Neidio i'r prif gynnwys

Veganuary yng Nghaerdydd: Y Canllaw Figan a Llysieuol Pennaf

12 Ionawr 2024


 

Mae her Figan mis Ionawr neu ‘Figionawr’ wedi ennill poblogrwydd yn y blynyddoedd diwethaf, felly os ydych chi wedi penderfynu cymryd rhan a rhoi cynnig ar ddeiet wedi ei seilio ar blanhigion yna bydd ein rhestr lleoedd figan yng Nghaerdydd o help.

P’un a ydych chi wedi bod yn figan ers oesoedd, yn rhoi cynnig arni ym mis Ionawr, neu’n arbenigwr bwyd ac yn ceisio blasu gwahanol bethau ym mwytai moesegol a lleoliadau trendi’r ddinas, rydyn ni wedi creu rhestr gynhwysfawr o’r lleoedd gorau sy’n cynnig bwyd llysieuol yng Nghaerdydd.

Figan yn unig neu Lysieuol

 

1. Crumbs, Arcêd Morgan

Mae Crumbs Kitchen yn enwog am un o fariau salad gorau Caerdydd. Chi sy’n dewis a chymysgu eich powlen fach neu fawr o salad eich hun, neu gallwch fwynhau un o’i gawliau, prydau cyri neu tsili llysieuol neu figan. Mae’r bwyty arbennig hwn yng nghalon canol y ddinas yn Arcêd Morgan.

2. Vegetarian Food Studio, Heol Penarth

Prif gogydd Neil Patel sy’n rhedeg The Vegetarian Food Studio ac mae’n defnyddio llysiau, perlysiau a sbeisys ffres i baratoi prydau bwyd Indiaidd unigryw, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae amrywiaeth o felysion Indiaidd hefyd ar gynnig, wedi eu paratoi yn y bwyty â llaw am y rhai sy’n hoff o bethau melys. Ar agor dydd Mawrth a dydd Sul, mae The Vegetarian Food Studio ar Heol Penarth.

 

3. The Moon, Stryd Womanby

Mae’r lleoliad cerddoriaeth annibynnol sefydledig The Moon, hefyd yn adnabyddus am ei fwyd bar figanaidd, perffaith i’ch cadw i fynd drwy’r wythnos, o’u Brecwast Full Moon i’w hystod byrgyrs gan gynnwys y Burning Comet, sy’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n hoffi blas sbeislyd. Ar ddydd Sul, gallwch fwynhau cinio rhost gyda’r holl drimins a thrwy gydol mis Ionawr, beth am roi cynnig ar un o’u harbenigeddau fel fajitas Cajun a phitsas gyda detholiad o dopins.

4. Naked Vegan, Marchnad Caerdydd

Wedi’i leoli’n ddelfrydol ym Marchnad Caerdydd, ewch i Bopty Figan y Flwyddyn am 2022, sy’n gwerthu amrywiaeth o nwyddau wedi’u pobi’n ffres fel cwcis, cnau a macarŵns, yn ogystal â choffi ffres. Hefyd, os oes gennych awydd am rywbeth sawrus, gallwch gael ci poeth â thopin ac wrth sôn am gŵn, maen nhw hefyd yn cynnig hufen iâ i gŵn fel bod eich ci’n rhan o’r hwyl.

5. Clancy’s, Marchnad Caerdydd

Mae Clancy’s sy’n perthyn i dad a mab hefyd yn y Farchnad Ganolog. Yn ogystal â gwerthu amrywiaeth o sbeisys a pherlysiau, mae Clancy’s yn cynnig gwahanol nwyddau llysieuol a figan – o ‘halloumi slammer’ â phaprica a pheli pys melyn i gynigion gwahanol o fwydydd clasurol y farchnad Brydeinig fel y rholiau sosej a’r wyau selsig. Rydym yn argymell ichi roi cynnig ar eu bara pys melyn a naan, bwyd gwych ar gyfer y gaeaf.

 

6. The Atma Lounge, The Capitol

Os oes un peth y mae tîm Croeso Caerdydd wedi ei ddarganfod wrth ymchwilio i farchnad bwydydd figan, hynny fyddai y gall mynachod Hare Krishna goginio rhywbeth a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd. Mae Café Atma yn lolfa’r ffordd o fyw ymwybodol. Yn ogystal â chynnig bwyd Indiaidd blasus iawn, mae’n cynnal nosweithiau lles gan gynnwys myfyrio mantra, sgyrsiau ar hynansylweddoliad a phrydau bwyd llysieuol dau gwrs, hyn i gyd am rodd £5!  Arwyddair Atma yw bodloni corff, meddwl ac enaid pobl Caerdydd ac rydym ni’n credu eu bod yn gwneud gwaith go dda ohono!

7. Falafel Corner, The Capitol

Ewch ar antur bwyd yn y bar ffalaffel hwn, a leolir yn ddelfrydol o fewn Canolfan Capitol ar Heol y Frenhines, gan gynnig platiau hwmws, meze figan, tortilas Libanus, cŵn poeth ffalaffel, pitas â llenwadau a phowlenni salad – neu beth am roi cynnig ar eu Buffalo Ciabatta tatws melys. Mwynhewch flas bara Za’atar Mediteranaidd, salad ffres ac amrywiaeth o hwmws.

 

8. Luna’s Vegan Corner, Heol Wellfield

Yng nghanol y Rhath y ganwyd y bwyty hwn allan o angerdd am fwyd blasus, byw’n ymwybodol a chred mewn caredigrwydd at anifeiliaid. Ers agor, mae wedi dod yn brif fwyty figan sy’n adnabyddus am fwyd gwych, amgylchedd hamddenol a gwasanaeth da. Yn gweini bwydlen ffres gyda phrydau cyri a phasta, byrgyrs yn ogystal â detholiad o fwydydd archwaeth a dysglau ochr.

Perffaith i grwpiau o figaniaid, llysieuwyr a rhai sy’n bwyta cig

 

1. The Grazing Shed, Lôn y Barics

Mae The Grazing Shed yn cynnig rhai o fyrgyrs gorau Caerdydd ac maent yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys pobl figan. Yn ogystal â’r byrgyrs cyw iâr a chig eidion, mae pum byrgyr gwahanol ar fwydlen The Grazing Shed, sy’n ei wneud yn un o’r lleoedd gorau i fynd iddo i figaniaid a’r rhai sy’n bwyta cig. Hefyd, mae gan y ‘Dirty Vegan’ BBC Cymru – Matthew Pritchard ei fyrgyr ei hun ar y fwydlen. Rydym yn argymell ichi roi cynnig arno, wedi’r cwbl ef yw’r boi Caerdydd gyda’r sioe goginio llysiau.

2. Tiny Rebel, Heol y Porth

Mae Tiny Rebel wedi ei hen sefydlu fel un o fragdai gorau Cymru ac nid y diodydd sydd ar gynnig yw’r unig bethau blasus yno. Synnech chi fod Tiny Rebel yn cynnig bwydlen â detholiad mawr o brydau a byrbrydau bar llysieuol hefyd. Os byddwch yn dod i mewn am beint o ‘Cwtch’, rydym yn argymell i chi roi cynnig ar eu hadenydd figan – mae dewis o naw saws gwahanol. Ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy? Rydych chi’n lwcus – mae pum pryd figan arall ar eu bwydlen gan gynnwys rholiau, byrgyrs a phitsa.

 

3. Pho, Heol yr Eglwys

Bwyty Fietnameaidd yw Pho sydd â bwydlen amrywiol lle gallwch ddewis o gawl nwdls pho, cyri, salad, powlenni reis, a llawer mwy. Mae’n hynod boblogaidd ledled y wlad, nid dim ond achos y blas anhygoel sydd i goginio Fietnamaidd, ond mae hefyd yn iach tu hwnt. Mae 40% y fwydlen yn figan, a bron yn gyfan gwbl ddi-glwten (achredir Pho gan Coeliac UK) felly mae’n berffaith i bobl â gofynion deietegol.

4. Pieminister, Heol Eglwys Fair

Mae peis Pieminster wedi’u gwneud o gynhwysion o ffynonellau moesegol ac mae digon o ddewis i lysieuwyr a feganiaid – ac mae bwydlen bwrpasol sy’n cynnwys tair pei ddi-glwten blasus i’r rhai sydd ar ddeiet di-glwten. Gyda thair pei figan a dwy bei lysieuol, dewch o hyd i’r bei berffaith ar gyfer eich hwyliau.

 

5. The Coconut Tree, Lôn y Felin

Dewch i brofi coginio figanaidd a llysieuol sy’n manteisio ar ddigonedd natur yn The Coconut Tree. Mwynhewch gynhesrwydd lletygarwch a bwyd o Sri Lanca, sy’n cael ei weini ‘fel y mae’.   Mae eu prydau’n llawn perlysiau Seilón gyda’r ryseitiau o geginau eu rhieni eu hunain sy’n mynd yn ôl sawl cenhedlaeth.  I ddathlu Ionawr Figanaidd, mae The Coconut Tree wedi cyflwyno 3 phryd blasus newydd i’w bwydlen: Brinjals Moju, Gova Mallun a ‘Straight Up’ Bonchi.

6. Las Iguanas, Lôn y Felin a Cei’r Fôr-Forwyn

Dathlwch flasau America Ladin yn un o ddau Iguanas Caerdydd, a rhowch gynnig ar glasuron blasus ochr yn ochr â chreadigaethau amheuthun unigryw. Gyda llu o opsiynau figan a llysieuol o bob blas a sbeis, mae rhywbeth at ddant pawb. Hefyd, ar gyfer mis Ionawr mae yna gynnig 2 am 1 ar gyrsiau cyntaf a phrif gwrs figan a llysieuol, o Ddydd Sul tan Ddydd Iau, dim ond i chi gyrchu cod o’u gwefan.

 

7. Pontcanna Inn, Heol y Gadeirlan

Mae’r bar a lolfa glasurol ym Mhontcanna wedi diweddaru’r fwydlen ar gyfer y Flwyddyn Newydd gan ychwanegu adran figan bwrpasol i’w bwydlen. Rhowch gynnig ar eu cynnig nhw ar adenydd, byrgyrs a tsili figan wedi’u gweini ochr yn ochr â bwydlen newidiol o blatiau bach, platiau mawr a phlatiau i’w rhannu.


Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol o fwytai figan yng Nghaerdydd o bell ffordd, dim ond blas ar yr hyn sydd ar gael! Cymerwch olwg ar ein tudalennau bwyd a diod am fwy. 

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.