Beth wyt ti'n edrych am?
Croesawu 2024: Ble i ddathlu Nos Galan yng Nghaerdydd
Dydd Llun 27 Tachwedd 2023
Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto. Mae’n bryd codi gwydraid i’r flwyddyn rydyn ni newydd ei chael a chroesawu’r flwyddyn sydd i ddod. Felly, os ydych chi’n dod i Gaerdydd ar gyfer Nos Galan ac yn chwilio am y llefydd gorau i ddathlu’r flwyddyn newydd yna does dim angen i chi edrych ymhellach, gan ein bod wedi dewis lleoliadau o fri i fynd ati mewn steil.
Dawns Du a Gwyn Nos Galan Ddu
- Voco St David’s
- O 7pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
- Rhaid cadw lle, £105yp
Pa le gwell i chi a’ch anwyliaid groesawu 2023 gyda chlec nag yn unig westy pum seren Caerdydd, sy’n edrych dros fae hardd Bae Caerdydd. Byddwch yn rhan o barti i’w chofio gyda phrofiad bwyta pum seren ac adloniant gwych.
Mae’r noson yn dechrau am 7pm, gyda swper yn cael ei weini o 8pm a dathliad hanner nos.
Parti Nos Galan y Great Gatsby
- Y Gyfnewidfa Lo
- O 7pm i 2am
- Rhaid cadw lle, £50yp
Profwch barti heb ei ail – mae Soiree’r Great Gatsby yn gip cyfoes ar bartïon enwog Great Gatsby. Peidiwch â disgwyl hen fandiau teyrnged, mae’r parti hwn yn cynnwys rhai o’r DJs swing a bas gorau, band mawr swing a bas saith darn a’r Artful Dodger ei hun!
Ychwanegwch ychydig o fwrlesg trawiadol, hud a lledrith i’ch swyno a pherfformiadau syrcas arbennig gan The Rogue Circus, a chewch barti y byddai Gatsby ei hun yn falch ohono!
Bydd bwyd stryd traddodiadol o Jamaica yn cael ei weini gan Wilfs Caribbean Street Kitchen (heb ei gynnwys ym mhris y tocynnau).
Parti Masgiau Nos Galan
- The Pontcanna Inn
- O 7pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
- Mynediad am ddim
Dathlwch y Flwyddyn Newydd mewn steil gyda pharti masgiau yn y Pontcanna Inn. Yn ffefryn gyda phobl leol, mae’r dafarn draddodiadol ar Heol y Gadeirlan, ond taith gerdded fer o ganol y ddinas. Bydd gwisgwyr masgiau’n derbyn gwydr o ddiod pefriog am ddim.
Mynediad am ddim, bwyd gwych, diodydd gwych!
Amser Martini
- Dirty Martini
- O 7pm i 3am
- Archebwch ymlaen llaw am £17.50 y pen
Ffarweliwch â 2022 a chroesawch y flwyddyn newydd gyda Martini yn eich llaw yn Dirty Martini. Gadewch iddyn nhw gynnal eich Nos Galan chi gyda’r parti’n dechrau am 7pm a DJ byw i’ch cadw’n dawnsio tan 3am.
Byddan nhw hyd yn oed yn eich helpu i roi hwb i’r dathliadau gyda Martini am ddim os byddwch yn cyrraedd cyn 9pm, a bydd diodydd rhad tan 9pm ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd yn gynnar.
Gwisgwch i greu argraff, bydd hwn yn un i’w gofio!
Dawnsio yng ngolau’r Lleuad
- Jacob’s Roof Garden
- O 6pm i 2am
- Rhaid cadw lle, £32yp
Bydd y gofod oriel wych yn cael ei drawsnewid yn llawr dawnsio llachar, gydag adloniant DJ di-dor drwy gydol y nos.
Bydd mynediad i’r to drwy’r nos, gyda golygfeydd ysblennydd o’r ddinas.
Pa le gwell i groesawu’r Flwyddyn Newydd nag yn y bar panoramig hwn sy’n edrych dros y ddinas. Mae’r parti yn dechrau am 6pm ac yn parhau tan 2am.
Dawns Nos Galan y Philly
- The Philharmonic
- O 7pm i 3am
- Archebwch ymlaen llaw am £3 y pen
Dathlwch y Flwyddyn Newydd mewn steil gyda diod befriog a chanapes am ddim fydd yn cael eu gweini drwy gydol y noson yn y Philharmonic enwog. Cartref i bum ystafell unigryw – 360, Secret Garden, Philly Bar, Gold Lounge VIP, a’r Heineken Rooftop Terrace.
Yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur, gyda sawl DJ, rhestr hir o jins i bawb ac awr diodydd rhad enwog Caerdydd. Adloniant byw o’r Sax and the Harmonics yn perfformio’n fyw ar y llwyfan. Archebwch nawr i fwynhau’r profiad yn y Philharmonic.
Rocio ar Nos Galan
- Brewhouse
- O 5pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
- Mynediad am ddim
Ymunwch â’r Brewhouse i rocio’ch ffordd i’r Flwyddyn Newydd gyda cherddoriaeth fyw o 5pm, awr hapus o 5pm-7pm, canapes am ddim, diod pefriog am ddim am hanner nos a mynediad am ddim drwy’r nos.
Parti Pêl o Belydrau Nos Galan
- Tonight Josephine
- O 7pm i 2am
- Rhaid cadw lle, £20yp
Yn llawn cymeriad, disgleirdeb a llwyth o secwinau – mae Josephine yn ôl gyda’i strafagansa Nos Galan sydd wedi gwerthu allan yn y gorffennol – Glitterbomb! Gyda chod gwisg i ddenu piod, dewch i’n dallu gyda’ch bling a chewch fynediad i’r parti Nos Galan wylltaf yn y dref.
Archebwch le nawr i sicrhau eich tocynnau Nos Galan ynghyd â Martini Glitter wrth gyrraedd. Mwynhewch noson o ddrigioni yn nwylo ein DJ arbennig a’n gwesteiwr drag cabaret. Bydd llawer o dwrw, cystadlaethau cydwefuso, karaoke grŵp a llwyth o gymeriad.
Dewch â’r merched ynghyd, ychwanegwch becyn diod a chodwch wydriad disglair wrth i’r cloc daro hanner nos. Ffarweliwch â 2022 mewn steil!
Cinio a Dawns Nos Galan
- Park Plaza
- O 7pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
- Rhaid cadw lle, £65yp
Cynhelir yn Ystafelloedd y Parc yn y Park Plaza gyda diod wrth gyrraedd a chinio cwrs 3 ac yna disgo i ddawnsio’ch ffordd i ddechrau cofiadwy i’r Flwyddyn Newydd.
Parti Nos Galan
- DEPOT
- O 7pm i mewn i’r Flwyddyn Newydd
- Rhaid cadw lle, £22yp
Ymunwch â ni yn y DEPOT ar gyfer Nos Galan i’w chofio! Byddwn yn dathlu blwyddyn anhygoel arall – yng nghwmni The RPJ Band sydd wedi ennill sawl gwobr.
Dewch i groesawu’r flwyddyn newydd mewn steil gyda noson lawn coctêls lliwgar, alawon soul a gwledd bwyd stryd i’ch cadw ar y llawr dawnsio tan yr oriau mân.
Mae tocynnau ar werth nawr felly gwisgwch i greu argraff a dawnsiwch eich ffordd i 2023 gyda ni.
Team Up yn cyflwyno Dawns Goth Nos Galan
- Tiny Rebel
- O 10pm i 3am
- Archebwch ymlaen llaw am £6 y pen
Doedd Team Up ddim yn gallu gadael i’r Flwyddyn Newydd fynd heibio heb gynnal un o’u digwyddiadau Nos Galan gwirioneddol wirion a gwych! Mae eu ffrindiau hyfryd yn Tiny Rebel wedi eu gwahodd i barti i ddathlu diwedd y flwyddyn felly maen nhw’n mynd amdani!
Y thema… dawns goth. Y tiwns… emo, pync pop, caneuon amgen. Ynghyd ag ail ystafell o bop a hen ganeuon clasurol yn union fel yr hen ddyddiau da! Y naws… perffaith.
Gallwch ddisgwyl diodydd blasus; conffeti, popwyr parti, losin, addurniadau, rhubannau parti, gliter, siarcod a deinosoriaid aer a hwyl a sbri hurt. Gwrandewch ar yr holl alawon roc, amgen, pync pop a metel ynghyd â phleserau cudd a chaneuon siart poblogaidd.
Parti Nos Galan
- The Botanist Caerdydd
- O 7pm i 2am
- Rhaid cadw lle
Dathlwch y Flwyddyn Newydd yn y ffordd fwyaf gwych yn The Botanist Caerdydd! Beth am ddweud Iechyd Da i ddechreuadau newydd a bod yn ddiolchgar am yr atgofion a wnaed yn 2022!
Archebwch fwrdd a mwynhewch wydr am ddim o ddiod pefriog pan fyddwch chi’n bwyta o’n Bwydlen arbennig ar Nos Galan.
Arhoswch o gwmpas i bartïo ar ôl bwyta gyda ni, gyda pherfformiadau cerddoriaeth fyw drwy’r nos ac awyrgylch fel dim arall! Does dim lle gwell i groesawu’r Flwyddyn Newydd nag yn Y Botanist!
Fiesta Nos Galan
- Revolution de Cuba
- O 10pm i 3am
- Archebwch ymlaen llaw am £12 y pen
Os ydych chi’n awyddus i ddathlu mewn steil, Revolución de Cuba yw’r lle i fod. Gyda cherddoriaeth fyw a dawnsio Mucho, mae ganddyn nhw bopeth i ddweud helo i 2023 yn null Cuba.
Sur La Piste a Sesiynau’r Bar Iâ
- Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
- Ar agor tan 12:30am
- Tocynnau’r Bar Barrug am £15 y pen
- Mynediad am ddim i Sur La Piste
Ewch i gyrchfan fwyaf cŵl – yn llythrennol – Caerdydd, y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf ar Lawnt Neuadd y Ddinas a mwynhewch ddiod bach o fodca â blas mewn tymheredd dan y rhewbwynt – gyda’r sesiwn olaf yn dechrau am 11:30pm. Cynheswch wedyn gyda diod neu ddau ym mar cynnes â naws après-ski Sur La Piste.
Castellana – Dangosiad Nos Galan
- Y Spiegeltent yng Nghastell Caerdydd
- Dangosiad am 8pm
- Tocynnau yn dechrau am £24.50yp
Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth, chwerthin a hwyl mewn Spiegeltent unigryw ar dir Castell Caerdydd!
Paratowch i gael eich hudo gan y consurwyr hy, acrobatwyr, angylion tanllyd a’r cythreuliaid syfrdanol o Gastellana, y bydd eu sgiliau artistig a dewr yn eich gadael yn syfrdan. Wedi ei blethu â stori garu a digon o gomedi, mae’r sioe ddrygionus hon yn addo’r noson allan orau y Nadolig hwn.
Gwnewch y gorau o’ch ymweliad drwy aros yn un o’r nifer fawr o westai yng nghanol y ddinas neu Fae Caerdydd. Am rywbeth mwy personol, cymerwch olwg ar ein rhestr o lety gwely a brecwast, tai llety a llefydd eraill i aros yn y ddinas.
Nawr rydych chi’n gwybod y cyfan sydd ei angen i gael Nos Galan ysblennydd – a pheidiwch ag anghofio ein tagio yn eich lluniau Blwyddyn Newydd ar @croesocaerdydd #CroesoCaerdydd.
Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau addas i’r teulu ar gyfer Nos Galan, darllenwch am ein gweithgareddau sy’n addas i bawb.