SPIRES SERVICED APARTMENTS

Heol y Gadeirlan, Pontcanna

Arhoswch mewn amgylchedd hunangynhwysol sy’n addas ar gyfer teuluoedd a theithwyr sy’n aros yn y ddinas am gyfnod hirach.  Mae pob fflat yn cynnig cegin, lolfa, ystafell wely ac ystafell ymolchi â’r cyfarpar llawn, gyda’r fflatiau 2 ystafell wely yn cynnwys 2 ystafell ymolchi.   Mae teuluoedd â phlant ifanc yn arbennig yn gallu elwa o fwy o le nag mewn ystafell wely mewn gwesty, a’r cyfle i goginio neu efallai fwynhau cludfwyd wedi’i ddanfon yn syth i’w drws.

SYMUD O LE I LE

 

Gadewch i’r car gael seibiant hefyd wrth i chi deithio mewn steil, gyda bargeinion gwych gan ein partneriaid trafnidiaeth.

TRENAU TRAFNIDIAETH CYMRU

  • Mae plant yn mynd am ddim ar drenau Trafnidiaeth Cymru pan fyddant yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn.
  • Dim ond yn y dosbarth Safonol y gall plant deithio am ddim
  • Gall hyd at ddau blentyn deithio am ddim, i bob oedolyn sy’n talu. Rhaid i oedolion gael tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n teithio. Dim ond o swyddfa docynnau neu ar y trên gan archwiliwr y mae tocynnau teithio am ddim i blant ar gael
  • Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail
  • Dim ond ar drenau Trafnidiaeth Cymru y gall plant 5-16 oed deithio am ddim

EWCH AR Y BWS

Mae digon o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd a’r cyffiniau a does dim ffordd well o’u cyrraedd na gyda Bws Caerdydd!

Trwy brynu un o’u tocynnau diwrnod teuluol, gallwch chi a’ch teulu deithio’n gyflym ac yn gost-effeithiol ar rwydwaith cynhwysfawr Bws Caerdydd.  Gall teuluoedd o hyd at 5 deithio o amgylch Caerdydd a Phenarth drwy’r dydd am £9, neu ar y rhwydwaith ehangach am £19. Mae telerau ac amodau’n berthnasol.

TEITHIO TRÊN GWR

Gyda Thocyn Trên i’r Teulu, gall hyd at ddau oedolyn a phedwar o blant deithio gyda’i gilydd ac arbed costau ar deithiau Caerdydd. Gall unrhyw oedolion ddefnyddio’r Tocyn Teulu, o neiniau a theidiau a rhieni bedydd i rieni a ffrindiau – mewn gwirionedd, unrhyw un sy’n teithio gyda hyd at bedwar o blant.  Ewch â’r plant i Gastell Caerdydd am ddiwrnod bythgofiadwy sy’n datgelu 2,000 o flynyddoedd o hanes, ewch ar yr Olwyn Gawr 33 metr, neu ewch i Fae Caerdydd i gael profiad wyddonol rhyngweithiol yn Techniquest, neu brynhawn llawn cyffro o chwaraeon dŵr cyffrous.

_______________________________________________

I gael gwybodaeth am deithio i Gaerdydd, a sut i deithio o gwmpas y ddinas pan fyddwch chi yma, edrychwch ar ein hadran Gwybodaeth i Ymwelwyr.

 

Mae’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r blog hwn yn rhan o Rwydwaith Croeso Caerdydd. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am beth allwch chi ei weld a’i wneud, ei fwyta a’i yfed a ble i aros.