Neidio i'r prif gynnwys

CROESO I’R CYFANDIR

Rydym wedi llunio rhestr o’n hoff fannau poblogaidd sy’n dod â blas ein cymdogion Ewropeaidd at galon ein prifddinas. Felly gadewch i ni fynd â chi ar antur bwyd Ewropeaidd.

BLAS AR YR EIDAL

Ydych chi’n chwilio am fwytai Eidalaidd traddodiadol yn y brifddinas? Dyma’r lleoedd i chi. Rydym wedi llunio detholiad o fwytai o safon sy’n gweini’r gorau o’r Eidal. Felly darllenwch ymlaen ar gyfer pizzas, pastas a phwdinau Eidalaidd.

PRYDAU BWYD PARISAIDD

Ydych chi eisiau rhoi cynnig ar y bwyd gorau sydd wedi’i ysbrydoli gan ein cymdogion cyfandirol? Rydym wedi llunio rhestr o’r bistros a’r brasseries Ffrengig gorau i chi.

BLAS AR FWYD SBAENAIDD A PHORTIWGALAIDD

Mae yng Nghaerdydd ddetholiad mawr o fwytai Sbaenaidd a Phortiwgalaidd, felly p’un a ydych yn chwilio am ddewis tapas neu brydau bwyd mwy â chig a physgod – mae’n sicr na fydd ein detholiad yn eich siomi.

BYWYD GROEG

Rhowch gynnig ar fwytai Groegaidd dilys, sy’n gweini prydau bwyd clasurol fel pastitsio a mwsaca, yn ogystal â gyros – y bwyd tecawê Groegaidd clasurol.

AMSER I BWDIN

Os ydych am orffen eich antur bwyd yn y ffordd orau, rydym wedi llunio rhestr o’r caffis pwdinau, y lleoliadau hufen iâ a’r siopau cacennau Ewropeaidd sydd ledled y ddinas.