Beth wyt ti'n edrych am?
Caerdydd i gynnal gêm agoriadol UEFA EURO 2028
Mae Caerdydd wedi cael ei dewis i gynnal gêm agoriadol UEFA EURO 2028.
Bydd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, ar ddydd Gwener 9 Mehefin 2028.
Bydd cyfanswm o 6 gêm yn cael eu chwarae ym mhrifddinas Cymru gan gynnwys gêm 16 olaf a rownd yr wyth olaf, yn ogystal â gemau camau grŵp.
Y bencampwriaeth hon, fydd yn cael ei chynnal ledled y DU ac Iwerddon, fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i’w gynnal gan y gwledydd sy’n gweithio ar y cyd, gan ddod â chefnogwyr ynghyd a chreu buddion hirdymor i gymunedau trwy haf bythgofiadwy o bêl-droed rhyngwladol o’r radd flaenaf.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:
“Mae cynnal gêm agoriadol UEFA EURO 2028 yn anrhydedd aruthrol i Gaerdydd ac yn dyst i enw da ein dinas fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth fydd yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder, ac yn creu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol i’n cymunedau.
“Gyda llai na 1,000 diwrnod i fynd tan i’r bencampwriaeth ddechrau, rydyn ni’n gweithio’n agos gydag UEFA a’n dinasoedd partner i helpu i gyflwyno dathliad go iawn o’r cyfan mae pobl yn ei garu am y gêm.”
“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o EURO 2028. Bydd llygaid y byd pêl-droed ar Gaerdydd ar 9 Mehefin a bydd yr awyrgylch yn y ddinas yn drydanol ar gyfer pob un o’r chwe gêm sy’n cael eu chwarae yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop a’r tu hwnt fydd yn cael blas ar letygarwch a diwylliant gwych Cymru.”
Mae asesiad annibynnol yn rhagweld y bydd UEFA EURO 2028 yn cynhyrchu hyd at £3.6 biliwn mewn buddion economaidd-gymdeithasol ledled y DU ac Iwerddon rhwng 2028 a 2031.
Fel dinas groeso, bydd busnesau, cyflenwyr a chymunedau lleol Caerdydd yn ymelwa’n uniongyrchol. Disgwylir i’r mewnlifiad o ymwelwyr rhyngwladol greu swyddi a rhoi hwb i’r economi ranbarthol, a bydd rhaglenni hyfforddi a gwirfoddoli yn creu cyfleoedd newydd i bobl leol, gan helpu i ddatblygu sgiliau ac agor llwybrau i gyflogaeth.
Bydd y bencampwriaeth yn cynnwys y Rhaglen Gymunedol UEFA EURO fwyaf erioed. Bydd y mentrau hyn, sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd, yn harneisio pŵer chwaraeon a diwylliant i ddod â chymunedau at ei gilydd, hyrwyddo cynhwysiant, ac ysbrydoli newid cadarnhaol ledled Caerdydd a Chymru.