Pryd mae Goleuadau Nadolig Caerdydd yn cael eu Troi Ymlaen?

If you’re ready to let your seasonal spirits shine, then make sure you Visit Cardiff on Thu 13 November. While there is no official switch on ceremony, as evening falls our beautiful displays will twinkle into life for the first time across the city centre. On the same day, Cardiff’s Winter Wonderland, the Christmas Market, and the Bavarian Festive Quarter will all open their doors as we officially welcome the magic of the festive season.

GOLEUADAU NADOLIG CANOL Y DDINAS

Fel sy’n draddodiadol i Gaerdydd, y dydd Iau cyntaf yn dilyn Sul y Cofio bydd ein goleuadau’n mynd ymlaen am y tro cyntaf. Eleni mae’n disgyn ar ddydd Iau 13 Tachwedd pan fydd y prif strydoedd cerddwyr a’r ardaloedd manwerthu i gyd yn disgleirio’n llawen, a bydd uchafbwyntiau tymhorol gan gynnwys y Farchnad Nadolig a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn agor.

GOLEUADAU YM MHARC BUTE

Ble: Parc Bute
Pryd: Gwe, 21 Tachwedd 2025 – Mercher, 31 Rhagfyr 2025

Bellach yn ffefryn cadarn yng nghalendr digwyddiadau Nadolig Caerdydd, mae llwybr goleuadau Nadoligaidd mwyaf blaenllaw’r genedl, y Nadolig ym Mharc Bute, yn ôl am y 5ed flwyddyn. Mwynhewch daith gerdded milltir o hyd trwy fyd hudolus o oleuadau gyda 15 parth golau gwahanol, taith wirioneddol hudolus yng nghysgod Castell hanesyddol Caerdydd.

SGWÂR CANOLOG

Ble: Canol Dinas Caerdydd
Pryd: I’w gadarnhau

DINAS YR ARCÊDAU

Ble: Canol Dinas Caerdydd
Pryd: O ddydd Iau, 13 Tachwedd 2025

Mae Dinas yr Arcêdau, Caerdydd, yn cynrychioli 150 mlynedd o hanes manwerthu Cymru sy’n cynnwys ein saith arcêd siopa Fictoraidd ac Edwardaidd hardd. Adeg y Nadolig, mae profiad bwtic yr arcêdau hyd yn oed yn fwy arbennig gydag arddangosfeydd trawiadol o oleuadau disglair ac addurniadau traddodiadol.

ST DAVID’S DEWI SANT

Ble: Canol Dinas Caerdydd
Pryd: O ddydd Iau 30 Hydref

Mae prif gyrchfan siopa dan do Caerdydd yn rhoi llawer iawn o ymdrech i’w harddangosfeydd blynyddol o addurniadau a goleuadau Nadolig. Os na allwch aros tan fis Tachwedd, yna ewch am apêl Nadolig gynnar o Hydref 30ain, pan fydd y gosodiad graddol yn dechrau.

Y NADOLIG YNG NGHAERDYDD

Does byth amser drwg i Ymweld â Chaerdydd, gyda chymaint o ddigwyddiadau, atyniadau a phethau i’w gweld ym mhrifddinas ffyniannus Cymru, ond mae ‘na wastad rhywbeth hudolus am y ddinas adeg y Nadolig. Felly, teimlwch fod ysbryd y tymor yn dod yn fyw, beth bynnag sy'n ei wneud yn arbennig i chi, mae gan y Nadolig yng Nghaerdydd rywbeth i bawb.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.