Beth wyt ti'n edrych am?
CROESO’N ÔL I GAERDYDD
Edrychwn ymlaen at eich gweld ym mhrifddinas Cymru – dewch i fwynhau ein dinas ac ymgolli yn y diwylliant, yr amrywiaeth o adloniant neu ymlacio yn un o’n mannau harddwch naturiol.
Mae’r ddinas yn llawn dop o ddigwyddiadau ac atyniadau newydd cyffrous sy’n addas ar gyfer pob oedran a chyllideb. Dewch i ddarganfod popeth sydd i’w weld a’i wneud, o grwydro o gwmpas castell ffantasi gothig i wibio ar hyd cwrs rafftio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.
Beth am gael seibiant byr yn y ddinas ac ymlacio yn un o’n gwestai sba anhygoel, neu gysgu mewn hostel am bris rhesymol dros ben? Cewch wledda ar seigiau blasus yn ein bwytai annibynnol niferus, neu flasu rhai o’r hen ffefrynnau yn y bwytai enwocaf yr ydym oll yn eu hadnabod a’u caru.
Llywiwch y wefan a dysgwch am bopeth sy’n ymwneud â Chaerdydd. Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a thanysgrifio i’n cylchlythyr i gadw mewn cysylltiad.
BETH SY'N NEWYDD?
27 Nov 2024
Croesawu 2025: Ble i ddathlu Nos Galan yng Nghaerdydd
Mwy o blogiau, amserlenni, datganiadau i'r wasg, a chyngor teithio.
NADOLIG CAERDYDD 2024
Mae tymor yr ŵyl wir ar ei ffordd, o 16 Medi dim ond 100 diwrnod sydd i fynd ac mae’r cyfrif i Nadolig wedi dechrau! O sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf i grwydro’r Farchnad Nadolig draddodiadol, mwynhau'r goleuadau Nadolig, neu fynd i siopa cyn gwylio sioe Nadoligaidd, mae Caerdydd yn cynnig Nadolig hudol ar gyfer 2024.