Neidio i'r prif gynnwys

FELLY BETH YW

PADLFYRDDIO?

Mae padlfyrddio yn weithgaredd yn y dŵr sydd wedi dod yn hynod boblogaidd yn ddiweddar yn y DU.  Mae’n gyfuniad o syrffio a chanŵio neu gaiacio lle mae angen sefyll ar ben bwrdd mawr a defnyddio padl canŵ i symud ar y dŵr.

Mae padlfyrddio’n weithgaredd gwirioneddol hygyrch ac addas ar gyfer padlwyr o bob oed, lliw a llun, y gyd sydd rhaid gwneud yw camu mlaen a rhoi cynnig arni, mae hefyd yn ffordd hwyliog a chymdeithasol o brofi’r awyr agored. Gellir mwynhau padlfyrddio hefyd ar naill ai’r môr agored neu’r dyfroedd mewndirol, a gall fod mor gorfforol neu ara’ deg ag y dymunwch.

Felly, os ydych chi’n frwd dros athletau neu’n gefnogwr antur achlysurol, gallai padlfyrddio fod yn weithgaredd perffaith i chi roi cynnig arno nesaf.

LLE MAE MODD

PADLFYRDDIO YNG NGHAERDYDD?

Mae Caerdydd yn lle gwych i ddod i brofi eich antur padlfyrddio eich hun.

Mae glannau braf Bae Caerdydd yn amgylchynu llyn dŵr croyw 200 hectar ac yn cael ei fwydo gan ddwy afon eiconig y ddinas, y Taf a’r Trelái.  Gyda dau gyfleuster chwaraeon o’r radd flaenaf, sef Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a Chanolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd, mae’r Bae’n arena chwaraeon dŵr mewndirol di-guro sy’n berffaith ar gyfer dechreuwyr pur a phadlwyr mwy profiadol.

Gyda holl fanteision bod yng nghanol y ddinas, chewch chi ddim problem o ran parhau gyda’r hwyl pan chi nol ar dir sych.  Pan chi wedi rhoi eich padlfwrdd nol i gadw, mae ystod o westai, atyniadau a bywyd nos heb fod yn bell o’r dŵr.

I gael gwybod mwy am y gwahanol leoliadau yn y ddinas edrychwch ar y blog a’r flogs gan Dale a Darren o Stand Up Paddle UK isod.

PADLFYRDDIO GYDA STAND UP PADDLE UK

Bu Dale a Darren o Stand Up Paddle UK yn treulio ambell ddiwrnod ar lannau Caerdydd ar eu padlfyrddau, gan aros yn un o westai mwyaf crand y ddinas a darganfod popeth sydd ar gael ar dir sych y Bae hefyd!

PADLFYRDDIO GYDA STAND UP PADDLE UK

Bu Dale a Darren o Stand Up Paddle UK yn treulio ambell ddiwrnod ar lannau Caerdydd ar eu padlfyrddau, gan aros yn un o westai mwyaf crand y ddinas a darganfod popeth sydd ar gael ar dir sych y Bae hefyd!

DARGANFOD BAE CAERDYDD

Mae angen i hyd yn oed y padlfyrddiwr mwyaf brwd gamu yn ôl ymlaen i dir sych ar ryw adeg ac, ym Mae Caerdydd, nid oes angen i chi fentro ymhell iawn o ymyl y dŵr i ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch. O amgylch y glannau bywiog, fe welwch ddewis gwych o atyniadau, adloniant a bwyd a diod.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.