Beth wyt ti'n edrych am?
Tywyswyr Teithiau Swyddogol
Yma yn Croeso Caerdydd, rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag aelodau’r gymdeithas tywyswyr twristiaid swyddogol i adeiladu criw o 14 o dywyswyr cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n lleol sy’n gwybod popeth am Gaerdydd a’r cyffiniau.
Mae gan y grŵp o 14 unigolyn i gyd amrywiaeth o ddiddordebau, gwybodaeth a chymwysterau penodol; felly, cofiwch ddarllen am bob un ohonyn nhw a gweld pa un sy’n addas i chi! Mae rhai o’r tywyswyr yn y rhestr isod yn dywyswyr gyrru a gallant eich cludo o gwmpas yn eu cerbydau. Fe welwch hefyd fod rhai o’r tywyswyr yn siarad amrywiaeth o ieithoedd.
Bydd y tywyswyr arbenigol hyn yn gwneud i chi deimlo fel un o’r trigolion lleol ac yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod holl drysorau cudd y ddinas a dysgu am Hanes, Treftadaeth a Thirweddau Cymru.
Sarah Salter
Mae Sarah wedi bod yn gweithio ym maes twristiaeth ers 15 mlynedd yng Nghaerdydd a De Cymru ac mae'n cynnig amrywiaeth o deithiau. Ymysg y pynciau mae hi’n mwynhau eu trafod ar ei theithiau mae Castell Caerdydd, hanes cymdeithasol a ffilm a theledu. Mae Sarah hefyd yn gymwys i arwain oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae ganddi sawl blwyddyn o brofiad yn astudio Iaith Arwyddion Prydain. Gall addasu ei theithiau i weddu i anghenion cleientiaid. Ymysg diddordebau Sarah mae Cefn Gwlad, Copr, Glo a Haearn, a Natur a Bywyd Gwyllt. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Andrew Lamb
Mae Andrew yn arbenigo mewn gwibdeithiau diwrnod neu sawl diwrnod o hyd, gan frolio atyniadau a harddwch Cymru i deithwyr eiddgar. Mae hefyd yn arweinydd mynydd ardystiedig ac yn dywysydd twristiaeth bathodyn gwyrdd. Ei genhadaeth yw cynnig profiadau cyfoethog mewn ffordd broffesiynol a chofiadwy a dod â chyfoeth o sgiliau ymarferol i bob un o'i deithiau. Ymysg diddordebau Andrew mae Cefn Gwlad, Daearyddiaeth a Daeareg, a Hanes a Chynhanes. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Fiona Peel
Mae Fiona wedi bod yn tywys ers 2016 ac mae'n byw yma yng Nghaerdydd. Gall gynnig teithiau tywys arbenigol a grŵp bach i dwristiaid sy’n chwilio am deithiau trefi lleol, neu sydd â'u cludiant eu hunain i ymweld â safleoedd ledled Cymru. Mae ei theithiau’n hyblyg a gallant fodloni diddordebau penodol teithwyr. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn mynd ar deithiau i erddi, cestyll a henebion Cymru. Ymysg diddordebau Fiona mae Cefn Gwlad, Treftadaeth a Phlastai, Bwyd a Diod, a Chestyll. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Darran Burnham Thomas
Cafodd Darran ei fagu yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae wedi adeiladu gwybodaeth helaeth am hanes a diwylliant Cymru. Mae'n dywysydd gyrru trwyddedig ac yswiriedig a gall gefnogi gyda theithiau bysiau. Mae Darran hefyd yn cynnig teithiau cerdded mewn dinasoedd a threfi, teithiau bragdai a bariau cwrw crefft, teithiau o stadiwm Principality Caerdydd, gwasanaeth concierge gwesty a gwasanaeth hebrwng grŵp, ac mae'n yrrwr proffesiynol sy’n cludo pobl i ac o fordeithiau a meysydd awyr. Ymysg diddordebau Darran mae Cestyll, Hanes Teuluol, a Theithiau Cyndeidiau. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Ydy
Diana James
Mae Diana wedi gweithio ym maes twristiaeth yng Nghymru ers y 1990au, yn gyntaf gyda Croeso Cymru ac ers 2008 fel Tywysydd Bathodyn Glas Cymru. Mae hi wedi'i hyfforddi ac yn brofiadol wrth arwain unigolion a grwpiau o wahanol oedrannau a diddordebau, ac mae hi wrth ei bodd yn eu cyflwyno i Gymru. P'un a ydych chi yng Nghymru am ymweliad byr neu hir, ei nod yw sicrhau eich bod chi'n mwynhau'r profiad ac yn dod i garu'r wlad. Ymysg diddordebau Diana mae Cestyll, Eglwysi, Capeli a Chadeirlannau, a Bwyd a Diod. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Saesneg, Ffrangeg Tywysydd Gyrru: Na
Elizabeth Morgan
Mae Elizabeth yn Dywysydd Twristiaid Bathodyn Gwyrdd ar gyfer De-ddwyrain Cymru ac yn Llysgennad Aur Bannau Brycheiniog. Fel tywysydd twristiaid neu reolwr teithiau, mae Elizabeth wrth ei bodd yn rhannu golygfeydd a hyfrydwch ei mamwlad - gan gyflwyno’r cyfan mewn ffordd ddiddorol, gyfeillgar a brwdfrydig. Gall gynnig teithiau diwrnod cyfan neu sawl diwrnod, teithiau cerdded, teithiau safle, sylwebaeth bws, teithiau tywys bws, gwasanaeth gyrru cerbydau, a darlithoedd darluniadol. Ymysg diddordebau Elizabeth mae Cestyll, Plastai, a Natur. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Lucy O’Donnell
Ganed Lucy yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae'n byw yn y de. Mae hi'n Dywysydd Bathodyn Glas cymwysedig ac mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn twristiaeth ac amserlennu a rheoli teithiau. Mae Lucy yn cynnig amrywiaeth o deithiau gan gynnwys teithiau personol mewn ceir neu gerbydau cludo criw, teithiau cerdded cefn gwlad ac arfordirol, teithiau cerdded mewn trefi a dinasoedd, gwibdeithiau llong, teithiau rhithwir ar-lein a grwpiau bysiau. Ymysg diddordebau Lucy mae Treftadaeth Ddiwydiannol, Y Gorau o Gymru - Teithiau Cyffredinol, a Chestyll. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Michael Griffiths
Mae Michael yn siaradwr Cymraeg rhugl ac mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog yn y Gymraeg a hanes Cymru. Astudiodd hanes Cymru a Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd ac enillodd ei Fathodyn Gwyrdd fel tywysydd twristiaid yn Ne-ddwyrain Cymru ym mis Ebrill 2024. Mae Michael yn gwirfoddoli gyda Cadw ac mae ganddo brofiad helaeth o arwain pobl o gwmpas eu heiddo. Mae hefyd yn hapus i ddylunio teithiau o amgylch diddordebau a disgwyliadau cwsmeriaid. Mae rhai o ddiddordebau Michael yn cynnwys Cestyll, Gerddi, a Phlastai. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg Tywysydd Gyrru: Na
Peter Hill
Ganed Peter yma yng Nghymru ac mae wedi bod yn dysgu hanes a gwleidyddiaeth ers dros 40 mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n dywysydd yn Stadiwm Principality, Caerdydd a Chastell Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg. Gall Peter gynnig teithiau cerdded o Gaerdydd a theithiau undydd cynaliadwy o ranbarthau ehangach drwy ddefnyddio rhwydweithiau trenau a bysiau, sy’n cynnig y cyfle i weld golygfeydd Cymru o safbwynt gwahanol. Ymysg diddordebau Michael mae Cestyll, yr Arfordir, a Chefn Gwlad. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Phil Coates
Mae Phil yn Dywysydd Twristiaeth Bathodyn Glas Proffesiynol ar gyfer Cymru, De-orllewin Lloegr a Lerpwl. Mae hefyd yn gweithio fel Rheolwr Teithiau ledled Ynysoedd Prydain. Mae wedi gweithio yn y diwydiant teithio ers 30 mlynedd ac mae wedi cwblhau gradd anrhydedd mewn tywys twristiaid. Mae ganddo hefyd Gymwysterau Ardystio’r Sefydliad Tywys Twristiaid ar gyfer Windsor ac Eton, Eglwys Gadeiriol Caersallog a Lleoliadau Gemau Olympaidd Prydain. Ymysg diddordebau Phil mae Hanes a Chynhanes, Cestyll, a Threftadaeth Ddiwydiannol. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Ydy
Riki Phillips
Dechreuodd Riki dywys yng Nghymru yn 2000 ac erbyn hyn ef yw’r grym y tu ôl i Tours Wales. Mae'n dywysydd gyrru bathodyn gwyrdd ar gyfer De-ddwyrain Cymru ac mae wedi’i gydnabod gan Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru fel tywysydd mynydd a darparwr gweithgareddau awyr agored profiadol. Mae Riki wedi’i leoli yng Nghaerdydd felly gall gynnig amrywiaeth o deithiau yma yn y Ddinas. Ymysg diddordebau Riki mae Cestyll, Eglwysi, Capeli a Chadeirlannau, a Chefn Gwlad. Ble mae’n tywys: De-ddwyrain Cymru Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg Tywysydd Gyrru: Ydy
Robert Llewellyn
Mae Robert yn gymwys i dywys yn Saesneg a Ffrangeg ac mae ganddo brofiad o grwpiau o wahanol oedrannau a chenedligrwydd, o amgylcheddau trefol a gwledig ac o dywys dan do ac yn yr awyr agored. Gall hefyd greu taith bwrpasol yn unol â’ch diddordebau, gan eich cyflwyno i leoedd, pobl a hanes Cymru a rhoi gwir flas o'r sir i chi. Ymysg diddordebau Robert mae Cestyll, Bwyd a Diod, Y Gorau o Gymru - Teithiau Diddordeb Cyffredinol, a Hanes a Chynhanes. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Saesneg, Ffrangeg Tywysydd Gyrru: Na
Stella Thomas
Mae Stella yn Dywysydd Bathodyn Glas gwybodus sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hi wedi gweithio ym maes twristiaeth yng Nghymru ers blynyddoedd ac mae'n cefnogi Croeso Cymru a Visit Britain i arwain awduron teithio a gweithredwyr teithiau ar ymweliadau addysg ledled Cymru. Er nad yw'n dywysydd gyrru, mae hi’n tywys grwpiau o hyd at 6 o bobl yn rheolaidd wrth weithio gyda gyrwyr yng Nghymru. Ymysg diddordebau Stella mae’r Gymraeg, Cefn Gwlad, Cestyll, a Bwyd a Diod. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg Tywysydd Gyrru: Na
Stephen Griffin
Mae gan Stephen ei fusnes tywys ei hun yma yng Nghaerdydd o'r enw Griffin Guiding ac mae'n cynnal teithiau difyr ac addysgiadol o amgylch Cymru. Mae wedi gweithio gydag ystod amrywiol o gleientiaid ac mae'n hapus i deithiau gael eu haddasu yn unol â diddordebau eich grŵp. Gall gynnig teithiau bws, teithiau cerdded, gwasanaethau cwrdd a chyfarch, cymorth maes awyr a theithiau cyfeiriannu o amgylch Caerdydd - ar fws neu ar droed. Ymysg diddordebau Stephen mae Cestyll, Cefn Gwlad, Treftadaeth Ddiwydiannol, a'r Gorau o Gymru - Teithiau Diddordeb Cyffredinol. Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan Ieithoedd: Saesneg Tywysydd Gyrru: Ydy
Ildi Pelikan
Mae gan Ildi dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant twristiaeth ac mae hi wedi’i lleoli ym Mhontypridd, Caerdydd. Mae hi'n arbenigo mewn profiadau personol, gwirioneddol sy'n arddangos Cymru go iawn, ac mae'n angerddol am hanes Cymru, teithiau cerdded, teithio cynaliadwy a phrofiadau awyr agored actif. Mae Ildi yn siarad Saesneg, Hwngareg, Portiwgaleg a Sbaeneg, ac mae'n arweinydd teithiau cerdded rheolaidd. Ymysg diddordebau Ildi mae Natur a Bywyd Gwyllt, Bwyd a Diod ac Eglwysi, Capeli a Chadeirlannau.
Ble mae’n tywys: Cymru Gyfan
Ieithoedd: Saesneg, Hwngareg, Portiwgaleg, Sbaeneg
Tywysydd Gyrru: Na
I gael rhagor o wybodaeth am Dywyswyr Gorau Cymru, cliciwch yma.