Beth wyt ti'n edrych am?
Ar lannau’r llyn dŵr croyw a grëwyd gan Forglawdd Bae Caerdydd, mae gan y Pentref Chwaraeon ddau gyfleuster chwaraeon o safon Olympaidd, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a Phwll Rhyngwladol Caerdydd, a defnyddiwyd y ddau ohonynt fel lleoliadau hyfforddi ar gyfer gemau Llundain yn 2012. Ochr yn ochr â’r rhain fe welwch Arena Viola, a gwblhawyd ym mis Mawrth 2016 – mae’n rinc sglefrio cyhoeddus ac yn gartref i dîm hoci iâ Elite League y Cardiff Devils.
DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD
Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn gyfleuster antur gwefreiddiol, ar alw; cartref yr unig gwrs rafftio dŵr gwyn yn Ne Cymru.
FUN HQ
Mae’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd yn edrych ymlaen at groesawu ychwanegiad newydd at ei weithgareddau antur – Fun HQ. Bydd yr atyniad, sydd wedi’i leoli yn Vindico Arena, yn brolio amrywiaeth o weithgareddau clipio a dringo sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Yn agor yn fuan.
CARDIFF DEVILS
Mae’r Cardiff Devils yn dîm proffesiynol Hoci Iâ’r Uwchgynghrair sy’n chwarae’i gemau cartref ym Mae Caerdydd. Pencamwyr gemau ail gyfle 2019!
PWLL A CHAMPFA RHYNGWLADOL CAERDYDD
Mae Pwll Rhyngwladol a Champfa Caerdydd yn gyfleuster gwych yng nghanol Bae Caerdydd, a fydd yn rhoi oriau o hwyl i’r teulu cyfan!
VINDICO ARENA
Mae Arena Viola yn lleoliad unigryw, amlbwrpas gyda 2 lawr rhew a seddi ar gyfer dros 3000 o wylwyr yng nghanol Bae Caerdydd.
TEITHIO A THRAFNIDIAETH
Os ydych yn defnyddio llywiwr lloeren, y cod post i’w roi ar gyfer y pentref chwaraeon yw CF11 0JS. Os ydych yn gyrru, byddem yn argymell gadael yr M4 wrth gyffordd 33 a dilyn yr A4232 cyn gadael i’r A4055.
Os ydych yn dod i’r pentref chwaraeon ar y trên, mae gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru rheolaidd yn gweithredu o Orsaf Caerdydd Canolog i Ynys y Barri. Yr amser teithio yw tua 8 munud a dylech ddod oddi ar y trên yn Cogan – cerddwch am 10 munud o’r orsaf, ar draws Pont y Werin, ac fe ddewch at y pentref chwaraeon.
Mae Bws Caerdydd yn rhedeg y gwasanaeth Rhif 9 i’r Pentref Chwaraeon. Mae’r gwasanaeth hwn yn galw yn Arhosfan KG ar Heol y Porth yng nghanol y ddinas ac yn eich gollwng ar Olympian Drive, wrth ymyl Arena Viola a’r Pwll Rhyngwladol.
Mae Nextbike UK yn gweithredu cynllun rhannu beiciau yng Nghaerdydd ac, yn ogystal â llawer o leoliadau o amgylch y ddinas, mae ganddynt orsaf ddefnyddiol (rhif: 8342) wedi’i lleoli y tu allan i Arena Viola yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.
.