Neidio i'r prif gynnwys

DEWI SANT: HANES BYR

Dewi Sant oedd y ffigwr mwyaf yn Oes y Seintiau yng Nghymru’r 6ed ganrif, sylfaenydd llu o gymunedau crefyddol, a’r unig nawddsant o wledydd Prydain ac Iwerddon a aned yn y wlad mae’n nawddsant iddi.

Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o’r hyn a wyddom am Dewi Sant gan ysgolhaig o’r 11eg ganrif o’r enw Rhygyfarch. Mae’n dweud wrthym bod Dewi Sant wedi’i eni yn Sir Benfro tua’r flwyddyn 500, yn ŵyr i Ceredig ap Cunedda, brenin Ceredigion. Daeth yn bregethwr enwog, gan sefydlu aneddiadau mynachaidd ac eglwysi yng Nghymru, Llydaw a Lloegr – gan gynnwys, o bosibl, yr abaty yn Glastonbury.

Dywedir ei fod wedi gwneud pererindod i Jerwsalem lle daeth yn archesgob, a sefydlodd gymuned grefyddol lem yn yr hyn sydd bellach yn Dyddewi yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru. Roedd yn enwog am ei lymder duwiol – roedd yn byw ar gennin a dŵr, mae’n debyg – a’i allu i gyflawni gwyrthiau. Unwaith, wrth bregethu yn Llanddewi Brefi, achosodd i’r ddaear godi o dan ei draed fel y gallai pawb glywed ei bregeth.

Bu farw Dewi Sant ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi – yn y flwyddyn 589. Cafodd ei ganoneiddio gan y Pab Callixtus yn y 12fed ganrif, ac rydym wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi byth ers hynny.
(croesocymru.com)

BLAS AR GYMRU


DATHLU CYMRU AR Y SGRÎN

Mae Croeso Cymru wedi llunio rhestr o'r 12 sioe deledu a ffilm orau y mae’n werth eu gwylio sydd wedi defnyddio Caerdydd, prifddinas Cymru, fel lleoliad ffilmio. Eisteddwch yn ôl, ymlacio, a dathlu Dydd Gŵyl Dewi o gysur eich cartref trwy ddathlu Cymru ar y sgrîn.

DATHLU CERDDORIAETH GYMRAEG

Allwch chi ddim dathlu Dydd Gŵyl Dewi heb ddawnsio i rai anthemau Cymreig! Mae Cymru'n adnabyddus ledled y byd fel Gwlad y Gân, ond a wyddech chi fod Caerdydd wedi cael ei datgan yn ddinas gerddorol gyntaf y DU yn ddiweddar?