Neidio i'r prif gynnwys

Croesawu 2023: Ble i ddathlu Nos Galan yng Nghaerdydd

15 Rhagfyr 2022

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto. Mae’n bryd codi gwydraid i’r flwyddyn rydyn ni newydd ei chael a chroesawu’r flwyddyn sydd i ddod. Felly, os ydych chi’n dod i Gaerdydd ar gyfer Nos Galan ac yn chwilio am y llefydd gorau i ddathlu’r flwyddyn newydd yna does dim angen i chi edrych ymhellach, gan ein bod wedi dewis lleoliadau o fri i fynd ati mewn steil.

 

Dawns Du a Gwyn Nos Galan Ddu

Pa le gwell i chi a’ch anwyliaid groesawu 2023 gyda chlec nag yn unig westy pum seren Caerdydd, sy’n edrych dros fae hardd Bae Caerdydd. Byddwch yn rhan o barti i’w chofio gyda phrofiad bwyta pum seren ac adloniant gwych.

Mae’r noson yn dechrau am 7pm, gyda swper yn cael ei weini o 8pm a dathliad hanner nos.

 

Parti Nos Galan y Great Gatsby

Profwch barti heb ei ail – mae Soiree’r Great Gatsby yn gip cyfoes ar bartïon enwog Great Gatsby. Peidiwch â disgwyl hen fandiau teyrnged, mae’r parti hwn yn cynnwys rhai o’r DJs swing a bas gorau, band mawr swing a bas saith darn a’r Artful Dodger ei hun!

Ychwanegwch ychydig o fwrlesg trawiadol, hud a lledrith i’ch swyno a pherfformiadau syrcas arbennig gan The Rogue Circus, a chewch barti y byddai Gatsby ei hun yn falch ohono!

Bydd bwyd stryd traddodiadol o Jamaica yn cael ei weini gan Wilfs Caribbean Street Kitchen (heb ei gynnwys ym mhris y tocynnau).

Parti Masgiau Nos Galan

Dathlwch y Flwyddyn Newydd mewn steil gyda pharti masgiau yn y Pontcanna Inn. Yn ffefryn gyda phobl leol, mae’r dafarn draddodiadol  ar Heol y Gadeirlan, ond taith gerdded fer o ganol y ddinas. Bydd gwisgwyr masgiau’n derbyn gwydr o ddiod pefriog am ddim.

Mynediad am ddim, bwyd gwych, diodydd gwych!

 

Amser Martini

  • Dirty Martini
  • O 7pm i 3am
  • Archebwch ymlaen llaw am £17.50 y pen

Ffarweliwch â 2022 a chroesawch y flwyddyn newydd gyda Martini yn eich llaw yn Dirty Martini. Gadewch iddyn nhw gynnal eich Nos Galan chi gyda’r parti’n dechrau am 7pm a DJ byw i’ch cadw’n dawnsio tan 3am.

Byddan nhw hyd yn oed yn eich helpu i roi hwb i’r  dathliadau gyda Martini am ddim os byddwch yn cyrraedd cyn 9pm, a bydd diodydd rhad tan 9pm ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd yn gynnar.

Gwisgwch i greu argraff, bydd hwn yn un i’w gofio!

Dawnsio yng ngolau’r Lleuad

Bydd y gofod oriel wych yn cael ei drawsnewid yn llawr dawnsio llachar, gydag adloniant DJ di-dor drwy gydol y nos.

Bydd mynediad i’r to drwy’r nos, gyda golygfeydd ysblennydd o’r ddinas.

Pa le gwell i groesawu’r Flwyddyn Newydd nag yn y bar panoramig hwn sy’n edrych dros y ddinas. Mae’r parti yn dechrau am 6pm ac yn parhau tan 2am.

 

Dawns Nos Galan y Philly

Dathlwch y Flwyddyn Newydd mewn steil gyda diod befriog a chanapes am ddim fydd yn cael eu gweini drwy gydol y noson yn y Philharmonic enwog. Cartref i bum ystafell unigryw – 360, Secret Garden, Philly Bar, Gold Lounge VIP, a’r Heineken Rooftop Terrace.

Yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur, gyda sawl DJ, rhestr hir o jins i bawb ac awr diodydd rhad enwog Caerdydd. Adloniant byw o’r Sax and the Harmonics yn perfformio’n fyw ar y llwyfan. Archebwch nawr i fwynhau’r profiad yn y Philharmonic.

 

Rocio ar Nos Galan

  • Brewhouse
  • O 5pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
  • Mynediad am ddim

Ymunwch â’r Brewhouse i rocio’ch ffordd i’r Flwyddyn Newydd gyda cherddoriaeth fyw o 5pm, awr hapus o 5pm-7pm, canapes am ddim, diod pefriog am ddim am hanner nos a mynediad am ddim drwy’r nos.

 

Parti Pêl o Belydrau Nos Galan

Yn llawn cymeriad, disgleirdeb a llwyth o secwinau – mae Josephine yn ôl gyda’i strafagansa Nos Galan sydd wedi gwerthu allan yn y gorffennol – Glitterbomb! Gyda chod gwisg i ddenu piod, dewch i’n dallu gyda’ch bling a chewch fynediad i’r parti Nos Galan wylltaf yn y dref.

Archebwch le nawr i sicrhau eich tocynnau Nos Galan ynghyd â Martini Glitter wrth gyrraedd. Mwynhewch noson o ddrigioni yn nwylo ein DJ arbennig a’n gwesteiwr drag cabaret. Bydd llawer o dwrw, cystadlaethau cydwefuso, karaoke grŵp a llwyth o gymeriad.

Dewch â’r merched ynghyd, ychwanegwch becyn diod a chodwch wydriad disglair wrth i’r cloc daro hanner nos. Ffarweliwch â 2022 mewn steil!

Cinio a Dawns Nos Galan

  • Park Plaza
  • O 7pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
  • Rhaid cadw lle, £65yp

Cynhelir yn Ystafelloedd y Parc yn y Park Plaza gyda diod wrth gyrraedd a chinio cwrs 3 ac yna disgo i ddawnsio’ch ffordd i ddechrau cofiadwy i’r Flwyddyn Newydd.

 

Parti Nos Galan

  • DEPOT
  • O 7pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
  • Rhaid cadw lle, £22yp

Ymunwch â ni yn y DEPOT ar gyfer Nos Galan i’w chofio! Byddwn yn dathlu blwyddyn anhygoel arall – yng nghwmni The RPJ Band sydd wedi ennill sawl gwobr.

Dewch i groesawu’r flwyddyn newydd mewn steil gyda noson lawn coctêls lliwgar, alawon soul a gwledd bwyd stryd i’ch cadw ar y llawr dawnsio tan yr oriau mân.

Mae tocynnau ar werth nawr felly gwisgwch i greu argraff a dawnsiwch eich ffordd i 2023 gyda ni.

Team Up yn cyflwyno Dawns Goth Nos Galan

  • Tiny Rebel
  • O 10pm i 3am
  • Archebwch ymlaen llaw am £6 y pen

Doedd Team Up ddim yn gallu gadael i’r Flwyddyn Newydd fynd heibio heb gynnal un o’u digwyddiadau Nos Galan gwirioneddol wirion a gwych! Mae eu ffrindiau hyfryd yn Tiny Rebel wedi eu gwahodd i barti i ddathlu diwedd y flwyddyn felly maen nhw’n mynd amdani!

Y thema… dawns goth. Y tiwns… emo, pync pop, caneuon amgen. Ynghyd ag ail ystafell o bop a hen ganeuon clasurol yn union fel yr hen ddyddiau da! Y naws… perffaith.

Gallwch ddisgwyl diodydd blasus; conffeti, popwyr parti, losin, addurniadau, rhubannau parti, gliter, siarcod a deinosoriaid aer a hwyl a sbri hurt. Gwrandewch ar yr holl alawon roc, amgen, pync pop a metel ynghyd â phleserau cudd a chaneuon siart poblogaidd.

 

Parti Nos Galan

Dathlwch y Flwyddyn Newydd yn y ffordd fwyaf gwych yn The Botanist Caerdydd! Beth am ddweud Iechyd Da i ddechreuadau newydd a bod yn ddiolchgar am yr atgofion a wnaed yn 2022!

Archebwch fwrdd a mwynhewch wydr am ddim o ddiod pefriog pan fyddwch chi’n bwyta o’n Bwydlen arbennig ar Nos Galan.

Arhoswch o gwmpas i bartïo ar ôl bwyta gyda ni, gyda pherfformiadau cerddoriaeth fyw drwy’r nos ac awyrgylch fel dim arall! Does dim lle gwell i groesawu’r Flwyddyn Newydd nag yn Y Botanist!

 

Fiesta Nos Galan

Os ydych chi’n awyddus i ddathlu mewn steil, Revolución de Cuba yw’r lle i fod. Gyda cherddoriaeth fyw a dawnsio Mucho, mae ganddyn nhw bopeth i ddweud helo i 2023 yn null Cuba.

 

Sur La Piste a Sesiynau’r Bar Iâ

  • Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
  • Ar agor tan 12:30am
  • Tocynnau’r Bar Barrug am £15 y pen
  • Mynediad am ddim i Sur La Piste

Ewch i gyrchfan fwyaf cŵl – yn llythrennol – Caerdydd, y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf ar Lawnt  Neuadd y Ddinas a mwynhewch ddiod bach o fodca â blas mewn tymheredd dan y rhewbwynt – gyda’r sesiwn olaf yn dechrau am 11:30pm. Cynheswch wedyn gyda diod neu ddau ym mar cynnes â naws après-ski Sur La Piste.

Castellana – Dangosiad Nos Galan

Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth, chwerthin a hwyl mewn Spiegeltent unigryw ar dir Castell Caerdydd!

Paratowch i gael eich hudo gan y consurwyr hy, acrobatwyr, angylion tanllyd a’r cythreuliaid syfrdanol o Gastellana, y bydd eu sgiliau artistig a dewr yn eich gadael yn syfrdan. Wedi ei blethu â stori garu a digon o gomedi, mae’r sioe ddrygionus hon yn addo’r noson allan orau y Nadolig hwn.

 

Gwnewch y gorau o’ch ymweliad drwy aros yn un o’r nifer fawr o westai yng nghanol y ddinas neu Fae Caerdydd. Am rywbeth mwy personol, cymerwch olwg ar ein rhestr o lety gwely a brecwast, tai llety a llefydd eraill i aros yn y ddinas.

Nawr rydych chi’n gwybod y cyfan sydd ei angen i gael Nos Galan ysblennydd – a pheidiwch ag anghofio ein tagio yn eich lluniau Blwyddyn Newydd ar @croesocaerdydd #CroesoCaerdydd.

 

Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau addas i’r teulu ar gyfer Nos Galan, darllenwch am ein gweithgareddau sy’n addas i bawb.