Ers i’r gantores enwog leol, y Fonesig Shirley Bassey berfformio yn ein noson agoriadol dros 25 mlynedd yn ôl, rydym wedi cynnal perfformiadau gwych gan artistiaid fel Syr Tom Jones, Elton John, Iron Maiden, The Killers, Westlife, Oasis, Kings of Leon, Lady Gaga a llawer mwy, yn ogystal â rhai o’r enwau mwyaf yn y byd comedi gan gynnwys Lee Evans, Peter Kay, Michael McIntyre a Ricky Gervais.
Mae Utilita Arena Caerdydd yn lleoliad amlbwrpas, yn cynnal cerddoriaeth fyw a sioeau comedi, yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf, fel bocsio a dartiau’r brif gynghrair. Hefyd, rydym yn cynnal ciniawau proffil uchel, cynadleddau ac arddangosfeydd yn ein prif arena, a chyfarfodydd llai, digwyddiadau rhwydweithio a phartïon yn ein hystafelloedd achlysuron eraill, sy’n cynnwys ein gofodau digwyddiadau newydd Allanfa 7 a’r Ardal Ddanaidd.