Neidio i'r prif gynnwys

PETHAU I’W GWNEUD YNG NGHAERDYDD AM DDIM

Teithio ar gyllideb tynn ac yn chwilio am bethau am ddim i’w gwneud yng Nghaerdydd? Gall Croeso Caerdydd eich helpu chi…

Mae Caerdydd yn ddinas wych i ymweld â hi os ydych yn teithio ar gyllideb tynn, os ydych yn gwybod lle i fynd a beth i’w weld. Mae nifer fawr o atyniadau am ddim y gall twristiaid ymweld â nhw a’u mwynhau yng Nghaerdydd, o amgueddfeydd ac orielau a phensaernïaeth ffantastig i dirnodau hanesyddol, parciau a theithiau cerdded. Wel, rydych chi’n lwcus! Mae tîm Croeso Caerdydd wedi creu rhestr gynhwysfawr o bethau am ddim i’w gwneud yng Nghaerdydd wrth ymweld ar gyllideb dynn, gan ddefnyddio ein gwybodaeth dda am brifddinas Cymru.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yn gartref i gasgliadau celf, hanes naturiol a daeareg cenedlaethol Cymru, dylai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fod ar restr bawb o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd. Os ydych yn ymweld ar gyllideb dynn, dylai hyn fod ar dop y rhestr gan fod yr amgueddfa am ddim.

Os ydych am sefyll a syllu, mae digon i blesio’r llygad – o baentiadau Argraffiadol i ddinosoriaid enfawr.  Weithiau, mae’r amgueddfa’n cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro fydd yn costio mwy i gael mynediad atynt, ond mae’r rhain am bris rhesymol iawn.

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Ewch yn ôl mewn amser yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Saif yr amgueddfa, y mae mynediad iddi am ddim, yn nhiroedd castell hynod Sain Ffagan, plasty o’r 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth yn 1948.

Er 1948, mae dros ddeugain adeilad gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi eu hail-godi yn y parcdir 100 erw, yn cynnwys tai, fferm, ysgol, capel a Sefydliad y Gweithwyr arbennig. Daw Sain Ffagan yn fyw drwy grefftau a gweithgareddau traddodiadol mewn gweithdai lle mae crefftwyr yn parhau i arddangos eu sgiliau traddodiadol.

Trwy gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw, yn llythrennol, wrth ddathlu gwyliau, cerddoriaeth a dawns.

Adeilad y Pierhead

Adeilad y Pierhead

Mae adeilad y Pierhead wedi bod yn rhan ganolog o dirlun Bae Caerdydd ers hydoedd, ac wedi bod yn dyst i newid anferthol yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Ers 1897 mae wedi helpu Cymru i lunio’i hunaniaeth. Ewch i ymweld â’u harddangosfa ryngweithiol a phrofi’r straeon sydd wedi rhoi Bae Caerdydd ar flaen y llwyfan o safbwynt hunaniaeth economaidd a dinesig Cymru am y rhan helaethaf o ddwy ganrif.

Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd

Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, sy’n dirnod ar lannau Bae Caerdydd ac sy’n lleoliad diwylliannol enwog, yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau o wyliau diwylliannol a chelf i farchnadoedd crefftau. Mae gofod arddangos, caffi, ac mae mynediad am ddim. Y tu allan i’r ganolfan, mae strwythur mosaig i gofio am y Capten Scott yr archwiliwr enwog. Mae’n lle gwych i stopio a chael tamaid i fwyta a diod, a gweld arddangosiad os ydych ym Mae Caerdydd.

Y Senedd

Y Senedd

Dewch i gartref democratiaeth Cymru. Wedi’i leoli’n edrych tua glannau Bae Caerdydd, mae’r adeilad cyhoeddus hwn yn un o ddarnau mwyaf anhygoel o bensaernïaeth gyfoes, a dyma Senedd pobl Cymru.

Agorwyd ar Ddydd Gwyl Dewi 2006 gan Frenhines Elisabeth II a’r pensaer enwog, yr Arglwydd Richard Rogers, mae’r Senedd mewn lle perffaith ar lannau’r dwr wrth ymyl adeilad y Pierhead sydd hefyd yn perthyn i ystâd y Cynulliad.

Ewch ar daith am ddim neu wyliwch ddadl yn cael ei chynnal yn y Senedd yn yr oriel gyhoeddus.

Amgueddfa Caerdydd

Amgueddfa Caerdydd

Amgueddfa hwyl am ddim ar gyfer y teulu oll yn archwilio stori a threftadaeth y ddinas.

Y lle perffaith i gychwyn eich ymweliad i Gaerdydd! Amgueddfa Caerdydd yw’r amgueddfa gyntaf lle caiff pobl Caerdydd ac ymwelwyr ddysgu stori’r ddinas trwy lygaid y rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl.

Parc Bute

Parc Bute

Parc Bute ydy calon werdd Caerdydd, a hwn yw un o’r parciau mwyaf a phrydferthaf yn y DU.

Yn ymestyn dros 56 hectar (sy’n cyfateb i 75 cae pêl-droed); hwn yw un o’r parciau trefol mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnwys cymysgedd eang o dirwedd hanesyddol, coetir trefol, caeau chwaraeon, gardd goed, nodweddion garddwriaethol, taith cerfluniau, Caffi’r Ardd Gudd a choridor afon. Gallwch dreulio diwrnod cyfan yma a gweld popeth sydd i’w ddarganfod!

Celf stryd

Celf Stryd

Mae Caerdydd yn ddinas wych ar gyfer celf stryd, gyda murluniau gan artistiaid stryd enwog o bob rhan o’r byd. Mae’r Ŵyl Waliau Gwag, gafodd 3 blynedd o raglennu llwyddiannus, yn llenwi waliau gwag gyda lliw a llun ym maestrefi a chanol dinas Caerdydd. Dewch i weld faint allwch chi ddod o hyd iddyn nhw.

Canolfan y Mileniwm

Canolfan y Mileniwm

Canolfan Mileniwm Cymru, yng nghanol Bae Caerdydd, yw cartref celfyddydau perfformio ac adloniant o safon ryngwladol y genedl.

Mae’r Ganolfan yn un o ganolfannau celfyddydau perfformio mwyaf unigryw a bywiog Ewrop. Mae’r adeilad yn llawn deunyddiau Cymreig megis llechi, dur, copr a phren ac mae’n un o’r adeiladau mwyaf sylweddol o ran pensaernïaeth yng Nghaerdydd. Mae’r ganolfan wedi bod yn rhan o Torchwood, Gavin and Stacey a Dr Who.

Mae mynediad i’r adeilad am ddim ac mae nifer o gaffis, bwytai a bariau y tu mewn yn ogystal â siop roddion. Yn aml, mae gweithgareddau am ddim a pherfformiadau diwylliannol sy’n cael eu cynnal yn y lobi i bobl eu mwynhau.

Taith Cerfluniau Fforest Fawr

Taith Cerfluniau Fforest Fawr

Mae’r daith mewn ardal goetir gyferbyn â’r castell tylwyth teg, Castell Coch. Mae’r llwybr oddeutu milltir a hanner o hyd a’i nod yw mynd â chi ar daith hud a lledrith drwy’r fforest. Yn 2018, cafodd 10 cerflun newydd yn cyfleu anifeiliaid fyddai wedi crwydro drwy fforestydd Cymru eu hychwanegu at y daith ffantastig. Ffordd wych i ail-gysylltu â natur i ddod o hyd i ychydig o dawelwch, ac mae’r cwbl am ddim.

Arcedau oes Fictoria ac oes Edward

Arcedau oes Fictoria ac oes Edward

Ewch ar goll yn ein ‘Dinas Arcedau’. Gyda dros 7 o arcedau oes Fictoria ac Edward i ymchwilio drwyddynt, mae’n ffordd berffaith o dreulio amser. Cewch weld cymeriad a nodweddion unigryw bob arcêd, a chroesawu diwylliant caffis y ddinas, gweld pensaernïaeth ffantastig a dod yn gyfarwydd â siopau unigryw, bistros, delicatessens a siopau annibynnol hyfryd Caerdydd. O siopau ffasiwn fintej i siopau recordiau, a dylunwyr penigamp i gemyddion; mae popeth yng Nghaerdydd.

Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath

Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath

Un o’n hoff leoedd yn y ddinas, nad yw digon o dwristiaid ac ymwelwr yn ei weld, mae Parc a Llyn y Rhath yn ddiwrnod allan am ddim ffantastig i unrhyw un a phawb. Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt a garddwriaeth lleol, am fynd am dro mewn lleoliad hyfryd neu os oes gennych blant sydd am fynd yn wyllt mewn parc chwarae mawr, mae Parc a Llyn y Rhath yn berffaith i chi.

Llwybr Bae Caerdydd

Llwybr Bae Caerdydd

Ewch ar daith ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, cewch weld golygfeydd ysblennydd o’r bae a Môr Hafren a mwynhewch y môr. Mae Llwybr y Bae yn 10km o hyd ac yn pasio sawl atyniad ar hyd y ffordd o’r Eglwys Norwyaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd a mwy. Lawrlwythwch map y llwybr yma neu ewch i nôl un o’r Ganolfan Groeso.

Eglwys Gadeiriol Llandaf

Eglwys Gadeiriol Llandaf

Ewch i ymweld ag un o eglwysi cadeiriol mwyaf deniadol y DU, a gweld hanes, treftadaeth a phensaernïaeth hynod.

Mae’r eglwys gadeiriol yn “Ninas Llandaf” hanesyddol ac mae’n un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ym Mhrydain. Eglwys Gadeiriol SS Peter a Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy yw mam-eglwys Esgobaeth Llandaf.

G39

G39

Mae G39 yn oriel celf gain ar Heol y Plwca. Maent yn aml yn agor eu drysau ac yn cynnal arddangosiadau ffantastig o gelf gain gyfoes sydd am ddim i’r cyhoedd.

Splashpad Parc Fictoria

Splashpad Parc Fictoria

Bydd y rhai bach yn dwlu ar y gweithgaredd am ddim hwn yn ystod misoedd yr haf.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.