Neidio i'r prif gynnwys

CYNLLUNIWCH EICH DIWRNOD ALLAN I’R CHWE GWLAD

CYNLLUNIWCH EICH DIWRNOD RYGBI’R CHWE GWLAD GUINNESS YNG NGHAERDYDD

Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto lle mae pawb yng Nghymru’n ymdrochi’n y rygbi. Felly, p’un a oes gennych docyn ar gyfer y gêm, neu os ydych yn mynd i’w gwylio mewn lleoliad prysur yng nghanol y ddinas, dyma’r cyfan sydd angen i chi ei wybod am Chwe Gwlad Guiness 2022 yng Nghaerdydd.

Pryd mae’r gemau cartref?

  • Cymru v Yr Alban – Dydd Sadwrn 12 Chwefror CG 14:15
  • Cymru v Ffrainc – Dydd Gwener 11 Mawrth CG 20:00
  • Cymru v Yr Eidal – Dydd Sadwrn 19 Mawrth CG 14:15

 

 

Pa ffyrdd fydd ar gau a pha fodd yw’r gorau i deithio?

Mae Caerdydd yn dwt, sy’n golygu bod awyrgylch gwych ar ddiwrnodau rygbi pan fydd miloedd o bobl yng nghanol y ddinas! Fodd bynnag, oherwydd hyn, mae hefyd yn syniad da cynllunio sut rydych chi’n mynd i fynd i mewn ac allan o’r ddinas yn ystod y cyfnodau prysur. Edrychwch ar ein tudalen Teithio a Thrafnidiaeth i gael gwybod mwy.

 

 

Ble mae’r llefydd gorau i fwyta ac yfed?

P’un a ydych chi’n chwilio am damaid cyflym i’ch cadw i fynd ar y diwrnod, neu fwyty i rannu pryd gyda’r nos gyda ffrindiau mae’r cyfan yma, ewch i’n tudalen bwyta ac yfed am ragor o wybodaeth.

Fodd bynnag, os hoffech chi wir gofleidio’r gemau cartref, rydym wedi dewis rhai o ffefrynnau canol y ddinas sydd â thema’r Chwe Gwlad …

 

 

WALES

Ar Lôn y Felin brysur, mae’r bar caffi o’r enw Pitch Bar & Eatery yn hynod annibynnol. Maent yn ymfalchïo mewn bwyd Cymreig syml, gonest a modern. Ar agor o frecwast tan goctels bob dydd, maen nhw’n lleoliad gwych i eistedd i lawr ac ymlacio gyda diod neu fwynhau tamaid i’w fwyta. pitchcardiff.com

 

YR EIDAL

Mae Giovanni’s yn fwyty Eidalaidd sydd wedi ennill gwobrau, ac mae ganddo dri lleoliad gwych – ym Mharc y Plas, yr Aes, a Bae Caerdydd – a dyma’r bwyty Eidalaidd teuluol mwyaf hirhoedlog yng Nghymru! Ydych chi’n gwybod y gallwch chi hefyd wylio’r rygbi yn y bwyty? Ar gyfer bwydlenni ac i wneud archeb giovanniscardiff.co.uk

 

FFRAINC

Mae bwyty Côte, a leolir ar Lôn y Felin ac ym Mae Caerdydd, yn cymryd ei hysbrydoliaeth o’r brasseries a’r bistros ym Mharis. Yma cewch fwyta drwy’r dydd, yn wych ar gyfer dathliadau cyn neu ar ôl gêm, ac mae’n cynnig seigiau clasurol o Ffrainc a wneir o gynhwysion o ansawdd da cote.co.uk

 

YR ALBAN

Mae’r bar Albanaidd BrewDog wedi’i leoli’n gyfleus ger y stadiwm ar Heol y Porth. Mae’n ymfalchïo mewn cwrw crefft, mae ar genhadaeth i roi’r angerdd a’r crefftwaith artisan yn ôl yng ngwydrau pobl … ynghyd â bwydlen wych gyda detholiad blasus o fyrgers, cŵn poeth a diferion i weddu pob archwaeth.

 

Ble alla i brynu het wedi’i siapio fel cennin Pedr?

Dydy hi ddim yn ddiwrnod gêm yng Nghaerdydd oni bai eich bod yn gweld dreigiau, cennin Pedr, defaid, baneri a rhai hetiau gwirion. Mae digon o lefydd yng nghanol y ddinas i brynu nwyddau Cymreig gan gynnwys y Siop Anrhegion yng Nghastell Caerdydd, siop URC ar Heol y Porth a Marchnad Caerdydd ar y Stryd Fawr.

What else can I see and do in Cardiff? 

Looking for things to see and do in Cardiff? There are so many places to visit that you’ll be spoilt for choice! Choose from some amazing attractions and fun filled activities… like a tour or the lavish Cardiff Castle, or a spin around the rapids at Cardiff Intentional White Water. The only question is what should you do first? Check out the range of things to see and do in Cardiff

Please note that the Principality Stadium is closed the day before and the day of the event, so guided tours are not available. Also road closures will be in place in the centre approx. 3 hours before kick off. Check out our news page for more information about how to travel to the visitor attraction.

 

Beth arall alla i ei weld a’i wneud yng Nghaerdydd?

Chwilio am bethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghaerdydd? Mae cymaint o lefydd i ymweld â nhw y bydd y dewis yn eich difetha! Dewiswch o blith atyniadau anhygoel a gweithgareddau llawn hwyl … fel taith dywys neu Gastell ysblennydd Caerdydd, neu droelli ar ewyn gwyn Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Yr unig gwestiwn yw beth ddylech ei wneud yn gyntaf? Edrychwch ar yr amrywiaeth o bethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghaerdydd

Nodwch fod Stadiwm Principality ar gau y diwrnod cynt ac ar ddiwrnod y digwyddiad, felly nid oes teithiau tywys ar gael. Hefyd, bydd ffyrdd ar gau yn y canol am tua 3 awr cyn y gic gyntaf. Edrychwch ar ein tudalen newyddion am fwy o wybodaeth ynghylch sut i deithio i’r atyniad ymwelwyr.

 

Cadwch mewn cysylltiad

Rydym wrth ein bodd yn gweld ymwelwyr yn mwynhau Caerdydd felly cofiwch rannu straeon a ffotograffau gyda ni drwy ddefnyddio’r hashnod #CroesoCaerdydd a’n tagio yn eich postiadau @visitcardiff.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.