Gall fforio mewn prifddinas beri dryswch, gyda chymaint i’w gynnig mae’n anodd dewis beth i’w gynnwys mewn un daith. Gallwn ni helpu. Mae’r tîm wedi llunio cyfres o gynlluniau teithiau i’ch rhoi ar ben ffordd.

Os ydych chi’n chwilio am bethau hwyliog i’w gwneud ar gyfer gwyliau dinas yng Nghaerdydd, sgroliwch y llithrydd isod a chliciwch ar un sy’n mynd â’ch ffansi.  P’un a ydych am gael diwylliant, chwaraeon neu ychydig o orffwys ac adfer, Caerdydd sydd â’r cyfan.

CAERDYDD: DINAS YR ARCEDAU

Caerdydd - dinas cestyll a diwylliant, lle mae saith arcêd Fictorianaidd ac Edwardaidd yn swatio ymhlith rhai o enwau mawr y stryd fawr. Yn gartref i dros 100 o gaffis, bariau a siopau annibynnol yng nghanol y ddinas, mae’r arcedau’n brofiad siopa gwirioneddol unigryw.

ANGEN MWY O ARWEINIAD?

Os ydych chi'n dal i deimlo ar goll neu'n chwilio am deilwra’ch ymweliad ychydig yn fwy, cysylltwch â'r tîm cyfeillgar ar y cyfryngau cymdeithasol!