Beth wyt ti'n edrych am?
Y 12 LLE GORAU I FWYTA AC YFED YNG NGHAERDYDD AR ÔL Y CYFNOD CLOI
Rydym am ddathlu’r ffaith bod bwytai, tafarndai, a chaffis yng Nghaerdydd yn agor eu drysau i gwsmeriaid unwaith eto wrth i gyfyngiadau cloi yng Nghymru barhau i leihau.
Ddim yn siŵr ble i fynd am eich noson briodol gyntaf allan yng Nghaerdydd? Eisiau gwneud yn siŵr bod mesurau diogelwch yn eu lle? Efallai eich bod am ddod o hyd i’ch eatery dihiryn lleol nesaf i gefnogi? Peidiwch â phoeni, mae ymweld â Chaerdydd wedi dewis 12 o’r llefydd gorau i fwyta ac yfed yng Nghaerdydd ar ôl cloi i lawr, ac rydym wedi cynnwys rhywbeth i bawb, o fwyd stryd i fwyta cain, a phopeth yn y rhwng.
1. Sesiwn Fwyd Stryd yn Depot
Blasu’r byd. Gartref o hyd.
Beth yw’r Sesiwn Fwyd Stryd? 8 o fasnachwyr bwyd stryd, byrddau â phellter cymdeithasol rhyngddyn nhw, bar â thrwydded lawn a digon o orsafoedd glanhau ar hyd y lle, gyda’r mwyafrif o seddau dan orchudd i’ch diogelu rhag unrhyw dywydd gwael.
I ddod, archebwch fwrdd ar gyfer sesiwn 3 awr drwy brynu tocyn bwrdd. Mae pris tocyn bwrdd yn dechrau am £10. Archebwch eich bwrdd drwy ymweld â’u gwefan yma.
2. The Botanist
Archwiliwch ardd gudd o fwyd a diod.
Mae botanegwyr wedi chwilota ar hyd a lled i ddod â llu o ddanteithion bwyd a diod eithriadol i chi.
Mae un o’r bwytai newydd sy’n fwyaf o destun siarad yng Nghaerdydd bellach wedi ailagor. Gyda gardd a bar ar y to, a cherddoriaeth fyw bob nos, mae amseroedd cymdeithasu heb ei ail yn sicr! Mae botanegwyr wedi chwilota ar hyd a lled i ddod â llu o ddanteithion bwyd a diod eithriadol i chi.
Archebwch eich bwrdd drwy ymweld â’u gwefan yma.
3. The Ivy
Bwyta soffistigedig drwy’r dydd mewn lleoliad hardd.
P’un ai coctels dal i fyny neu fwyd cain sy’n codi’ch awydd, mae bar The Ivy ar agor saith diwrnod yr wythnos o’r bore tan y nos, yn cynnig lleoliad delfrydol beth bynnag fo’r achlysur.
Yn ogystal â’r prif fwyty a’r bar canolog ar y llawr gwaelod, mae gan The Ivy Caerdydd far ardderchog ar y llawr cyntaf sy’n cynnwys addurniadau mewnol trawiadol a lliwgar, coctels blasus, a man ciniawa preifat i hyd at 24 o westeion.
Archebwch eich bwrdd drwy ymweld â’u gwefan yma.
4. New York Deli
Dathlwch 30ain blwydd un o hoff fwytai annibynnol Caerdydd.
Mae masnachwyr annibynnol, lleol fel New York Deli, wedi bod yn masnachu ers 30 mlynedd ac wedi ffurfio cymdeithas o gwsmeriaid ffyddlon a rheolaidd. Nhw sy’n rhoi’r ‘DA’ yn ‘brechDAn’, os na flasoch chi erioed hoagie neu bagel anferthol – a chredwch chi ni maen nhw’n anferthol – yna fe gewch chi wledd go iawn. Efallai bod bwyta brechdan gyda chyllell a fforc yn swnio’n anghywir, ond mae’n teimlo’n dda iawn.
Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan.
5. Pipes Brewery
Codwch dwrw am y cwrw yn Pipes!
Oeddech chi’n gwybod bod gan Pipes Brewery, a leolir yng Nghaerdydd, ardd gwrw hefyd? Yn Iard Kings Road, Pontcanna mae hi ac mae’n un o’r cyfrinachau gorau gan bobl leol. Drwy’r cyfnod cloi, maent wedi bod yn gwerthu poteli cwrw tecawê i gadw eu cwsmeriaid ffyddlon yn hapus, ond yn ddiweddar iawn maent wedi rhoi’r holl fesurau diogelwch ar waith sy’n angenrheidiol i ddechrau gweini peintiau oer, ffres o gwrw eto – haleliwia!
Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan
6. Mermaid Quay
Dewis gwych o fwyd a diod gyda golygfeydd godidog.
Mae Cei’r fôr-forwyn yn lle gwych i yfed a bwyta ynddo ar ôl y cyfnod cloi am 3 prif reswm. Yn gyntaf, mae dros 20 o fwytai, bariau a chaffis yno gan gynnwys bwytai cadwyn poblogaidd fel Cosy Club, Bill’s a Nando’s ac ati. Yn ail, mae gan Gei’r Fôr-Forwyn gapasiti bwyta awyr agored mawr, ar draws 2 lawr. Yn olaf, ceir golygfa odidog o Fae Caerdydd o Gei’r fôr-forwyn.
7. The Pontcanna Inn
Yfwch, Bwytewch, Arhoswch, a Byddwch Lawen.
Mae Pontcanna Inn yn berffaith ar gyfer eich digwyddiad cymdeithasol nesaf. Nid yn unig y mae ganddynt derasau gwych y tu blaen a thu cefn i’r dafarn, yn ogystal â bar a lolfa groesawgar, ond mae ganddynt hefyd ystafelloedd gwely bwtîc en-suite i fyny’r grisiau.
Archebwch ystafell neu fwrdd drwy ymweld â’u gwefan
8. Laguna Bar & Terrace
Beth bynnag fo’r achlysur.
Gall fod yn anodd dod o hyd i le gwell i ddarganfod gwinoedd cain, coctels egsotig ac ystod o gwrw wedi’u dewis yn ofalus na Laguna Bar bywiog. Cewch dreulio gyda’r nos mewn awyrgylch soffistigedig gyda byrddau isel, cadeiriau ffynci a bythau clos neu gael cinio a diodydd prynhawn tawel y tu allan ar y teras, gan fwynhau awel yr haf.
Archebwch ystafell neu fwrdd drwy ymweld â’u gwefan yma.
9. Coffi Co, Cardiff Bay
Paneidiau, golygfeydd, ac aer y môr glân.
Rydym yn deall, i rai, y gall y syniad o ymweld â chanol prifddinas ar ôl y cyfnod cloi fod yn frawychus. I’r rhai ohonoch sydd am gyfarwyddo’n araf â’r normal newydd, rydym yn argymell yn fawr mynd ar daith hir ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, gan fwynhau ychydig o aer y môr a golygfeydd godidog, a galw heibio Coffi Co am baned neu ginio bach.
Efallai taw Coffi Co ym Mae Caerdydd yw’r siop goffi mwyaf unigryw yng Nghaerdydd. Wedi’i wneud o Gynwysyddion Llongau, gyda chadeiriau dec yn yr iard flaen a thân mawr i gadw’r holl gwsmeriaid hapus yn gynnes braf y tu mewn, mae’n rhaid ymweld â’r siop goffi hon ar unrhyw daith i Fae Caerdydd!
10. Street Food Cinema
Y profiad sinema geir blasus.
Gan yr athrylithoedd a greodd y Street Food Circus, daw eu fersiwn nhw o’r sinema geir Americanaidd. Bwytewch fwyd stryd gan eich hoff werthwyr, wedi’i archebu o gysur eich car, a gaiff ei weini i chi gan ferched a bechgyn ar esgidiau rholio!
Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, a gwyliwch eich hoff ffilmiau gyda ffrindiau a theulu. Mae’r ffilmiau sy’n cael eu sgrinio yn cynnwys clasuron diwylliant poblogaidd Grease, Pulp Fiction, The Lion King, a Back To The Future. Am restr lawn o ffilmiau ac i archebu eich tocyn ewch i’w gwefan yma.
11. Calabrisella
Rhaid i chi roi cynnig ar hyn.
Calabrisella yw un o hoff fwytai Eidalaidd anibynnol Caerdydd y bobl leol, sy’n enwog am eu pitsas a’u prydau pasta blasus, yn defnyddio cynhwysion Eidalaidd traddodiadol. Os nad ydych wedi bod i Calabrisella o’r blaen, bydden ni’n argymell yn gryf eich bod yn ymweld ag un o’u 2 fwyty yn Nhreganna neu Cathays.
Dysgwch fwy yma.
12. Caffi Cwr y Castell
Sut mae ciniawa awyr agored o flaen mawredd Castell Caerdydd yn swnio?
Mae profiad ciniawa awyr agored Caffi Cwr y Castell ar agor 10:00-22:00 bob dydd. Archebwch fwyd a diod gan 12 bwyty’n ddidrafferth, wrth fwynhau’r olygfa. Hefyd, does dim archebu o flaen llaw, dim ond cyrraedd yno gyda ffrindiau a theulu.
Mae’r bwytai sy’n cymryd rhan yn cynnwys The Coconut Tree, Dusty Knuckle, Grazing Shed, Marco Pierre White’s Steakhouse Bar & Grill a llawer mwy. Am y rhestr lawn o fwytai sy’n cymryd rhan, ac i gael gwybod sut mae’r gwasanaeth yn gweithio ewch i dudalen Caffi Cwr y Castell yma.