Neidio i'r prif gynnwys

Mae mwy o bobl yn berchen ar gŵn nag erioed o’r blaen, ac mae Croeso Caerdydd yn sylweddoli nad yw gadael eich ffrindiau blewog gartref bob amser yn opsiwn. Felly, beth am ddod â nhw gyda chi y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld â phrifddinas Cymru? Efallai eich bod wedi dewis gwyliau gwledig yn hytrach na gwyliau mewn dinas, ond mae Caerdydd yn llawn atyniadau sy’n croesawu cŵn, gan gynnwys bariau, bwytai, gwestai a pharciau hardd sy’n berffaith ar gyfer arhosiad ymlaciol gyda’ch ci.

Sgroliwch drwy ein canllaw i weld y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud, bwytai blasus, teithiau cerdded cŵn golygfaol a gwestai iddynt orffwys eu pawennau ar ôl diwrnod hir.

GWELD A GWNEUD

Diolch i’r drefn, nid yw dod â’ch ci gyda chi ar eich gwyliau yn y ddinas yn golygu y byddwch yn colli allan ar fwynhau diwylliant a threftadaeth atyniadau niferus Caerdydd. Gallwch hyd yn oed wneud ychydig o siopa pan fyddwch yma yn un o’r nifer o siopau sy’n croesawu cŵn.

Er y gallai fod rhai cyfyngiadau ar ba ardaloedd y gallant eu harchwilio (cofiwch wirio gyda staff wrth gyrraedd), mae’r un croeso i’r rheini sydd â phedair coes i’r rheini sydd â dwy yn y lleoliadau a restrir isod…

CAFFIS, TAFARNDAI A BWYTAI

Rydyn ni’n gwybod y gall bwyta allan gyda’ch ci fod yn lletchwith. Yn ffodus, mae llawer o sefydliadau bwyd a diod Caerdydd yn hapus i’w croesawu cyhyd â’u bod yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.

Mae’r rhan fwyaf o fannau sy’n croesawu cŵn yn cynnig powlen adnewyddol o ddŵr wrth eich bwrdd i’w hadfywio ar ôl taith gerdded hir. Neu, os yw’ch ci yn un crand, efallai y byddai’n well ganddo goffi neu beint o gwrw i gŵn!

TEITHIAU CERDDED CŴN GOLYGFAOL

Ydych chi eisiau dianc rhag prysurdeb bywyd y ddinas am ychydig oriau? Wel rydych chi’n lwcus.  Mae Caerdydd yn llawn tir gwahanol i’w droedio, golygfeydd i’w gweld ac arogleuon newydd i’w clywed.

P’un a fyddai’n well gennych archwilio mannau gwyrdd, mynd am dro ar draws morglawdd ar y glannau neu adael i’ch ci redeg yn rhydd mewn cae caeëdig – mae gennym y cyfan yma!

GWESTAI SY’N CROESAWU CŴN

Mae’n rhaid bod eich ffrind blewog wedi blino’n lân ar ôl yr holl archwilio. Rhowch ei dennyn i gadw a chaniatáu iddo orffwys ei bawennau yn rhai o westai a fflatiau â gwasanaeth niferus Caerdydd sy’n croesawu cŵn.

Peidiwch ag anghofio gwirio’r rheolau o ble rydych chi’n aros, gan bod rhai llefydd ond yn caniatáu cŵn o faint penodol.

Cofiwch, mae digonedd o ddewis ar gael. Darganfyddwch ragor o fannau poblogaidd i’w harchwilio gyda’ch anifeiliaid anwes trwy ddewis y tag a’r categori ‘Croesawu Cŵn’ ar ein gwefan.

Methu dewis?

Darganfyddwch beth mae Teddy a Norman, poms blogger lleol Proper Lush Caerdydd, yn ei garu am y ddinas.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.