Neidio i'r prif gynnwys

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

AR GYFER EICH TEITHIAU

Mae ein prifddinas yn gyraeddadwy iawn o wahanol rannau o’r DU, gyda threnau mynych o lawer o ddinasoedd, cysylltiad uniongyrchol â thraffordd yr M4 i yrwyr, ei maes awyr rhyngwladol ei hun yn ogystal â gwasanaethau bysus fforddiadwy rheolaidd.

Pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd, gallwch gerdded o amgylch canol y ddinas yn hawdd. Gallwch ddal bws dŵr rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd, neu fynd ar y bws gwennol Teithiau’r Ddinas a chael gwybod am ein llwybr treftadaeth a diwylliant.

I grwydro’r ardal ehangach, mae Caerdydd yn rhan o rwydwaith Metro De Cymru, gydag 20 o orsafoedd rheilffordd ledled y ddinas, gan gynnwys dwy orsaf (Canol Caerdydd a Heol-y-Frenhines Caerdydd) yng nghanol y brifddinas.

Hidlen

Ail Gychwyn
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.