Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd i agor eleni ar 16 Tachwedd
Dydd Iau, 9 Tachwedd 2023 · Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
Bydd hud y gaeaf yn dychwelyd i Gaerdydd ar 16 Tachwedd wrth i Ŵyl y Gaeaf Caerdydd agor. Mae’r digwyddiad eleni mewn dau leoliad eiconig, sef tiroedd Castell Caerdydd a lawntiau Neuadd y Ddinas.
Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd wedi bod yn draddodiad poblogaidd yn y ddinas ers blynyddoedd, ac nid yw eleni yn eithriad.
Mae’r trefnwyr wedi creu profiad Gŵyl y Gaeaf hudolus a fydd yn swyno ymwelwyr o bob oed. Gyda Chastell Caerdydd a Neuadd y Ddinas yn gefndir mawreddog, mae Gŵyl y Gaeaf eleni yn argoeli i fod yn un o’r rhai mwyaf cofiadwy eto.
Yn ogystal â’r llawr sglefrio, y llwybr Iâ, y bar barrug, reidiau gwefreiddiol, a stondinau bwyd, mae gan Ŵyl y Gaeaf Caerdydd ostyngiadau unigryw ar gyfer deiliaid Cerdyn Golau Glas, sydd ar gael yn: https://cardiffswinterwonderland.com/cy/promotions/.
Dywedodd Norman Sayers o Normal Sayers Amusements, trefnydd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd:
“Rydym yn falch iawn o groesawu pawb i Ŵyl y Gaeaf eleni. Dyma’r adeg fwyaf hudolus o’r flwyddyn, ac rydym yn credu bod Gŵyl y Gaeaf yn ymgorffori ysbryd y Nadolig. Rydym wedi gweithio’n ddiflino i greu profiad a fydd yn cynhesu calonnau trigolion ac ymwelwyr Caerdydd.”
Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn gwahodd pawb i ymuno yn y llawenydd a dathlu ysbryd y Nadolig yn y lleoliad trawiadol hwn, ynghyd â ffrindiau a theulu, a chreu atgofion a fydd yn para am byth.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer Gŵyl y Gaeaf Caerdydd ar-lein ymlaen llaw, gan ganiatáu i ymwelwyr gynllunio eu hymweliadau’n rhwydd. Diweddariadau diweddaraf, gwybodaeth am docynnau, a manylion y digwyddiad.