Neidio i'r prif gynnwys

DEG DARN O GYNGOR GORAU GAN CROESO CAERDYDD I DEITHIO MEWN FFORDD GYNHALIOL

Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd cynhaliol o ymweld â Chaerdydd, dyna’n canllaw defnyddiol ar deithio ecogyfeillgar.

Rydyn ni i gyd nawr yn llawer mwy ymwybodol o’n heffaith ar y blaned, yn arbennig o ran teithio. Yn ôl booking.com, mae dros hanner (55%) y teithwyr trwy’r byd yn dweud eu bod yn fwy penderfynol o wneud dewisiadau teithio cynaliadwy nawr nag yr oedden nhw flwyddyn yn ôl. Rydyn ni wedi meddwl am ambell air o gyngor i’ch helpu chi i wneud dewisiadau eco-gyfeillgar wrth deithio.

 

 

1. CRWYDRO AR DROED NEU FEIC

Mae Caerdydd yn ddinas wych i gerdded ynddi, ac mae’r rhan fwyaf o’r atyniadau o fewn cyrraedd hawdd. Rhowch dro ar Cardiff Bay Tours neu Cardiff Bay Tours i gael profiad gyda thywysydd. Os oes arnoch awydd fforio ar feic, mae gan Nextbike dros 60 gorsaf mewn lleoliadau cyfleus trwy Gaerdydd, yn cynnwys canol y ddinas, Bae Caerdydd, yr Orsaf Ganolog a’r orsaf fysus yng Ngerddi Sophia.

 

 

2. TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Mae trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs yn well i’r amgylchedd na theithio mewn car ac mae’n hawdd mynd i Gaerdydd mewn trên neu fws.

Cymerwch gip ar Cadw Caerdydd i Symud i gael gwybodaeth am deithio o amgylch y ddinas. Mae cyfrifiannell garbon yno hyd yn oed, i chi gael cymharu effaith gwahanol opsiynau trafnidiaeth (mae angen cofrestru).

Mae Stagecoach wedi lansio llu o 24 bws aur gydag injan Euro VI, yn cynnwys technoleg aros/cychwyn ac allyrron carbon isel i wella safon yr aer ar ei lwybrau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Coed Duon a Chaerffili. Yn ogystal â’u rhinweddau gwyrdd, mae’r bysus newydd yn cynnwys seddau cefn uchel, rhagor o le coesau, wi-fi am ddim a nifer o bwyntiau gwefru USB.

 

 

3. ATYNIADAU

Mae llawer o bethau i’w gweld a gwneud yng Nghaerdydd, yn cynnwys atyniadau sydd wedi ymrwymo’n gadarn wrth gynaliadwyedd.

Techniquest yw canolfan wyddoniaeth hynaf y DU ac mae’n cynnig profiad rhyngweithiol cyffrous ym Mae Caerdydd. Mae’r ganolfan yn ceisio gostwng ei heffaith amgylcheddol trwy effeithlonrwydd ynni, rheoli gwastraff a chael gwared ar gwpanau untro yn y caffi ac mewn digwyddiadau. Mae Techniquest hefyd yn datblygu arddangosiadau newydd, sy’n trafod materion amgylcheddol yn cynnwys nwyon tŷ gwydr, bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.

Os ydych chi’n dod i Gaerdydd ar gyfer cyngerdd neu ddigwyddiad mawr, mae’n ddigon posibl mai i Arena Motorpoint neu i Stadiwm Principality yr ewch chi. Mae Arena Motorpoint yn rhan o siarter cynaliadwyedd fyd eang, gydag amcanion yn cynnwys gostwng nwyon tŷ gwydr, atal gwerthu plastig untro erbyn 2021 a cheisio sicrhau nad yw lleoliadau a digwyddiadau yn anfon unrhyw wastraff i dirlenwi erbyn 2030.

Daeth Stadiwm Principality y stadiwm digwyddiadau cynaliadwy cyntaf ardystiadwy yn y DU yn 2011 trwy ddefnyddio systemau golau LED dan reolaeth cyfrifiaduron i arbed ynni, casglu dŵr glaw dan y cae i ailgylchu dŵr ac ailddefnyddio pridd a glaswellt.

Am ragor o wybodaeth am bethau i’w gweld a gwneud yng Nghaerdydd, ewch i’n hadran ‘Gweld a Gwneud’.

 

 

4. YFED DIGON

Mae’n bwysig yfed digon pan fyddwch allan yn fforio! Mae gan Refill bellach bron i 200 cynllun trwy’r DU ac mae wedi cychwyn ehangu’n rhyngwladol. Dewch o hyd i ddŵr ar eich hynt gan ddefnyddio app Refill. Mae’r gorsafoedd Refill yng Nghaerdydd yn cynnwys Hyb y Llyfrgell Ganolog, Little Man Coffee, Bigmoose Coffee a Lush, yn ogystal â gwestai Premier Inn a rhai canghennau Costa.

 

 

5. MEDDWL CYN YFED

Mae’n wych dod â’ch cwpan ailddefnyddio eich hun am goffi neu de, a chewch ostyngiad mewn llefydd fel Costa a Starbucks os gwnewch hynny. Ond os ydych yn anghofio, neu’n teithio’n ysgafn, mae Costa yn ailgylchu cwpanau untro gan unrhyw gwmni.  Mae Bigmoose Coffee Co. sydd oddi ar Heol y Frenhines yn gwerthu ‘Moosejars’ – cacen mewn jar a chewch 50p yn ôl os dewch â’r jar yn ei hôl!

Mae llawer o fars a thafarndai wedi cyfyngu ar eu defnydd o wellt plastig fel rhan o ymgyrch byd-eang Straws Suck ac ymunodd bragdy eiconig Brains Caerdydd â’r mudiad yn ôl yn 2017. Beth am gael blas go iawn ar fragu Cymreig yn eu tafarndai ar draws y ddinas, gan gynnwys y Goat Major hanesyddol ger Castell Caerdydd a The Dock gyda’i golygfeydd godidog ar draws Bae Caerdydd.

 

 

6. SIOPA DIWASTRAFF

Mae Caerdydd yn gartref i ddwy Siop Ddiwastraff, yng nghymdogaethau ffasiynol y Rhath a Phontcanna; gallwch fynd i’r ddwy yn rhwydd o ganol y ddinas.

Ripple 102, Albany Road, Y Rhath CF24 3RT

Viva Organic, 79 Pontcanna Street CF11 9HS

 

 

7. SIOPA’N LLEOL

Mae Marchnadoedd Ffermwyr yn ffordd wych o brofi cynnyrch lleol sydd heb deithio ymhell. Cewch flas ar Gymru ym marchnadoedd wythnosol poblogaidd Glan-yr-Afon, y Rhath a Rhiwbeina yn ogystal â digwyddiadau yma ac acw gan gynnwys yn Sain Ffagan a Phrifysgol Caerdydd.

 

 

8. BWYD HEB GIG

Os ydych chi’n figan i’r carn neu’n ceisio lleihau faint o gig rydych chi’n ei fwyta, mae Caerdydd yn cynnig ystod eang o opsiynau bwyd gwyrdd.  Ewch i Clancy’s ym Marchnad Caerdydd am fyrbrydau wrth droedio canol y ddinas neu i Vegetarian Food Studio am wledd Indiaidd.

 

 

9. AROS YN LÂN A GWYRDD

I arbed arian ar boteli plastig untro, rhowch dro ar opsiynau eraill heb gynwysyddion. Mae Lush Spa, ar brif stryd siopa Caerdydd, Heol y Frenhines, yn cynnig hanfodion teithio ‘noeth’ yn cynnwys barau siampŵ, jêl cawod soled a blociau o eli haul hyd yn oed.

Os oes arnoch awydd moethusrwydd gwyliau eco-gyfeillgar, rhowch dro ar un o’u triniaethau sba hyfryd, yn cynnwys masaj dwfn, sgrwb corff ac masaj olew cynnes.

 

 

10. LLETY CYNALIADWY

Wrth aros mewn gwesty, dyma rai ffyrdd hawdd o ostwng effaith amgylcheddol eich taith. Rhowch eich llieiniau ar grog fel na chânt eu newid bob dydd a gadewch yr arwydd ‘Peidiwch â tharfu’ ar ddwrn eich drws i osgoi glanhau a golchi dillad gwely diangen.

Yng Nghaerdydd, mae Gwesty a Sba Dewi Sant voco, Gwesty Radisson Blu a Park Inn gan Radisson ill tri wedi cael achrediad gan Green Tourism.