Neidio i'r prif gynnwys

WARBURTON: BYDD CYMRU YN 'DRYDANOL' AR GYFER ROWND DERFYNOL PRO14 GUINNESS 2020

Mae cyn-gapten Cymru a’r Llewod, Sam Warburton, yn credu y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn darparu’r awyrgylch gorau posib pan fydd Rownd Derfynol PRO14 Guinness 2020 yn dod i brifddinas Cymru yr haf nesaf.

Cynhelir Rownd Derfynol PRO14 Guinness ar 20 Mehefin 2020 a bydd yn nodi’r tro cyntaf i Gaerdydd gynnal y digwyddiad yn oes ‘Rowndiau Terfynol Cyrchfan’.

Mae’r gêm wedi sefydlu enw da am fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous ar y calendr rygbi gyda 14 o dimau o Gymru, Iwerddon, yr Eidal, yr Alban a De Affrica yn brwydro i gyrraedd y gêm derfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Rownd Derfynol PRO14 Guinness wedi mwynhau pedair gêm yn olynol â’r nifer fwyaf o gefnogwyr a nawr mae Stadiwm Dinas Caerdydd gyda’i gapasiti o 33,280 yn addo darparu sioe heb yr un sedd wag a fydd yn creu awyrgylch anhygoel.

Gall cefnogwyr gael mynediad i ffenestr ragwerthu unigryw am 48 awr ddydd Llun 26 Awst drwy gofrestru fel aelod o PRO14 Xtra – ewch i xtra.pro14rugby.org neu lawrlwythwch yr App PRO14 Swyddogol i gael mynediad.

Bydd tocynnau cyffredinol ar gael ddydd Mercher, 28 Awst a bydd prisiau’n dechrau am £13 ar gyfer consesiynau a £26 i oedolion (yn amodol ar ffioedd archebu). Mae prisiau tocyn teulu (2 oedolyn / 2 blentyn) yn dechrau am £64 ac anogir cefnogwyr i brynu’n gynnar i gael y tocynnau gwerth gorau.

Does dim amheuaeth gan Sam Warburton, cyn-flaenasgellwr Gleision Caerdydd, y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn darparu croeso trydanol i’r ddau dîm yn y rownd derfynol: “Mae rygbi wastad wedi bod yn gamp wrth galon Cymru ac mae cael digwyddiad rygbi arall o’r radd flaenaf yn ein prifddinas yn gyffrous iawn. Dwi wedi gweld cwpl o gemau yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae’r awyrgylch yn gallu bod yn drydanol gyda’r dorf iawn – mae’n mynd i fod yn rownd derfynol wych pwy bynnag fydd ynddi.

“A minnau’n fachgen o Gaerdydd fy hun, efallai fy mod i’n rhagfarnllyd, ond mae’n ddinas wych gyda chymuned wych. Fel mae’r frân yn hedfan, mae Stadiwm Dinas Caerdydd ychydig llai na milltir o ganol y ddinas, felly mae’n lleoliad gwych i gefnogwyr sydd eisiau gwneud diwrnod neu benwythnos o’r digwyddiad.”

Ar ôl llawer o dwrw i ddod â Rownd Derfynol PRO14 Guinness i Gymru, roedd Martin Anayi, Prif Swyddog Gweithredol Rygbi PRO14, wrth ei fodd y gallai Caerdydd gynnal diwrnod mwyaf y tymor yn y Bencampwriaeth:

“Rydyn ni wedi clywed lleisiau cefnogwyr Cymru a oedd am weld Rownd Derfynol PRO14 Guinness yn cael ei chynnal yma ers tro ac mae’n wych bod yr holl popeth wedi disgyn i’w le ar gyfer 2020. Mae dewis Stadiwm Dinas Caerdydd fel lleoliad ar gyfer Rownd Derfynol y flwyddyn nesaf yn ein galluogi i anelu at ddigwyddiad heb yr un sedd wag ar ôl pedair blynedd yn olynol o’r presenoldeb mwyaf erioed.

“Mae dod â’r Rownd Derfynol i Gymru yn gam arall o ran gwneud rownd derfynol y Bencampwriaeth yn rhywbeth i gefnogwyr rygbi, nid cefnogwyr y timau dan sylw yn unig, ac rydym yn gwybod o brofiad mai cefnogwyr Cymru yw’r mwyaf uchel eu cloch. Mae Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd yn dod â ni i leoliad pêl-droed am yr ail flwyddyn yn olynol yn dilyn llwyddiant ysgubol ein Rownd Derfynol ddiweddaraf ym Mharc Celtic Glasgow.

“Rydym wedi ein calonogi’n fawr gan frwdfrydedd Wayne Nash a’i dîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd eu bod yn gefnogwyr rygbi angerddol sydd wedi arfer cynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf ym maes chwaraeon ac adloniant a bydd y profiad hwnnw’n helpu i wneud ein rownd derfynol yn llwyddiant mawr.

“Er bod y stadiwm ei hun yn adnabyddus am y bêl gron, Caerdydd yw un o’r dinasoedd rygbi mwyaf deniadol ledled y byd ac rydym yn gobeithio mai nid y cefnogwyr lleol yn unig sydd wedi cyffroi, ond pawb o bob cwr o’n gwledydd sy’n cystadlu a thu hwnt.”

Mae’r ras i Gaerdydd yn dechrau ar 27 Medi pan fydd Rownd 1 tymor PRO14 Guinness 2019/20 yn cychwyn. Bydd pob gêm yn cael ei dangos yn fyw ar Premier Sports yn y DU gyda gemau am ddim i’w darlledu rheolaidd yn cael eu darlledu ar Free Sports ac S4C.

Yng Ngweriniaeth Iwerddon, bydd EIR Sport yn dangos y tymor PRO14 Guinness cyfan gyda TG4 yn dangos gemau am ddim i’w darlledu drwy gydol yr ymgyrch. Yn yr Eidal, bydd DAZN yn parhau i sgrinio pob un gêm ar ôl ymddangosiad cyntaf gwych yn dangos y tymor diwethaf ac yn Ne Affrica, bydd Super Sport yn parhau â’u cefnogaeth aruthrol i’r PRO14 Guinness.

Bydd pob darlledwr yn dangos Rownd Derfynol PRO14 Guinness 2020 yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd ar 20 Mehefin gyda Premier Sports yn gwasanaethu fel y prif ddarlledwr.

Gall cefnogwyr gofrestru ar gyfer tocynnau yn xtra.pro14rugby.org neu drwy’r App PRO14 Swyddogol i gael mynediad i’r arwerthiant unigryw 48 awr.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.