Neidio i'r prif gynnwys

HWYL AM DDIM YN NGHAERDYDD

Gyda chostau byw’n cynyddu, bydd pawb yn gwerthfawrogi pethau rhad a difyr i ddiddanu’r teulu dros Wyliau’r Haf.

Rydym wedi llunio canllaw i ambell atyniad a digwyddiad am ddim ledled Caerdydd.

  1. AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer.  Mae gan yr amgueddfa hon le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru gan mai amgueddfa’r bobl yw hi, lle gallwch archwilio hanes gyda’ch gilydd drwy fywydau bob dydd pobl.

Saif yn nhiroedd castell mawreddog Sain Ffagan, plasty o’r 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth. Dros yr hanner canrif diwethaf, ail-adeiladwyd dros hanner can adeilad gwreiddiol o wahanol leoliadau yng Nghymru ac o gyfnodau hanesyddol gwahanol yn y parc 100-erw hwn. Mae pob adeilad wedi ei ddal mewn amser ac yn agor drws ar hanes Cymru gan gynnig cipolwg i ni ar y gorffennol.

  1. MORGLAWDD BAE CAERDYDD

Yn berffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol neu daith ar gefn beic, mae’r Morglawdd mewn safle arforol trawiadol ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o Fae Caerdydd ac Aber Afon Hafren. Gan ei fod yn wastad, mae’n hygyrch i bob ymwelydd.

Mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden yn cael eu cynnal ar hyd y Morglawdd yn y maes chwarae i blant, yn y Sgwâr Sglefrio ac yng nghampfa awyr agored adiZone. Gall ymwelwyr hefyd gael golwg ar yr arddangosfeydd am ddim, eistedd a chael hun-lun gyda’r Crocodeil Enfawr, a chael seibiant yng Nghaffi Hafren, sy’n cael ei redeg gan yr RSPB.

  1. SGWÂR CYHOEDDUS CASTELL CAERDYDD

Os ydych chi’n cynllunio taith i Gaerdydd ac eisiau man hyfryd i ymlacio ar ôl bod i’r siopau neu dreulio amser gyda ffrindiau, yna dewch i’r sgwâr cyhoeddus yn lleoliad hardd lawnt allanol y Castell.

Mae mynediad am ddim i’r Sgwâr Cyhoeddus, ac mae’n cynnwys mynediad i Gaffi’r Castell, y Siop Roddion, y Man Gwybodaeth i Ymwelwyr a thoiledau cyhoeddus. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain i’r Sgwâr Cyhoeddus ond ni allant ei fwyta yn ardal eistedd y caffi.

  1. Y SENEDD

Mae’r Senedd yn edrych dros ddyfroedd Bae Caerdydd, yr adeilad cyhoeddus hygyrch hwn yw Senedd pobl Cymru.

Dyma gartref Siambr ac Ystafelloedd Pwyllgor Senedd Cymru ac mae oriel gyhoeddus ym mhob un sy’n rhoi rhwydd hynt i’r cyhoedd fynd i mewn ac ymddiddori yn y trafodaethau sy’n helpu i lywio eu bywydau, ac mae yno hefyd arddangosfeydd a digwyddiadau o safon ryngwladol trwy’r flwyddyn.

5. AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth galon canolfan ddinesig hardd Caerdydd ac mae’n gartref i gelf o safon ryngwladol a hanes naturiol, gan gynnwys casgliadau celf cenedlaethol, casgliadau hanes naturiol a daeareg, ynghyd ag arddangosfeydd teithiol blaenllaw a rhai dros dro.

Os ydych am sefyll a syllu, mae digon i blesio’r llygad – o baentiadau Argraffiadol i ddinosoriaid enfawr.  Er mwyn darganfod mwy, gallwch ddilyn amrywiaeth o lwybrau oriel i’ch tywys o amgylch yr Amgueddfa. Gyda rhaglen brysur o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae gennym rywbeth i ryfeddu pawb, beth bynnag fo’ch diddordeb – ac mae mynediad am ddim!

6. YMWELD Â LLEOLIADAU FFILMIO DR WHO

Mae Doctor Who yn rhaglen deledu ffuglen wyddonol a gynhyrchwyd gan y BBC ers 1963. Cafodd y gyfres ei hadfywio yn 2005 a chafodd pob un o’r 12 tymor eu ffilmio yng Nghaerdydd a Chymru. Mae’r ail-lansiad wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn fyd-eang. Mae wedi denu cenhedlaeth iau o gefnogwyr ac mae gan y gyfres ddilynwyr selog. Dilynwch anturiaethau’r “Arglwydd Amser” o’r enw “y Doctor”, sef allfydolyn sydd i bob golwg yn fod dynol, o’r blaned Gallifrey. Mae’r Doctor yn archwilio’r bydysawd mewn llong ofod sy’n teithio drwy amser o’r enw Y Tardis. Ynghyd â nifer o gymdeithion, mae’r Doctor yn gwrthdaro ag amrywiaeth o elynion wrth weithio i achub gwareiddiadau a helpu pobl mewn angen.

Os byddwch yn ymweld â Chaerdydd fel un o ffans Dr. Who gallwch chwarae gêm ‘Enwi’r Lleoliad’ gan fod cynifer o leoliadau yn y ddinas wedi ymddangos ym mhob un o’r 12 tymor fel Castell Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan, a Bae Caerdydd. Am restr lawn o leoliadau edrychwch ar y rhestr hon.

7. LLYN A PHARC Y RHATH

Parc y Rhath, a agorwyd ym 1894, oedd un o’r parciau cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd ac mae wedi cadw ei awyrgylch Fictoraidd clasurol a chynllun y parciau llinellol llawn cymeriad sy’n mynd ar hyd Nant Fawr.

Mae pob rhan o’r parc wedi ei ddylunio at ddiben penodol ac mae’r parc yn dal i gynnig ystod eang o ddiddordeb garddwriaethol, cadwraeth natur a gweithgareddau i hyfrydu ymwelwyr heddiw. Mae’r llyn 30 erw, gafodd ei greu gan ddyn, yng nghanol y parc yn boblogaidd ar gyfer pysgota a rhwyfo. Sicrhewch eich bod yn rhwyfo heibio Goleudy Coffa Scott, un o ddelweddau mwyaf eiconig y Ddinas.

8. WAL YR ANIFEILIAID

The Museum of Cardiff explores the city’s story and heritage, telling the history of Cardiff through the eyes of those who created the city – its people.

The museum tells the tale of how Cardiff was transformed from a small market town in the 1300s, to one of the world’s biggest ports in the 1900s, to the cool, cosmopolitan capital we know today.  With activities for all ages, it is housed in one of Cardiff’s most historic buildings – the Old Library – in the heart of the city centre, and is free entry.

9. WAL YR ANIFEILIAID

Cardiff Castle Animal Wall

Wal yr Anifeiliaid, ger Castell Caerdydd, yw un o’r nodweddion hanesyddol mwyaf hyfryd a ffotograffig yng Nghaerdydd. Fe’i cynlluniwyd gan y pensaer William Burges ar gyfer 3ydd Ardalydd Bute ac mae’n agos iawn at galonnau pobl y ddinas.

Ceir yr olygfa orau o Wal yr Anifeiliaid wrth ffin ddeheuol Parc Bute o Stryd y Castell.

10. THE PIERHEAD BUILDING

The Pierhead is a unique visitor, events and conference venue for the people of Wales; a space to express opinions and give voice to issues that matter.

It helped Wales forge its identity through water and fire in the late nineteenth century; today its aim is to inform, involve and inspire a new generation to forge a Wales for the future. It is an event and conference venue to complement the work of the Assembly. It is also a light touch exhibition to inform, involve and inspire visitors.