Neidio i'r prif gynnwys

12 TAFARN Y NADOLIG CAERDYDD

Thursday 31st October 2024


 

Pa ffordd well o fwynhau ysbryd yr ŵyl na chrôl tafarnau a bariau Canol Dinas Caerdydd gyda’ch ffrindiau gorau?

Rydyn ni wedi creu canllaw 12 Tafarn y Nadolig Caerdydd, felly gwisgwch eich hoff siwmper gwlanog a phrofwch eu bwydydd a diodydd blasus gorau! Rydyn ni wedi cynnwys amrywiaeth go dda, o beints tawel mewn tafarn draddodiadol i goctels twt a thaclus a falle ambell i beth annisgwyl – rhywbeth i bawb.

Peidiwch ag anghofio ein tagio ar eich anturiaethau Nadoligaidd – @VisitCardiff #YmweldâChaerdydd

1. THE BOTANIST

Mae’r lleoliad yma wedi’i haddurno’n wych ac yn gwbl ysblennydd ac unigryw.   Ymgollwch yn y gerddoriaeth fyw, mwynhewch ddiodydd Nadoligaidd a rhowch gynnig ar fwydlenni blasus llawn hwyl yr ŵyl.

Cadwch y parti i fynd a gofynnwch am eich hoff gân i ddawnsio drwy gydol y noson gyda’n hartistiaid byw talentog.

 

Stryd yr Eglwys, CF10 1BG

2. TEMPLE BAR

Does dim eisiau mynd yr holl ffordd i Iwerddon i joio fel y gwyddelod, yn y dafarn Wyddelig draddodiadol yma llond y lle o chwerthin, peints da, a craic.  Lle cynnes a chlyd yw hwn i fwynhau blas o Iwerddon, gyda stowt, wisgi a bwyd Gwyddelig traddodiadol i dwymo’r enaid a’r galon.  Cewch chi flas o nid yn unig bwyd y gwyddelod, ond eu lletygarwch hefyd.

6 Y Stryd Fawr, CF10 1FA

4. THE PHILHARMONIC

Am brofiad Nadoligaidd heb ei debyg, does dim eisiau mynd ymhellach na’r Philharmonic.  Dyma’r lle i fod os am fwynhau hwyl yr ŵyl yn iawn! Beth am gadw ardal breifat â bwffe Nadoligaidd llawn danteithion, neu gael Brynsh Nadoligaidd gyda’ch Mêts?  ‘Sdim diffyg o ran pecynnau diodydd chwaith i ddawnsio tan oriau bach y bore yn y Clwb 360 adnabyddus.

Heol Eglwys Fair, CF10 1FA

5. PITCH

Galwch heibio am ddrinc mewn bar sy’n ymfalchïo mewn bod yn annibynnol ac yn y cynhwysion syml Cymreig ar eu platiau.  Os chi’n chwilio am frecwast, coctel, neu bryd o fwyd blasus, chewch chi mo’ch siomi, felly pam lai? Dim ond y cynhwysion gorau hynny sy’n tynnu dŵr i’r dannedd welwch chi ar y plât yn Pitch, gan ffermwyr, tyfwyr, gwneuthurwyr a marchnadoedd lleol. Mae’r rhain yn cael eu hasio’n brydau da, llawn blasau ffres a newydd – llafur cariad i greu bwyd gwych.

Lôn y Felin, CF10 1FL

6. GŴYL Y GAEAF CAERDYDD

Ymlaciwch gyda’ch ffrindiau a mwynhewch ddiod yn lleoliad mwyaf cŵl y ddinas, sef profiad newydd cyffrous y Bar Iâ yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd!  Dyma nefoedd dan y rhewbwynt i Instagramwyr ac ydy, mae popeth wedi’i wneud o iâ. I ymweld â’r Bar Iâ, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw slot amser ymlaen llaw. Bydd y caban sgïo deulawr bythol boblogaidd, Sur la Piste, yn dychwelyd ac eleni bydd teras to awyr agored newydd sbon.

Neuadd y Ddinas Lawnt a Thiroedd Castell Caerdydd

7. MAES YR ŴYL CAERDYDD

Yn seiliedig ar farchnadoedd Bavaria, mae Maes yr Ŵyl yn atyniad poblogaidd ar Stryd Working ers nifer o flynyddoedd gyda naws Nadoligaidd yng nghanol prysurdeb y ddinas.  Dewch heibio, bachwch fwrdd yn y cabanau clyd, a thorrwch syched gyda pheint o gwrw a bratwurst sawrus, y ffordd berffaith o orffwys cyn bwrw mlaen gyda’r siopa Nadolig!

Stryd Working, CF10 1GN

8. BONNIE ROGUES

Amser am bach o egni? Tafarn bartïo yw Bonnie Rogues i gynulleidfa bach fwy aeddfed. Gydag ysbrydoliaeth o dafarnau’r DU ac awyrgylch neuaddau a gerddi cwrw yr Almaen, dyma dafarn fodern gydag awyrgylch braf a hwyl.  Diweddglo addas i noson Nadoligaidd!

Heol Eglwys Fair, CF10 1FA

9. DEPOT

Eisiau mynd yn piste? Gŵyl aeafol llawn cyffro, antur ac eira… a Bingo, sy’n eich aros! Ymunwch â Depot am noson thema sgio hudol i ddihuno’r ysbryd a chyflymu’r galon.  Drwy gydol y noson, paratowch i fynd ar antur Nadoligaidd gyda’n DJ gwadd a styntiau llwyfan nid-i’r-gwangalon sy’n gwthio’r ffiniau o ran beth sy’n bosibl ar y llethrau.

Arglawdd Curran, CF10 5DY

10. THE CITY ARMS

Chwilio am le bach mwy traddodiadol? Paradwys cwrw ers blynyddoedd maith, a thafarn i ymweld â hi heb os, yw’r City Arms.  Mae detholiad newydd o gwrw drafft o hyd o ledled Cymru a gweddill y DU, a digon o ddewis o’r botel hefyd.

Stryd y Cei, CF10 1EA

11. FLIGHT CLUB

Mae tri llawr y lle yma yn llawn teyrngedau i’n dinas, goleuadau sy’n dawnsio’n gydamserol gyda’r gerddoriaeth, Bella ac Astrid ein ceffylau ffair, a bariau arbennig i yfed coctel neu dri.  A nid dyna’r cyfan! Byddwch chi’n siŵr o deimlo ar ben y byd ar ein teras to cynnes gyda chabanau clyd a charafán draddodiadol. O, ac ydyn ni wedi sôn am y blwch ffôn disgo? Codwch y ffôn; ‘sdim dal pwy fydd yn ateb.

3-4 Heol Eglwys Fair, CF10 1AT

12. THE IVY

Bwyd drwy’r dydd mewn lle soffistigedig a hamddenol yng nghalon y ddinas.  Yn ogystal â’r prif ardal fwyta sy’n llawn manylder Art Deco hyfryd a meinciau oren dwys trawiadol, mae gyda ni ein bar ysblennydd ar y llawr cyntaf dan goeden flodeuog hardd.

Ymgollwch yn hud a lledrith y Nadolig gyda’n Bwydlenni Nadolig arbennig.  Ar gael o 14 Tachwedd, mwynhewch ddau gwrs am £50 neu dri chwrs am £55, gan gynnwys ein Pastai’r Bugail gyda Gŵydd a Thwrci arbennig a Crème Brûlée fyddwch chi ddim yn gallu dweud na wrtho, ymhlith prydau Nadoligaidd eraill.

Yr Ais, CF10 1GA

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.