Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl BBC Radio 6 Music
Dyddiad(au)
30 Maw 2022 - 03 Ebr 2022
Amseroedd
11:00 - 23:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd Caerdydd yn cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music eleni, a gynhelir rhwng dydd Mercher 30ain Mawrth a dydd Sul 3ydd Ebrill. Cyhoeddwyd y perfformwyr ar 6 Music gan Huw Stephens a Mary Anne Hobbs.
Bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ, Sgyrsiau a mwy ar draws nifer o leoliadau ym mhrifddinas Cymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Y Neuadd Fawr ac Y Plas yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed.
Bydd digwyddiadau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda’r nos. Bydd digwyddiadau Dydd Gŵyl 6 Music yn cael eu cynnal yn Tramshed a bydd digwyddiadau’r Nos yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, y Neuadd Fawr ac Y Plas. Bydd Tramshed hefyd yn cynnal digwyddiadau Hwyr 6 Music, noson glwb a fydd yn cynnwys DJs 6 Music a gwesteion arbennig, a fydd yn dilyn gigs byw Nos 6 Music.
Bydd tocynnau ar gyfer pob digwyddiad y mae angen tocyn iddo ar gael o 10am ymlaen ddydd Iau 17eg Chwefror yn www.bbc.co.uk/6musicfestival