Agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi sefydlu ei enw fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y byd.
Gweledigaeth y ganolfan yw bod yn dirnod diwylliannol ryngwladol amlwg ac yn ganolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio, a chael ei adnabod am ei ysbrydoliaeth, rhagoriaeth ac arweiniad. Mae’r Ganolfan yn un o ganolfannau celfyddydau perfformio mwyaf unigryw a bywiog Ewrop. Edrychwch y tu hwnt i’w gwedd anhygoel, a fu ar Torchwood a DrWho ac fe gewch yno awyrgylch sy’n gwneud i’n hymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. Ond rydym cymaint mwy na theatr.
Am Ganolfan Mileniwm Cymru
Mae’r Ganolfan yn un o ganolfannau celfyddydau perfformio mwyaf unigryw a bywiog Ewrop. Edrychwch y tu hwnt i’w gwedd anhygoel, a fu ar Torchwood a Dr Who ac fe gewch yno awyrgylch sy’n gwneud i’n hymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. Ond rydym cymaint mwy na theatr.
Daw ein hymwelwyr i fwynhau sioeau cerdd enfawr y West End, operâu, bale a dawns gyfoes, hip hop a chomedi llwyfan, arddangosiadau celf, gweithdai, dyddiau hyfforddi, perfformiadau am ddim yn y cyntedd bob dydd, teithiau tywys, bars a bwytai… mae rhywbeth at ddant pawb! Rydym hefyd yn cynnig teithiau cefn llwyfan y tu ôl i’r llen, y ogystal â theithiau technegol mwy arbenigol a theithiau pensaernïaeth.