Beth wyt ti'n edrych am?
Mary Poppins
Dyddiad(au)
03 Rhag 2025 - 10 Ion 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae cynhyrchiad ysblennydd Cameron Mackintosh a Disney o’r sioe gerdd glasurol arobryn Mary Poppins yn cychwyn ar daith o amgylch y DU ac Iwerddon ac yn hedfan i Ganolfan Mileniwm Cymru o 3 Rhagfyr am 6 wythnos yn unig.
Yn seiliedig ar straeon P.L. Travers a’r ffilm Walt Disney, mae stori nani hoff y byd yn cyrraedd Cherry Tree Lane hyd yn oed yn fwy hudolus nag erioed o’r blaen, gyda choreograffi disglair, effeithiau anhygoel a chaneuon bythgofiadwy.
Mae’r sgôr oesol yn cynnwys y caneuon clasurol gan Richard M. Sherman a Robert B. Sherman; Jolly Holiday, Step in Time, Supercalifragilisticexpialidocious a Feed the Birds gyda chaneuon newydd a cherddoriaeth a geiriau ychwanegol gan y tîm Prydeinig arobryn Olivier, George Stiles ac Anthony Drewe.
Canllaw oedran: 7+ (dim plant dan 2 oed)
Sylwch fod yn rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Sad + Sul 2.30pm
Matinees ychwanegol:
Iau 11 + 18 Rhag, Maw 23 + 30 Rhag, Gwe 2 Ion, Mer 7 Ion + Iau 8 Ion 2.30pm
Mer 24 + 31 Rhag 1.30pm
Dim perfformiadau gyda’r nos ar Mer 24 + 31 Rhag.
Dim perfformiadau ar 25 + 26 Rhag.
Amser Rhedeg: Tua 2 awr a 50 munud (gan gynnwys 1 egwyl)
Perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 11 Rhagfyr 2025 + 8 Ionawr 2026 7.30pm
Perfformiadau â Chapsiynau (CAP): 12 Rhagfyr 2025 + 9 Ionawr 2026 7.30pm
Perfformiadau â Disgrifiad Sain (AD): 13 Rhagfyr 2025 + 10 Ionawr 2026 2.30pm, gyda Theithiau Cyffwrdd ar gael am 1.15pm.