Neidio i'r prif gynnwys

Pethau i'w Gwneud a'u Harchwilio am Ddim yng Nghaerdydd yn 2025

Dydd Llun, 30 Rhagfyr 2024


 

Mae Caerdydd yn ddinas wych i ymweld â hi os ydych yn teithio ar gyllideb tynn, os ydych yn gwybod lle i fynd a beth i’w weld. Mae nifer fawr o atyniadau am ddim y gall twristiaid ymweld â nhw a’u mwynhau yng Nghaerdydd, o amgueddfeydd ac orielau a phensaernïaeth ffantastig i dirnodau hanesyddol, parciau a theithiau cerdded. Wel, rydych chi’n lwcus! Mae tîm Croeso Caerdydd wedi creu rhestr gynhwysfawr o bethau am ddim i’w gwneud yng Nghaerdydd wrth ymweld ar gyllideb dynn, gan ddefnyddio ein gwybodaeth dda am brifddinas Cymru.

1. Amgueddfa Cymru, Caerdydd

Yn gartref i gasgliadau celf, hanes naturiol a daeareg cenedlaethol Cymru, dylai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fod ar restr bawb o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd. Os ydych yn ymweld ar gyllideb dynn, dylai hyn fod ar dop y rhestr gan fod yr amgueddfa am ddim.

Os ydych am sefyll a syllu, mae digon i blesio’r llygad – o baentiadau Argraffiadol i ddinosoriaid enfawr.  Weithiau, mae’r amgueddfa’n cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro fydd yn costio mwy i gael mynediad atynt, ond mae’r rhain am bris rhesymol iawn.

Lleoliad: Heol Gerddi’r Orsedd, Parc Cathays, CF10 3NP

Amgueddfa Cymru, Caerdydd

2. Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Ewch yn ôl mewn amser yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Saif yr amgueddfa, y mae mynediad iddi am ddim, yn nhiroedd castell hynod Sain Ffagan, plasty o’r 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth yn 1948.

Ers 1948, mae dros ddeugain adeilad gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi eu hailgodi yn y parcdir 100 erw, gan gynnwys tai, fferm, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd. Daw Sain Ffagan yn fyw trwy grefftau a gweithgareddau traddodiadol mewn gweithdai lle mae crefftwyr yn parhau i arddangos eu sgiliau traddodiadol.

Trwy gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw wrth ddathlu gwyliau, cerddoriaeth a dawns.

Lleoliad: Pentref Sain Ffagan, CF5 6XB

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

3. Y Pierhead

Mae adeilad y Pierhead wedi bod yn rhan ganolog o dirlun Bae Caerdydd ers hydoedd, ac wedi bod yn dyst i newid anferthol yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Ers 1897 mae wedi helpu Cymru i lunio’i hunaniaeth. Ewch i ymweld â’u harddangosfa ryngweithiol a phrofi’r straeon sydd wedi rhoi Bae Caerdydd ar flaen y llwyfan o safbwynt hunaniaeth economaidd a dinesig Cymru am y rhan helaethaf o ddwy ganrif.

Lleoliad: Stryd Pen y Lanfa, Bae Caerdydd, CF10 4PZ

Y Pierhead

4. Y Senedd

Dewch i gartref democratiaeth Cymru. Wedi’i leoli’n edrych tua glannau Bae Caerdydd, mae’r adeilad cyhoeddus hwn yn un o ddarnau mwyaf anhygoel o bensaernïaeth gyfoes, a dyma Senedd pobl Cymru.  Archebwch daith am ddim neu wyliwch ddadl yn cael ei chynnal yn y Senedd yn yr oriel gyhoeddus.

Gallwch gymryd hoe yn y caffi i fyny grisiau, yna beth am edrych o gwmpas adeilad cyfagos y Pierhead, sydd hefyd yn rhan o stad y Senedd.

Lleoliad: Stryd Pen y Lanfa, Bae Caerdydd, CF99 1SN

Y Senedd

5. Amgueddfa Caerdydd

Amgueddfa hwyl am ddim ar gyfer y teulu oll yn archwilio stori a threftadaeth y ddinas.

Y lle perffaith i ddechrau eich ymweliad â Chaerdydd! Amgueddfa Caerdydd yw’r amgueddfa gyntaf lle caiff pobl Caerdydd ac ymwelwyr ddysgu stori’r ddinas trwy lygaid y rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl.

Lleoliad: Yr Ais, Canol y Ddinas, CF10 1BH

Amgueddfa Caerdydd

6. Parc Bute 💚

Parc Bute ydy calon werdd Caerdydd, a hwn yw un o’r parciau mwyaf a phrydferthaf yn y DU.

Yn ymestyn dros 56 hectar (sy’n cyfateb i 75 cae pêl-droed); hwn yw un o’r parciau trefol mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnwys cymysgedd eang o dirwedd hanesyddol, coetir trefol, caeau chwaraeon, gardd goed, nodweddion garddwriaethol, taith cerfluniau, Caffi’r Ardd Gudd a choridor afon. Gallwch dreulio diwrnod cyfan yma a gweld popeth sydd i’w ddarganfod!

Lleoliad: Heol y Gogledd, Cathays CF10 3ER

Parc Bute

7. Taith Cerfluniau Fforest Fawr 💚

Mae’r daith hon mewn ardal goetir gyferbyn â’r castell tylwyth teg, Castell Coch. Mae’r llwybr oddeutu milltir a hanner o hyd a’i nod yw mynd â chi ar daith hud a lledrith drwy’r fforest. Yn ddiweddar, cafodd 10 cerflun newydd yn cyfleu anifeiliaid fyddai wedi crwydro drwy fforestydd Cymru eu hychwanegu at y daith ffantastig. Ffordd wych i ail-gysylltu â natur i ddod o hyd i ychydig o dawelwch, ac mae’r cwbl am ddim.

Lleoliad: Fforest Farm Road, Yr Eglwys Newydd, CF14 7JH

Fforest Fawr

8. Arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd

Ewch ar goll yn ein ‘Dinas Arcedau’. Gyda dros 7 o arcedau oes Fictoria ac Edward i ymchwilio drwyddynt, mae’n ffordd berffaith o dreulio amser. Cewch weld cymeriad a nodweddion unigryw bob arcêd, a chroesawu diwylliant caffis y ddinas, gweld pensaernïaeth ffantastig a dod yn gyfarwydd â siopau unigryw, bistros, delicatessens a siopau annibynnol hyfryd Caerdydd. O siopau ffasiwn fintej i siopau recordiau, a dylunwyr penigamp i gemyddion; mae popeth yng Nghaerdydd.

Lleoliad: Canol y Ddinas

Arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd

9. Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath 💚

Un o’n hoff leoedd yn y ddinas, nad yw digon o dwristiaid ac ymwelwr yn ei weld, mae Parc a Llyn y Rhath yn ddiwrnod allan am ddim ffantastig i unrhyw un a phawb. Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt a garddwriaeth lleol, am fynd am dro mewn lleoliad hyfryd neu os oes gennych blant sydd am fynd yn wyllt mewn parc chwarae mawr, mae Parc a Llyn y Rhath yn berffaith i chi.

Lleoliad: Heol Orllewinol y Llyn, Y Rhath, CF23 5PA

Parc y Rhath

10. Morglawdd Bae Caerdydd 💚

Ewch am dro ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, mwynhewch olygfeydd ysblennydd o’r bae a Môr Hafren ac awel y môr. Stopiwch i ffwrdd yn y plaza sglefrio, campfa awyr agored AdiZone ac ardal chwarae i blant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cadw llygad am y Crocodeil Enfawr – ond peidiwch â phoeni, mae’r un yma’n seiliedig ar y cymeriad o lyfr Roald Dahl.

Lleoliad: Morglawdd Bae Caerdydd, Bae Caerdydd, CF10 4LY

Morglawdd Bae Caerdydd

11. Llwybr Bae Caerdydd

Eisiau gweld mwy o’r Bae? Ewch ar eich beic (neu casglwch Nextbike o’r tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru) a seiclo Llwybr y Bae ar draws y Morglawdd heibio’r Eglwys Norwyaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd – ar Farina Penarth a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, gan ei ddilyn rownd i’r Clwb Hwylio nes i chi gyrraedd nôl yng nghanolfan gyfarwydd Cei’r Fôr-forwyn.

Lleoliad: Bae Caerdydd

Llwybr Bae Caerdydd

12. Eglwys Gadeiriol Llandaf

Ewch i ymweld ag un o eglwysi cadeiriol mwyaf deniadol y DU, a phrofi hanes, treftadaeth a phensaernïaeth ryfeddol.

Saif yr eglwys gadeiriol yn “ninas” hynafol Llandaf ac mae’n un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ym Mhrydain. Eglwys Gadeiriol SS Peter a Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy yw mam-eglwys Esgobaeth Llandaf.

Lleoliad: Clos y Gadeirlan, Llandaf, CF5 2LA

Eglwys Gadeiriol Llandaf

 


💚    Caru Crwydro Caerdydd? Mae ap i hynny.

 

Os ydych chi’n ffan o ymgolli yn yr awyr agored yn ein prifddinas, yna beth am lawrlwytho’r ap Love Exploring o’r Apple Store neu Play Store, i fynd â chi ar eich antur. Dilynwch y llwybrau yn yr ap, gyda marcwyr sy’n dweud mwy wrthych am hanes, natur a phensaernïaeth a chanllawiau llywio’r ddinas.

Bydd y plant wrth eu boddau gyda’r gemau realiti estynedig rhyngweithiol lle gallant weld creaduriaid yn dod yn fyw o’u blaenau, trwy’r sgrin ffôn. Mae’r llwybrau wedi cael eu curadu gan arbenigwyr yn nhîm awyr agored Caerdydd, gan rannu eu gwybodaeth am ein parciau naturiol a’n meysydd o harddwch.

Awgrym: Gallwch ddefnyddio’r ap Love Exploring lle rydych chi’n gweld y galon werdd.