Beth wyt ti'n edrych am?
DEWCH O HYD I’R BWYTAI GORAU YM MAE CAERDYDD A CHANOL Y DDINAS.
Mae gan Gaerdydd ddewis gwych o fwytai yng nghanol y ddinas, sy’n gweddu i brifddinas Cymru, mae digon o lefydd bwyta o’r radd flaenaf ym Mae Caerdydd hefyd. O fwytai moethus i fwyd stryd, boed yn frecwast, cinio neu swper, mae amrywiaeth wych o flasau sy’n adlewyrchu cymeriad amrywiol y ddinas, yn fannau i fwynhau stecen ac yn gastrodafarnau, yn fraseriau ac yn fannau pizza, cyri a byrgyrs. Felly, os ydych chi’n chwilio am fwyd da ac eisiau gwybod ble i fwyta allan yng Nghaerdydd, fe welwch yr holl fwytai gorau yma.
GIGGLING SQUID – BAE CAERDYDD
Ym mwyty Giggling Squid, cewch chi blataid llawn blas a chynhwysion egsotig, gan gogyddion sy’n hen law ar eu crefft, i dwymo’r corff a’r galon. Dyma’r traddodiad Thai go iawn - bywiog ac anffurfiol, gyda gwledd o brydau i rannu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.
JOHN LEWIS & PARTNERS
John Lewis and Partners is a premium department store stocking a range of electricals, home products and fashion.