Neidio i'r prif gynnwys

PENWYTHNOSAU PLU YNG NGHAERDYDD

Ydych chi’n forwyn briodas sy’n gobeithio gwneud y briodferch yn falch yn ei pharti plu? Wel, rydych chi wedi dewis Caerdydd, felly rydych chi eisoes yn gwneud rhywbeth yn iawn! Mae’r Ddinas, sy’n ddelfrydol gan ei bod yn gywasgedig, yn llawn opsiynau, p’un a ydych yn chwilio am rywbeth gwyllt neu efallai rywbeth mwy hamddenol a soffistigedig.

Mae cymaint o weithgareddau cyffrous, llawer o fariau i fwynhau coctels ynddynt, a digonedd o westai i ddewis ohonynt. A wnaethon ni sôn bod gennym ein maes awyr ein hunain hyd yn oed?  Mae’r orsaf drenau hefyd dafliad carreg i ffwrdd o’r gwestai niferus yng Nghanol y Ddinas. Edrychwch ar ein tudalen Teithio a Thrafnidiaeth i gael rhagor o wybodaeth.

I’ch ysbrydoli, rydym wedi llunio rhestr o’n syniadau gorau ar gyfer parti plu gwych yng Nghaerdydd!

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, cynigion arbennig, a’r cynnwys diweddaraf a mwy gan croesocaerdydd.com