Neidio i'r prif gynnwys

12 TAFARN Y NADOLIG CAERDYDD

Dydd Iau 31 Hydref 2024


 

Pa ffordd well o fwynhau ysbryd yr ŵyl na chrôl tafarnau a bariau Canol Dinas Caerdydd gyda’ch ffrindiau gorau?

Rydyn ni wedi creu canllaw 12 Tafarn y Nadolig Caerdydd, felly gwisgwch eich hoff siwmper gwlanog a phrofwch eu bwydydd a diodydd blasus gorau! Rydyn ni wedi cynnwys amrywiaeth go dda, o beints tawel mewn tafarn draddodiadol i goctels twt a thaclus a falle ambell i beth annisgwyl – rhywbeth i bawb.

Peidiwch ag anghofio ein tagio ar eich anturiaethau Nadoligaidd – @VisitCardiff #YmweldâChaerdydd

1. THE BOTANIST

Mae’r lleoliad yma wedi’i haddurno’n wych ac yn gwbl ysblennydd ac unigryw.   Ymgollwch yn y gerddoriaeth fyw, mwynhewch ddiodydd Nadoligaidd a rhowch gynnig ar fwydlenni blasus llawn hwyl yr ŵyl.

Cadwch y parti i fynd a gofynnwch am eich hoff gân i ddawnsio drwy gydol y noson gyda’n hartistiaid byw talentog.

 

Stryd yr Eglwys, CF10 1BG

2. TEMPLE BAR

Does dim eisiau mynd yr holl ffordd i Iwerddon i joio fel y gwyddelod, yn y dafarn Wyddelig draddodiadol yma llond y lle o chwerthin, peints da, a craic.  Lle cynnes a chlyd yw hwn i fwynhau blas o Iwerddon, gyda stowt, wisgi a bwyd Gwyddelig traddodiadol i dwymo’r enaid a’r galon.  Cewch chi flas o nid yn unig bwyd y gwyddelod, ond eu lletygarwch hefyd.

6 Y Stryd Fawr, CF10 1FA

3. DAFFODIL

Mae Daffodil yn gastropub hyfryd ac ymlaciol ar deras Sioraidd prydferth yng nghanol dinas Caerdydd.  Yn enwog am ei awyrgylch cynnes a’i ymroddiad i arddangos y cynnyrch Cymreig gorau, mae Daffodil yn cynnig bwydlen dymhorol sy’n tynnu sylw at gynhwysion a thraddodiadau coginio lleol.

Yn ystod yr ŵyl eleni, mae’r Daffodil yn eich gwahodd i ymuno â nhw am brofiad bwyta cofiadwy gyda’u bwydlen tri chwrs Nadoligaidd am £37.95 y pen.  Dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer dathliadau gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr.

33 Plas Windsor, CF10 3BZ

4. THE PHILHARMONIC

Am brofiad Nadoligaidd heb ei debyg, does dim eisiau mynd ymhellach na’r Philharmonic.  Dyma’r lle i fod os am fwynhau hwyl yr ŵyl yn iawn! Beth am gadw ardal breifat â bwffe Nadoligaidd llawn danteithion, neu gael Brynsh Nadoligaidd gyda’ch Mêts?  ‘Sdim diffyg o ran pecynnau diodydd chwaith i ddawnsio tan oriau bach y bore yn y Clwb 360 adnabyddus.

Heol Eglwys Fair, CF10 1FA

5. PITCH

Galwch heibio am ddrinc mewn bar sy’n ymfalchïo mewn bod yn annibynnol ac yn y cynhwysion syml Cymreig ar eu platiau.  Os chi’n chwilio am frecwast, coctel, neu bryd o fwyd blasus, chewch chi mo’ch siomi, felly pam lai? Dim ond y cynhwysion gorau hynny sy’n tynnu dŵr i’r dannedd welwch chi ar y plât yn Pitch, gan ffermwyr, tyfwyr, gwneuthurwyr a marchnadoedd lleol. Mae’r rhain yn cael eu hasio’n brydau da, llawn blasau ffres a newydd – llafur cariad i greu bwyd gwych.

Lôn y Felin, CF10 1FL

6. GŴYL Y GAEAF CAERDYDD

Ymlaciwch gyda’ch ffrindiau a mwynhewch ddiod yn lleoliad mwyaf cŵl y ddinas, sef profiad newydd cyffrous y Bar Iâ yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd!  Dyma nefoedd dan y rhewbwynt i Instagramwyr ac ydy, mae popeth wedi’i wneud o iâ. I ymweld â’r Bar Iâ, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw slot amser ymlaen llaw. Bydd y caban sgïo deulawr bythol boblogaidd, Sur la Piste, yn dychwelyd ac eleni bydd teras to awyr agored newydd sbon.

Neuadd y Ddinas Lawnt a Thiroedd Castell Caerdydd

7. MAES YR ŴYL CAERDYDD

Yn seiliedig ar farchnadoedd Bavaria, mae Maes yr Ŵyl yn atyniad poblogaidd ar Stryd Working ers nifer o flynyddoedd gyda naws Nadoligaidd yng nghanol prysurdeb y ddinas.  Dewch heibio, bachwch fwrdd yn y cabanau clyd, a thorrwch syched gyda pheint o gwrw a bratwurst sawrus, y ffordd berffaith o orffwys cyn bwrw mlaen gyda’r siopa Nadolig!

Stryd Working, CF10 1GN

8. BONNIE ROGUES

Amser am bach o egni? Tafarn bartïo yw Bonnie Rogues i gynulleidfa bach fwy aeddfed. Gydag ysbrydoliaeth o dafarnau’r DU ac awyrgylch neuaddau a gerddi cwrw yr Almaen, dyma dafarn fodern gydag awyrgylch braf a hwyl.  Diweddglo addas i noson Nadoligaidd!

Heol Eglwys Fair, CF10 1FA

9. DEPOT

Mwynhewch ysbryd yr ŵyl a hwyl Gwyddelig wrth i DEPOT ddathlu tymor y Nadolig gyda BINGO LINGO: The Christmas Craic-ker! Eleni, bydd DEPOT yn rhedeg 8 Digwyddiad Nadolig Arbennig, bob dydd Gwener a Dydd Sadwrn 29 Tachwedd – 21 Rhagfyr.

Dewch i ddawnsio’r noson bant gyda’u band Gwyddelig traddodiadol, a fydd yn chwarae eich hoff glasuron Nadolig. Mwynhewch awyrgylch tafarndai hudolus Iwerddon a chofleidio ‘lwc y Gwyddelod’ gyda chyfle i ennill gwobrau gwych!

Arglawdd Curran, CF10 5DY

10. THE CITY ARMS

Chwilio am le bach mwy traddodiadol? Paradwys cwrw ers blynyddoedd maith, a thafarn i ymweld â hi heb os, yw’r City Arms.  Mae detholiad newydd o gwrw drafft o hyd o ledled Cymru a gweddill y DU, a digon o ddewis o’r botel hefyd.

Stryd y Cei, CF10 1EA

11. FLIGHT CLUB

Mae tri llawr y lle yma yn llawn teyrngedau i’n dinas, goleuadau sy’n dawnsio’n gydamserol gyda’r gerddoriaeth, Bella ac Astrid ein ceffylau ffair, a bariau arbennig i yfed coctel neu dri.  A nid dyna’r cyfan! Byddwch chi’n siŵr o deimlo ar ben y byd ar ein teras to cynnes gyda chabanau clyd a charafán draddodiadol. O, ac ydyn ni wedi sôn am y blwch ffôn disgo? Codwch y ffôn; ‘sdim dal pwy fydd yn ateb.

3-4 Heol Eglwys Fair, CF10 1AT

12. THE IVY

Bwyd drwy’r dydd mewn lle soffistigedig a hamddenol yng nghalon y ddinas.  Yn ogystal â’r prif ardal fwyta sy’n llawn manylder Art Deco hyfryd a meinciau oren dwys trawiadol, mae gyda ni ein bar ysblennydd ar y llawr cyntaf dan goeden flodeuog hardd.

Ymgollwch yn hud a lledrith y Nadolig gyda’n Bwydlenni Nadolig arbennig.  Ar gael o 14 Tachwedd, mwynhewch ddau gwrs am £50 neu dri chwrs am £55, gan gynnwys ein Pastai’r Bugail gyda Gŵydd a Thwrci arbennig a Crème Brûlée fyddwch chi ddim yn gallu dweud na wrtho, ymhlith prydau Nadoligaidd eraill.

Yr Ais, CF10 1GA

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.