Beth wyt ti'n edrych am?
CROESO’N ÔL I GAERDYDD
Edrychwn ymlaen at eich gweld ym mhrifddinas Cymru – dewch i fwynhau ein dinas ac ymgolli yn y diwylliant, yr amrywiaeth o adloniant neu ymlacio yn un o’n mannau harddwch naturiol.
Mae’r ddinas yn llawn dop o ddigwyddiadau ac atyniadau newydd cyffrous sy’n addas ar gyfer pob oedran a chyllideb. Dewch i ddarganfod popeth sydd i’w weld a’i wneud, o grwydro o gwmpas castell ffantasi gothig i wibio ar hyd cwrs rafftio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.
Beth am gael seibiant byr yn y ddinas ac ymlacio yn un o’n gwestai sba anhygoel, neu gysgu mewn hostel am bris rhesymol dros ben? Cewch wledda ar seigiau blasus yn ein bwytai annibynnol niferus, neu flasu rhai o’r hen ffefrynnau yn y bwytai enwocaf yr ydym oll yn eu hadnabod a’u caru.
Llywiwch y wefan a dysgwch am bopeth sy’n ymwneud â Chaerdydd. Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a thanysgrifio i’n cylchlythyr i gadw mewn cysylltiad.
BETH SY'N NEWYDD?

14 Jan 2025
DYDD SANT FFOLANT YNG NGHAERDYDD

17 Apr 2025
Cau Ffyrdd ar gyfer Dydd y Farn ar 19 Ebrill yn Stadiwm Principality Caerdydd

03 Apr 2025
EPCR yn dathlu 50 diwrnod i fynd cyn Penwythnos Rowndiau Terfynol Caerdydd 25 trwy ryddhau tocynnau cyfyngedig yng nghanol y cyffro
17 Mar 2025
CANLLAW SUL Y MAMAU 2025

14 Mar 2025
Mae'n bryd rhoi cynnig ar Gaerdydd y gwanwyn hwn
Mwy o blogiau, amserlenni, datganiadau i'r wasg, a chyngor teithio.
CAERDYDD: UN O'R LLEFYDD GORAU I YMWELD Â NHW YN Y DEYRNAS UNEDIG YN 2025
"Gyda mwy o arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd nag unrhyw ddinas arall yn y DU, mae Caerdydd yn gartref i ddewis amgen trawiadol i'r stryd fawr. Dwi wrth fy modd yn archwilio Cwr y Castell: mae’r ‘ddinas o arcedau’ hon yn cynnig mwy na 100 o fanwerthwyr annibynnol." - Sophie Williams, Time Out