Neidio i'r prif gynnwys

Cau ffyrdd yn ystod 10K Caerdydd ar 1 Medi 2024

Dydd Iau, 22 Awst 2024


 

Bydd strydoedd y brifddinas dan eu sang gyda miloedd o redwyr ddydd Sul 1 Medi yn cystadlu yn 10K Caerdydd. Bydd ffyrdd yn cau yn eu tro’n rhan o’r digwyddiad.

 

Cau ffyrdd

I gynnal y digwyddiad, bydd y Ganolfan Ddinesig yn cau o 7am ddydd Sadwrn 31 Awst tan 6pm ddydd Sul 1 Medi.

Bydd hynny’n cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Heol Corbett, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Ddydd Sul 1 Medi, bydd cyfres o ffyrdd yn cau yn eu tro ar hyd llwybr y ras o 9am tan 1pm.  Bydd y rhain yn cynnwys:

  •  Heol y Gogledd, o’r gyffordd â Heol Colum hyd at y gyffordd â Boulevard De Nantes – mynediad at y Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett a bydd mynediad at Sgwâr y Frenhines Ann yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett gyda ffordd allan drwy Heol Corbett a thrwy Heol Colum)
  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Boulevard De Nantes o’r gyffordd â Phlas y Parc/Stuttgarter Strasse i’r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Y Brodordy a Gerddi’r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, a Heol y Parc
  • Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
  • Y Stryd Fawr o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare
  • Fitzhamon Embankment , Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street a Teras Coldsteam
  •  Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
  •  Stryd Neville o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen  i’r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
  • Stryd Wellington o’r gyffordd â heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Brenin
  • Heol y Gadeirlan o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Penhill
  • Pob ffordd ochr sy’n dod allan ar Heol y Gadeirlan
  • Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, Ffordd Feingefn yng Ngerddi Sophia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler
  • Heol Penhill o’r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
  • Bydd Rhodfa’r Gorllewin ar gau o’r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.

SYLWER: Bydd y troi i’r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.

 

Trenau

Mae Trafnidiaeth i Gymru’n rhoi gwybod i’w cwsmeriaid y bydd gwaith peirianyddol ar linellau Rhymni a Coryton yn cau’r rheilffordd i drenau ar ddydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi, drwy’r dydd.

Mae gwasanaeth yn lle trên ar waith rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni.

Derbynnir tocynnau gyda Bws Caerdydd rhwng canol dinas Caerdydd a Coryton ddydd Sadwrn. Ni fydd gwasanaeth Coryton ddydd Sul, fel arfer.

I weld yr holl wybodaeth ar ddiwrnod y ras, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad – Gwybodaeth Diwrnod y Ras – Brecon Carreg CDF 10K (caerdydd10k.cymru)