Beth wyt ti'n edrych am?
NEWYDD – Hanesion y Tŵr Du yng Nghastell Caerdydd
Stori Llywelyn Bren yn cael ei hadrodd mewn atyniad newydd yng Nghastell Caerdydd.
Brwydr ganoloesol yr arwr lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg yw testun ‘Hanesion y Tŵr Du,’ atyniad teuluol newydd yng Nghastell Caerdydd.
Ymgasglodd gor-ŵyr Ifor Bach, Llywelyn Bren, y bobl leol ynghyd a’u harwain mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth greulon y Sais o Siryf. Canlyniad y frwydr hon dros hawliau ei gydwladwyr oedd carcharu a llofruddio Llywelyn yn yr union fan y mae ei stori ddramatig yn cael ei hadrodd yn awr, dros 700 mlynedd yn ddiweddarach.
Payne de Turberville, y Siryf drwg, sy’n adrodd y stori gyda chymorth ei feistr y ddaeargell, Geraint y Gwalch, a’r llygod mawr sy’n byw yn nyfnderoedd y tŵr. Mae ‘Hanesion y Tŵr Du’ yn dod â’r cyfnod cythryblus hwn o hanes Cymru yn fyw mewn profiad cyffrous, deinamig.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Castell Caerdydd yn enwog am ysblander ei ystafelloedd a gynlluniwyd gan Burges, ond fel y dangosir yn ddramatig yn y ‘Hanesion y Tŵr Du,’ mae ei hanes yn mynd yn ôl lawer ymhellach.
“Ymladdodd Llywelyn Bren dros hawliau ei gydwladwyr yn erbyn Siryf lleol gormesol. Mae carcharu a dienyddio Llywelyn ymhlith hanesion tywyll y Castell, mae’n hanes erchyll iawn, a’r gobaith yw y gallwn helpu ymwelwyr i ddeall y cyfnod hwn o hanes Cymru’n well drwy adrodd y stori yn y ‘Hanesion y Tŵr Du.”
Mae mynediad i ‘Hanesion y Tŵr Du’ yn costio £4.00 i oedolion a £3 i blant (gydag Allwedd y Castell, neu docyn mynediad cyffredinol – £12.50 oedolyn, £9 plentyn, consesiynau £10, Plant dan 5 oed AM DDIM).
Mae Castell Caerdydd ar agor rhwng 10am a 4pm (dydd Llun i ddydd Iau) a rhwng 9am a 5pm (o ddydd Gwener i ddydd Sul).