Neidio i'r prif gynnwys

Canllaw Anrhegion Nadolig Croeso Caerdydd

Oes gennych chi ffrindiau neu deuluoedd sy’n anodd prynu anrhegion ar eu cyfer?

Na phoenwch, darllenwch y canllaw hwn sy’n cynnwys 12 o syniadau amgen a gwych i fodloni pawb.

I dynnu’r straen allan o siopa Nadolig eleni mae Hilton wedi cyflwyno ystod wych o dalebau anrhegion. Gallwch ddewis y swm a gall eich anwyliaid ddewis gwario’r talebau ar aros mewn gwestai neu ddanteithion yn y bwyty, gan gynnwys brecinio diddiwedd, te prynhawn neu swper.

Cewch sicrwydd ychwanegol o wybod bod ganddynt hyd at 6 mis i wario’r talebau. Prynwch yma.

Cymerwch olwg ar gynnyrch Nadolig 200 Degrees sy’n amrywio o nwyddau bach i lenwi’r hosan i offer gwneud coffi proffesiynol gartref – rhoddion perffaith i’r ‘bobl coffi’ ar eich rhestr!

Am brynu rhodd i rywun sy’n arbennig o ffyslyd am ei goffi? Gadewch iddo ddewis ei goffi ei hun gyda thaleb tanysgrifio. Siopwch yma.

P’un a yw’n achlysur arbennig neu’n syrpreis hyfryd, mae tocynnau rhodd i westy’r Future Inn yn rhodd berffaith i’r person arbennig yn eich bywyd.

Mae’r tocynnau’n ddilys am 12 mis.  Mae te prynhawn yn dechrau o £14 y person a gwely a brecwast o gyn lleied ag £89 i 2 berson! Dysgwch fwy yma.

Os ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig ychydig yn wahanol, does dim angen i chi chwilio ymhellach na thocynnau rhodd ar gyfer Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Nid nepell o ganol y ddinas, mae’r cyfleuster chwaraeon dŵr gwyn poblogaidd hwn yn cynnig gweithgareddau anturus gan gynnwys Rafftio Dŵr Gwyn, Ton Dan Do ac Antur Awyr.

Dyma’r anrheg ddelfrydol i deulu a ffrindiau fwynhau amser cofiadwy gyda’i gilydd, mae’r tocynnau yn dechrau am ddim ond £10 ac maen nhw’n ddilys am chwe mis (mae cyfyngiadau oedran ac amodau a thelerau yn berthnasol).

Prynwch eich rhai chi nawr yma, wrth dderbynfa’r ganolfan neu drwy ffonio 029 2082 9970.

Ein profiad gwneud jin yw’r anrheg perffaith i unrhyw un sy’n dwlu ar jin. Mae’r profiad hwn yn cynnwys G&T wrth gyrraedd, taith o amgylch Distyllfa Castell Hensol a’r cyfle i wneud eich potel o jin unigyrw eich hun gyda’n prif ddistyllwr.

  • £95yn unig y pen (Dydd Iau)
  • £110yn unig y pen (Dydd Gwener – Dydd Sul)
  • £150yn unig i ddau berson (dydd Iau – dydd Sul a dau berson yn rhannu un botel 70cl o jin)

Noder: mae’r distyllfa’n agor yng Ngwanwyn 2021.

Mwy o wybodaeth yma.

Gan fod 2020 yn flwyddyn i aros gartref, beth am drin eich anwyliaid i noson haeddiannol i ffwrdd?

Mae’r gwesty wedi’i leoli oddi ar Heol y Frenhines Caerdydd, felly bydd y person lwcus yng nghanol y cyfan! Daw’r tocynnau rhodd ar ffurf £10, £25, £50 a £100. Mwy o wybodaeth yma.

Talebion

Gallwch nawr brynu talebau Honest Burgers ar-lein i’w defnyddio yn y bwyty neu ar gyfer tecawê i chi’ch hun neu i’w hanfon fel anrheg. Dysgwch fwy yma.

Dwsin Cigydd

Mae hwn yn drît go iawn i’r rheiny sy’n hoffi byrgyrs. Mae Honest Burgers yn cynnig 13 o fyrgyrs drwy gydol y flwyddyn nesaf – sef ein byrgyr arbennig y mis bob mis a Phecyn Byrgyr DIY Honest at Home.

Bydd y derbynnydd yn derbyn cylch allweddi wedi’i lapio sy’n unigryw iddo ef sy’n datgelu ei fyrgyr ar bob ymweliad ac y bydd yn cael mynediad i’r Honest Federation – byd unigryw o gynnwys, blasu a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Neu – dewiswch Hanner Dwsin

Prin yw’r cyfle i brynu’r rhain rhwng nawr a’r Nadolig gan mai dim ond pedair gwaith y flwyddyn y cânt eu rhyddhau, felly prynwch nawr cyn y Nadolig.
Mae ein dwsin cigydd yn arbed tua £50 ar flwyddyn o fyrgyrs

Mae hwn yn rhywbeth arbennig ac yn cael ei ddarparu fel cynnig hanner dwsin hefyd. Mae’n cynnwys chwe byrgyr arbennig y mis ynghyd â phecyn Honest at Home i ddau.

Cliciwch yma i archebu.

Jess Glynne – Bydd un o artistiaid mwyaf llwyddiannus y DU, Jess Glynne, yn dod â’i brand bywiog o gerddoriaeth bop i safle cyngerdd awyr agored mwyaf hanesyddol ac ysblennydd Caerdydd gan ychwanegu at y rhestr hir o sioeau sydd wedi’u llwyfannu yno’n llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf. Mwy o wybodaeth yma: Be Sy Mlaen? Jess Glynne yng Nghastell Caerdydd

Olly Murs – Gyda’r gwesteion arbennig, Scouting for Girls.  Mwy o wybodaeth yma: Be Sy Mlaen? Olly Murs yng Nghastell Caerdydd

Bydd y seren ryngwladol Michael Buble yn dychwelyd i Gaerdydd i ganu yng Nghastell Caerdydd hanesyddol ac eiconig. Mwy o wybodaeth yma: Noson gyda Michael Buble | Dydd Iau 22 Gorffennaf 2021 (castellcaerdydd.com)

Mae’r artist hynod lwyddiannus Bryan Adams, sydd wedi gwerthu miliynnau o recordiau, yn dod i’r DU yr haf nesaf a bydd yn dod â’i sioe awyr agored ysblennydd i leoliad eiconig Castell Caerdydd. Mwy o wybodaeth yma: Be Sy Mlaen? Bryan Adams yng Nghastell Caerdydd

P’un a yw’n achlysur arbennig neu’n syrpreis hyfryd, mae tocynnau rhodd gwesty Park Plaza yn rhodd berffaith i’r person arbennig yn eich bywyd. Dewiswch o un o’r profiadau Te Prynhawn niferus neu dewiswch Brofiad Sba fel yr anrheg foethus ddelfrydol.

Cymerwch olwg ar y tocynnau rhodd yma.

Rhannwch hud Whittard y Nadolig hwn ac ewch i’r emporiwm Nadolig naill ai yn y siop y tu mewn i Arcêd y Frenhines neu ar-lein. I’r sawl sy’n cael trafferth gwneud penderfyniadau, beth am roi’r Bocs Rhodd o Flas ar y Nadolig, sy’n cynnwys Pwdin Nadolig, Bisgedi Menyn a thuniau pentyrru llawn siocled poeth – blasus iawn!

Siopwch yma.

Mae tocynnau rhodd Edwards yn anrheg ddelfrydol i’ch anwyliaid! Mae rhywbeth arbennig iawn am roi anrheg a fydd yn creu atgofion newydd a gallwch ddefnyddio ein tocynnau rhodd ar gyfer gwyliau teuluol, gwyliau dinesig, teithiau undydd a llawer mwy i wireddu hyn.

I brynu eich rhai chi, ffoniwch ei swyddfa ar 0144320204 neu ewch i

Ewch i siop Gleision Caerdydd am y nwyddau swyddogol ar gyfer tymor 2020/21, yr anrheg berffaith i’r rheiny sy’n hoffi rygbi! O becynnau diwrnodau gêm swyddogol, hwdis, ategolion a hetiau bobl i lenwi hosanau Nadolig, i gyd ar gael yma.

13. CERDYN RHODD FOR CARDIFF

Gellir gwario cerdyn rhodd FOR Cardiff mewn dros saith deg o fusnesau ar draws canol dinas Caerdydd, o enwau mawr fel John Lewis a Marks & Spencer i ffefrynnau annibynnol fel Bar 44, Wally’s Deli a Hobo’s Vintage.

Nid yw siopa’n lleol erioed wedi bod yn bwysicach ac mae ein cardiau rhodd yn ffordd wych o gefnogi busnesau Caerdydd. Mae’r cardiau’n ddilys am flwyddyn gyfan o’u prynu felly gallwch eu prynu nawr a’u gwario’n ddiweddarach heb boeni am y cyfyngiadau. Gallwch brynu cerdyn o unrhyw werth rhwng £10 a £500 yma.