Neidio i'r prif gynnwys

Pam y dylai Grwpiau ymweld â Chaerdydd Nadolig eleni

28 Hydref 2022

Gydag ychydig dros 8 wythnos i fynd tan fod Siôn Corn yn galw eto, mae’r Nadolig wir yn nesáu.

Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd yn gyrchfan ardderchog ar gyfer ymweliadau grŵp.  Mae’n cynnig amrywiaeth enfawr o atyniadau, gweithgareddau, adloniant o’r radd flaenaf a llety. Mae canol y ddinas yn gryno, yn hawdd mynd o’i gwmpas ar droed gyda chyfnewidfa drafnidiaeth, mannau parcio i goetsis a llawer o bwyntiau gollwng i goetsis.

Mae sawl atyniad nodedig yng nghanol y ddinas ac ar y glannau. Mae Castell Caerdydd yn atyniad allweddol sy’n cynnig teithiau tywys i grwpiau ddysgu mwy am ei dreftadaeth ddiddorol.  Yn edrych dros Fae Caerdydd, gall grwpiau fwynhau Canolfan y Mileniwm ac adeilad enwog y Pierhead drws nesa’ i Senedd Cymru.

Dyma ragflas o rai o’r atgofion hudolus y gallwch eu gwneud yng Nghaerdydd Nadolig eleni. Argymhellir eich bod yn gwneud archeb grŵp cyn eich ymweliad.

1. Sglefrio iâ ar dir Castell.

Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd i diroedd prydferth Castell Caerdydd eleni.  Mae’r llawr sglefrio dan do yn addas at bob oed a gallu.

Digwyddiad tocyn:  15 Tachwedd i 8 Ionawr.

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2022 • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd

 

2. Gwisgo’n gynnes a dewis yr anrheg berffaith i anwyliaid yn y Farchnad Nadolig draddodiadol.

Mae Marchnad Nadolig Caerdydd yn gartref i emwaith arian unigryw, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr tawdd hardd, cerameg wedi’i thaflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, bwyd a diod tymhorol, a llawer mwy. Sgwrsiwch â’r gwneuthurwyr talentog a mwynhewch awyrgylch unigryw’r ŵyl wrth i chi grwydro drwy’r chalets pren traddodiadol.

Dyddiadau: 10 Tachwedd i 23 Rhagfyr

Marchnad Nadolig Caerdydd 2022 • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd

3. Taith gerdded ryfeddol drwy ‘Geunant y Goleuadau’ gyda mil o sêr swynol.

Mae llwybr goleuadau Y Nadolig ym Mharc Bute, sydd wedi ennill gwobrau, yn ôl am ei ail flwyddyn gyda llu o olygfeydd newydd. Bydd y llwybr hudolus 1.4 cilomedr o hyd yn mynd ag ymwelwyr ar ‘daith laser hypnotig,’ gan gynnwys profiad peli golau epig ac ‘awyr hylifol,’ ac mae’n addo bod yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan ei fwynhau.

Digwyddiad tocyn: 24 Tachwedd i 1 Ionawr

Nadolig ym Mharc Bute • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd

 

4. Mwynhau ym mar mwyaf cŵl y ddinas.

Draw ar Lawntiau Neuadd y Ddinas, yng nghanol holl hwyl y ffair, mae’r tymereddau is-sero yn y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd yn golygu mai hwn yw’r lle mwyaf cŵl i ymlacio’r Nadolig hwn.  Mae wedi ei wneud yn gyfan gwbl allan o iâ, felly gwisgwch yn gynnes i fwynhau diod gyda’ch grŵp!

Digwyddiad tocyn: 15 Tachwedd i 8 Ionawr

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2022 • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd

5. Profi hud a hiraeth sioe Spiegeltent.

Mae tair sioe anhygoel – Santa’s Wish, Castellana a The Nutcracker – yn dod i diroedd Castell Caerdydd mewn Spiegeltent Ewropeaidd odidog.  Wedi’u hadeiladu o bren, drychau, cynfas a gwydr plwm a’u haddurno mewn brocêd melfed, Spiegletents oedd y prif atyniad yn ffeiriau Gwlad Belg ‘slawer dydd ac eleni bydd sioeau’r ŵyl yn y Spiegeltent yn sgubo ymwelwyr i ffwrdd i fyd hiraethus a hudolus.

Digwyddiad tocyn:  25 Tachwedd i 8 Ionawr

Gŵyl Nadolig – Castellana • Be Sy’ Mlaen? • Digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd

 

6. Gwylio Goleuadau’r Nadolig yn disgleirio.

Ddydd Mawrth 15 Tachwedd, wrth iddi nosi, bydd canol dinas Caerdydd yn disgleirio wrth i oleuadau Nadolig hyfryd y ddinas gael eu cynnau am y tro cyntaf, gan nodi dechrau Nadolig Caerdydd.

7. Mynd am dro drwy’r Arcedau Fictoraidd cain.

Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i’r dim, ac mae Arcedau Fictoraidd Caerdydd yn driw i’r traddodiad.  Wedi’u haddurno’n ar gyfer yr ŵyl, mae ‘na hud syml i grwydro drwy’r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o’r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch yn eu darganfod rhwng y siopau bwtîc.

Siopa yng Nghaerdydd • Croeso Caerdydd

 

8. Swatio’n glyd mewn caban ym Maes yr Ŵyl.

Rhwng prynu anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu, beth am sbwylio’ch hunan y Nadolig hwn? Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl yw’r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst a chael ail wynt cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig.

Dyddiadau: 10 Tachwedd i 24 Rhagfyr

Cwr yr Ŵyl Caerdydd • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd

9. Mwynhau noson mas Nadoligaidd gyda’ch grŵp

Mae’r Nadolig i gyd am deulu a ffrindiau, a pha ffordd well o’i ddathlu na gyda noson allan dda? Mae gwledd ar gael yng Nghaerdydd – beth am roi cynnig ar bryd Nadoligaidd â thwist Sri Lancaidd yn y Coconut Tree? Cofleidiwch draddodiad gyda’r holl drimins yn y Pontcanna Inn, neu rhowch gynnig ar brydau gwych Daffodil, sy’n hyrwyddo cynnyrch Cymreig, efallai gyda gwydraid o win o’u rhestr gynhwysfawr – mae’n Nadolig wedi’r cyfan.

Llefydd i Fwyta ac Yfed yng Nghaerdydd • Croeso Caerdydd

 

10. Profi Panto traddodiadol neu ryfeddu at hud y bale.

Mae “O ydy, mae e” yn draddodiad Nadolig, ac os oes awydd rhywbeth clasurol arnoch, fyddwch chi ddim yn dod o hyd i unrhyw beth gwell na Snow White and the Seven Dwarves yn y Theatr Newydd hanesyddol.  Ac wrth sôn am y clasuron, bydd Neuadd Dewi Sant yn cynnal perfformiadau o Swan Lake, Copéllia, a The Nutcracker… ond os ydych am newid i draddodiad, gwnewch hynny mewn steil gyda sioe yng Nghanolfan Mileniwm eiconig Caerdydd lle mae ‘Les Misérables,’ un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd, yn cael ei hail-lwyfannu ar gyfer yr 21ain ganrif.

Digwyddiad tocyn:  Theatr Newydd Snow White and the Seven Dwarves 10 Rhagfyr i 8 Ionawr / Ballets Neuadd Dewi Sant 17 Rhagfyr i 31 Rhagfyr / Les Misérables 13 Rhagfyr i 14 Ionawr.

Beth sy’ Mlaen? • Digwyddiadau Cyffrous • Croeso Caerdydd

11. Dyblu’r hwyl drwy aros dros nos.

Mae gormod i’w wneud mewn dim ond un diwrnod yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, felly beth am wneud noson ohoni drwy aros dros nos yn un o westai’r brifddinas? O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yn ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi’n siŵr o ddeffro’n barod am fwy o hwyl yr ŵyl!

Lleoedd i aros yng Nghaerdydd • Croeso Caerdydd

 

I gael rhagor o wybodaeth am Nadolig Caerdydd, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig

I gael rhagor o wybodaeth am brofi Caerdydd fel grŵp, ewch i croesocaerdydd.com/grwpiau ar gyfer ymweliadau hamdden, a meetcardiff.com/groups ar gyfer arosiadau corfforaethol.