Neidio i'r prif gynnwys

Y Gaeaf o Archwilio: Pethau am ddim i'w Gwneud yng Nghaerdydd

Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2024


 

Mae Caerdydd yn ddinas wych i ymweld â hi os ydych yn teithio ar gyllideb tynn, os ydych yn gwybod lle i fynd a beth i’w weld. Mae nifer fawr o atyniadau am ddim y gall twristiaid ymweld â nhw a’u mwynhau yng Nghaerdydd, o amgueddfeydd ac orielau a phensaernïaeth ffantastig i dirnodau hanesyddol, parciau a theithiau cerdded. Wel, rydych chi’n lwcus! Mae tîm Croeso Caerdydd wedi creu rhestr gynhwysfawr o bethau am ddim i’w gwneud yng Nghaerdydd wrth ymweld ar gyllideb dynn, gan ddefnyddio ein gwybodaeth dda am brifddinas Cymru.

1. Amgueddfa Cymru, Caerdydd

Yn gartref i gasgliadau celf, hanes naturiol a daeareg cenedlaethol Cymru, dylai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fod ar restr bawb o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd. Os ydych yn ymweld ar gyllideb dynn, dylai hyn fod ar dop y rhestr gan fod yr amgueddfa am ddim.

Os ydych am sefyll a syllu, mae digon i blesio’r llygad – o baentiadau Argraffiadol i ddinosoriaid enfawr.  Weithiau, mae’r amgueddfa’n cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro fydd yn costio mwy i gael mynediad atynt, ond mae’r rhain am bris rhesymol iawn.

Lleoliad: Heol Gerddi’r Orsedd, Parc Cathays, CF10 3NP

Amgueddfa Cymru, Caerdydd

2. Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Ewch yn ôl mewn amser yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Saif yr amgueddfa, y mae mynediad iddi am ddim, yn nhiroedd castell hynod Sain Ffagan, plasty o’r 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth yn 1948.

Ers 1948, mae dros ddeugain adeilad gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi eu hailgodi yn y parcdir 100 erw, gan gynnwys tai, fferm, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd. Daw Sain Ffagan yn fyw trwy grefftau a gweithgareddau traddodiadol mewn gweithdai lle mae crefftwyr yn parhau i arddangos eu sgiliau traddodiadol.

Trwy gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw wrth ddathlu gwyliau, cerddoriaeth a dawns.

Lleoliad: Pentref Sain Ffagan, CF5 6XB

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

3. Y Pierhead

Mae adeilad y Pierhead wedi bod yn rhan ganolog o dirlun Bae Caerdydd ers hydoedd, ac wedi bod yn dyst i newid anferthol yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Ers 1897 mae wedi helpu Cymru i lunio’i hunaniaeth. Ewch i ymweld â’u harddangosfa ryngweithiol a phrofi’r straeon sydd wedi rhoi Bae Caerdydd ar flaen y llwyfan o safbwynt hunaniaeth economaidd a dinesig Cymru am y rhan helaethaf o ddwy ganrif.

Lleoliad: Stryd Pen y Lanfa, Bae Caerdydd, CF10 4PZ

Y Pierhead

4. Y Senedd

Dewch i gartref democratiaeth Cymru. Wedi’i leoli’n edrych tua glannau Bae Caerdydd, mae’r adeilad cyhoeddus hwn yn un o ddarnau mwyaf anhygoel o bensaernïaeth gyfoes, a dyma Senedd pobl Cymru.  Archebwch daith am ddim neu wyliwch ddadl yn cael ei chynnal yn y Senedd yn yr oriel gyhoeddus.

Gallwch gymryd hoe yn y caffi i fyny grisiau, yna beth am edrych o gwmpas adeilad cyfagos y Pierhead, sydd hefyd yn rhan o stad y Senedd.

Lleoliad: Stryd Pen y Lanfa, Bae Caerdydd, CF99 1SN

Y Senedd

5. Amgueddfa Caerdydd

Amgueddfa hwyl am ddim ar gyfer y teulu oll yn archwilio stori a threftadaeth y ddinas.

Y lle perffaith i ddechrau eich ymweliad â Chaerdydd! Amgueddfa Caerdydd yw’r amgueddfa gyntaf lle caiff pobl Caerdydd ac ymwelwyr ddysgu stori’r ddinas trwy lygaid y rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl.

Lleoliad: Yr Ais, Canol y Ddinas, CF10 1BH

Amgueddfa Caerdydd

6. Parc Bute 💚

Parc Bute ydy calon werdd Caerdydd, a hwn yw un o’r parciau mwyaf a phrydferthaf yn y DU.

Yn ymestyn dros 56 hectar (sy’n cyfateb i 75 cae pêl-droed); hwn yw un o’r parciau trefol mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnwys cymysgedd eang o dirwedd hanesyddol, coetir trefol, caeau chwaraeon, gardd goed, nodweddion garddwriaethol, taith cerfluniau, Caffi’r Ardd Gudd a choridor afon. Gallwch dreulio diwrnod cyfan yma a gweld popeth sydd i’w ddarganfod!

Lleoliad: Heol y Gogledd, Cathays CF10 3ER

Parc Bute

7. Taith Cerfluniau Fforest Fawr 💚

Mae’r daith hon mewn ardal goetir gyferbyn â’r castell tylwyth teg, Castell Coch. Mae’r llwybr oddeutu milltir a hanner o hyd a’i nod yw mynd â chi ar daith hud a lledrith drwy’r fforest. Yn ddiweddar, cafodd 10 cerflun newydd yn cyfleu anifeiliaid fyddai wedi crwydro drwy fforestydd Cymru eu hychwanegu at y daith ffantastig. Ffordd wych i ail-gysylltu â natur i ddod o hyd i ychydig o dawelwch, ac mae’r cwbl am ddim.

Lleoliad: Fforest Farm Road, Yr Eglwys Newydd, CF14 7JH

Fforest Fawr

8. Arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd

Ewch ar goll yn ein ‘Dinas Arcedau’. Gyda dros 7 o arcedau oes Fictoria ac Edward i ymchwilio drwyddynt, mae’n ffordd berffaith o dreulio amser. Cewch weld cymeriad a nodweddion unigryw bob arcêd, a chroesawu diwylliant caffis y ddinas, gweld pensaernïaeth ffantastig a dod yn gyfarwydd â siopau unigryw, bistros, delicatessens a siopau annibynnol hyfryd Caerdydd. O siopau ffasiwn fintej i siopau recordiau, a dylunwyr penigamp i gemyddion; mae popeth yng Nghaerdydd.

Lleoliad: Canol y Ddinas

Arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd

9. Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath 💚

Un o’n hoff leoedd yn y ddinas, nad yw digon o dwristiaid ac ymwelwr yn ei weld, mae Parc a Llyn y Rhath yn ddiwrnod allan am ddim ffantastig i unrhyw un a phawb. Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt a garddwriaeth lleol, am fynd am dro mewn lleoliad hyfryd neu os oes gennych blant sydd am fynd yn wyllt mewn parc chwarae mawr, mae Parc a Llyn y Rhath yn berffaith i chi.

Lleoliad: Heol Orllewinol y Llyn, Y Rhath, CF23 5PA

Parc y Rhath

10. Morglawdd Bae Caerdydd 💚

Ewch am dro ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, mwynhewch olygfeydd ysblennydd o’r bae a MĂ´r Hafren ac awel y mĂ´r. Stopiwch i ffwrdd yn y plaza sglefrio, campfa awyr agored AdiZone ac ardal chwarae i blant. Gwnewch yn siĹľr eich bod yn gallu cadw llygad am y Crocodeil Enfawr – ond peidiwch â phoeni, mae’r un yma’n seiliedig ar y cymeriad o lyfr Roald Dahl.

Lleoliad: Morglawdd Bae Caerdydd, Bae Caerdydd, CF10 4LY

Morglawdd Bae Caerdydd

11. Llwybr Bae Caerdydd

Eisiau gweld mwy o’r Bae? Ewch ar eich beic (neu casglwch Nextbike o’r tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru) a seiclo Llwybr y Bae ar draws y Morglawdd heibio’r Eglwys Norwyaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd – ar Farina Penarth a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, gan ei ddilyn rownd i’r Clwb Hwylio nes i chi gyrraedd nĂ´l yng nghanolfan gyfarwydd Cei’r FĂ´r-forwyn.

Lleoliad: Bae Caerdydd

Llwybr Bae Caerdydd

12. Eglwys Gadeiriol Llandaf

Ewch i ymweld ag un o eglwysi cadeiriol mwyaf deniadol y DU, a phrofi hanes, treftadaeth a phensaernĂŻaeth ryfeddol.

Saif yr eglwys gadeiriol yn “ninas” hynafol Llandaf ac mae’n un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ym Mhrydain. Eglwys Gadeiriol SS Peter a Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy yw mam-eglwys Esgobaeth Llandaf.

Lleoliad: Clos y Gadeirlan, Llandaf, CF5 2LA

Eglwys Gadeiriol Llandaf

 


💚    Caru Crwydro Caerdydd? Mae ap i hynny.

 

Os ydych chi’n ffan o ymgolli yn yr awyr agored yn ein prifddinas, yna beth am lawrlwytho’r ap Love Exploring o’r Apple Store neu Play Store, i fynd â chi ar eich antur. Dilynwch y llwybrau yn yr ap, gyda marcwyr sy’n dweud mwy wrthych am hanes, natur a phensaernĂŻaeth a chanllawiau llywio’r ddinas.

Bydd y plant wrth eu boddau gyda’r gemau realiti estynedig rhyngweithiol lle gallant weld creaduriaid yn dod yn fyw o’u blaenau, trwy’r sgrin ffĂ´n. Mae’r llwybrau wedi cael eu curadu gan arbenigwyr yn nhĂŽm awyr agored Caerdydd, gan rannu eu gwybodaeth am ein parciau naturiol a’n meysydd o harddwch.

Awgrym: Gallwch ddefnyddio’r ap Love Exploring lle rydych chi’n gweld y galon werdd.